Neidio i'r prif gynnwy
Rhian Hayward

Rhian Hayward MBE yw Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (AberArloesi).

Mae AberArloesi yn gartref i labordai a mannau prosesu o'r radd flaenaf. Ei nod yw annog ymchwil gydweithredol rhwng busnesau, entrepreneuriaid ac academyddion ym meysydd:

  • bwyd a diod
  • bio-fireinio
  • maetheg
  • amaeth-dechnoleg

Mae Rhian yn dod o Abertawe yn wreiddiol. Mae hi wedi gweithio mewn  amrywiaeth o gwmnïau newydd yn y sector gwyddorau bywyd yn y DU, a chwmnïau sy'n gysylltiedig â’r sector hwnnw. Mae hi wedi dal swyddi marchnata, datblygu busnes a thechnegol. Diddordeb Rhian yw biodechnoleg – yn enwedig yn yr heriau a'r boddhad sy’n gysylltiedig â masnacheiddio technolegau sydd yn eu camau cynnar.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Rhian wedi dal penodiadau cyhoeddus, gan gynnwys:

  • Aelod  o Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol
  • Bwrdd Ymgynghorol Gwyddonol Cronfa Pontio Gwyddorau Bywyd ar gyfer Llywodraeth Cymru

Mae cymwysterau academaidd Rhian yn cynnwys:

  • BSc (dosbarth cyntaf) mewn Bioleg, King's College, Llundain
  • DPhil mewn Parasitoleg, Prifysgol Rhydychen

Derbyniodd Rhian MBE am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2016.