Neidio i'r prif gynnwy

Sut i roi gwybod i’r GIG am ganlyniad positif neu negatif eich prawf llif unffordd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Os ydych yn gymwys i gael prawf llif unffordd am ddim, mae angen ichi roi gwybod am eich canlyniad. Mae angen ichi roi gwybod am bob canlyniad o fewn 24 awr, pa un a yw’n bositif, yn negatif neu’n amhendant.

Os byddwch yn prynu prawf preifat ni ddylech roi gwybod am eich canlyniad ar wefan GOV.UK. Efallai y bydd gan rai darparwyr preifat eu systemau eu hunain i gofnodi’r canlyniadau. Os byddwch yn talu am brawf, edrychwch ar y cyfarwyddiadau ar y pecyn prawf i weld a ddylech roi gwybod i’r darparwr preifat beth oedd canlyniad eich prawf.

Rhowch wybod am ganlyniad eich prawf ar GOV.UK neu drwy ffonio 119. Croesawir galwadau yn Gymraeg.

Os cewch ganlyniad  positif, arhoswch adref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill am o leiaf 5 diwrnod. Peidiwch ag ymweld â chartrefi gofal, ysbytai na llefydd lle rydych yn gwybod y mae pobl sydd mewn mwy o berygl o ganlyniad i COVID-19. Darllenwch ein canllawiau ar bobl â heintiau anadlol gan gynnwys COVID19.

Mae profion llif unffordd yn cael eu cynnig am ddim ar hyn o bryd:

  • os yw meddyg neu arbenigwr wedi dweud eich bod yn gymwys i gael triniaethau COVID-19 newydd
  • os yw eich meddyg teulu neu’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn ichi wneud prawf