Neidio i'r prif gynnwy

Eitemau o offer maes awyr sydd dros ben o Faes Awyr Môn a gynigir i’w gwerthu, a thelerau ac amodau gwerthu.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Enghraifft o Gontract Gwerthiant, gan gynnwys Telerau ac Amodau Gwerthu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 330 KB

PDF
330 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Manylion

Gwybodaeth bwysig i gynigwyr:

  • Mae pob eitem yn cael eu cynnig i’w gwerthu yn unigol ac yn annibynnol o’i gilydd. Gall prynwyr wneud cais am un neu ragor o bob eitem, hyd at y nifer uchaf sydd ar gael. Dylai’r ceisiadau gynnwys pris fesul eitem, ynghyd â’r nifer rydych chi’n ceisio amdano (pan fo sawl eitem ar gael).
  • Gellir trefnu i weld yr offer yn bersonol ym Maes Awyr Môn. Anfonwch e-bost at hedfanaethporthladdoeddalogisteg@llyw.cymru os hoffech drefnu ymweliad. Nodwch, nad oes modd inni ddangos offer diogelwch y maes awyr a restrir ar waith gan nad oes gweithredwr cymwysedig gennym ar gael i ddangos yr offer.
  • Diben y contract enghreifftiol a ddarperir yw dangos yr amodau a’r telerau y byddai gofyn i brynwr gytuno arnynt pe bai ei gynnig yn cael ei dderbyn. Mae Llywodraeth Cymru’n cadw’r hawl, fel y gwêl yn dda, i newid neu ollwng unrhyw rai o delerau’r contract enghreifftiol.  Ni fydd Llywodraeth Cymru’n ymrwymo i gytundeb gydag unrhyw brynwr ar sail amodau a thelerau’r prynwr ei hun. 
  • Cyfrifoldeb y prynwr yw unrhyw gostau, a’r holl gostau sy’n ymwneud â symud yr offer, eu cludo, eu hyswirio a’u hailosod.
  • Rhaid symud pob eitem a brynwyd o’r safle cyn 16:00 o’r gloch ddydd Gwener 3 Mawrth 2023.
  • Caiff eitemau eu ‘gwerthu fel y’u gwelir’.
  • Mae hon yn broses ceisiadau cystadleuol gudd.