Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad meintiol o ddata a gasglwyd gan fusnesau bach a chanolig ar eu barn ar ardrethi annomestig, gan ganolbwyntio ar ryddhad ardrethi i fusnesau bach.

Ymwybyddiaeth o’r cynlluniau ardrethi annomestig a’r farn amdanynt

Prin oedd yr ymwybyddiaeth o’r cynlluniau ardrethi annomestig. Gallai hynny fod yn arwydd o ddefnyddioldeb yr ymgyrch gyfathrebu am ardrethi annomestig. Y cynllun mwyaf adnabyddus oedd y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach.  Mynegwyd sawl barn ynghylch pam na fyddai busnes wedi cael yr help cywir gyda’i ardrethi, gan awgrymu mai un o nifer o feini tramgwydd yw ymwybyddiaeth.

Roedd y mwyafrif a holwyd am ryddhad ardrethi busnes yn credu bod cynlluniau rhyddhad ardrethi yn:

  • helpu busnesau bach i oroesi
  • yn galluogi busnesau bach i oroesi mewn cymunedau gwledig diarffordd
  • cynnig help i fusnesau bach i oroesi mewn cymunedau difreintiedig

Busnesau sy’n gymwys am ryddhad ardrethi busnesau bach

Roedd busnesau sy’n cyflogi nifer fach o weithwyr yn fwy tebygol o gael rhyddhad ardrethi busnesau bach na busnesau sy’n cyflogi mwy o weithwyr. Roedd busnesau oedd o dan straen yn fwy tebygol o beidio â chael rhyddhad ardrethi.  Teimlwyd bod rhyddhad ardrethi yn bwysig ac yn effeithio ar wahanol agweddau ar fasnachu mewn amrywiaeth o fusnesau gwahanol.

Gweithgareddau busnes: busnesau sy’n derbyn rhyddhad ardrethi busnes

Cafwyd mwy o ymateb gan fusnesau 'cyfanwerthu, manwerthu' a 'Gwestai, gwasanaethau eraill' na mathau eraill o fusnesau. Roedd rhai busnesau 'cyfanwerthu, manwerthu’ oedd yn cael rhyw fath o help yn teimlo eu bod o dan straen. Gallai hyn awgrymu nad yw’r cymorth presennol yn ddigon i rai busnesau.

Gallai canfyddiadau gwahanol ynghylch cynnydd mewn gorbenion fod yn arwydd mai busnesau ‘cyfanwerthu, manwerthu’ a ‘gwestai, gwasanaethau eraill’ sy’n teimlo’r straen fwyaf. Fodd bynnag, mae maint y sampl ar gyfer rhai mathau o fusnesau yn fach. Felly, mae casgliadau felly ond yn dangos tueddiadau posibl o ran barn a phrofiadau busnesau bach yng Nghymru.

Adroddiadau

Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach: dadansoddiad o arolwg , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ellie Brodie

Rhif ffôn: 0300 062 2126

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.