Rhaid i dai y mae cymdeithasau tai a'r awdurdodau lleol yn eu perchen fod mewn cyflwr da fel rhan o'r safon ansawdd ar gyfer tai.
Rhaid i bob tŷ cymdeithasol gael ei adnewyddu a'i gadw mewn cyflwr da. Y cymdeithasau tai a'r awdurdodau lleol â thai cyngor sy'n gyfrifol am hynny.
Y dyddiad olaf ar gyfer cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru oedd diwedd mis Rhagfyr 2020. Cafodd nifer bach o landlordiaid cymdeithasol estyniad hyd fis Rhagfyr 2021 yn sgil pandemig COVID-19. Rhaid i landlordiaid cymdeithasol gynnal Safon Ansawdd Tai Cymru yn barhaus.
I fodloni'r safon, rhaid i dai:
- fod mewn cyflwr da
- bod yn saff ac yn ddiogel
- cael eu gwresogi'n ddigonol, bod yn effeithlon o ran tanwydd a bod wedi'u hinswleiddio'n dda
- cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
- bod wedi’u rheoli’n dda (o ran tai wedi’u rhentu)
- bod wedi'u lleoli mewn amgylchedd deniadol a diogel
- bod yn addas ar gyfer anghenion penodol y rheini sy'n byw ynddynt, os yw hynny'n bosibl, er enghraifft pobl ag anableddau
Roedd ymgynghoriad ar gynigion i ddiweddaru Safon Ansawdd Tai Cymru ar agor o 11 Mai hyd 3 Awst 2022. Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Rydym yn gweinyddu dwy gronfa ariannol i helpu cymdeithasau dai ac awdurdodau lleol â thai cyngor:
- lwfans atgyweiriadau mawr
- cyllid llenwi bwlch gwaddol
Lwfans atgyweiriadau mawr
Rydym yn rhoi cyllid i 11 o awdurdodau lleol sy'n rheoli tai cyngor ac yn gofalu amdanynt.
Cyllid 2022 a 2023
- Ynys Môn £2,688,000
- Sir Ddinbych £2,373,000
- Sir y Fflint £4,978,000
- Wrecsam £7,524,000
- Powys £3,723,000
- Sir Benfro £3,997,000
- Sir Gaerfyrddin £6,196,000
- Bro Morgannwg £2,773,000
- Caerdydd £9,568,000
- Caerffili £7,296,000
- Abertawe £9,283,000
Cyllid llenwi bwlch gwaddol
Rydym yn rhoi cyllid i 10 o gymdeithasau tai i'w helpu i wella eu tai. Cafodd y cymdeithasau tai hyn eu sefydlu pan drosglwyddwyd tai cyngor awdurdodau lleol iddynt.
Cyllid 2022 a 2023
- Trivallis (Cartrefi RCT cyn hynny) £7,300,000
- Cartrefi Dinas Casnewydd £6,500,000
- Tai Tarian (Cartrefi NPT cyn hynny) £6,200,000
- Tai Cymunedol Bron Afon £5,800,000
- Tai Calon £4,200,000
- Adra (Cartrefi Cymunedol Gwynedd cyn hynny) £4,100,000
- Cartrefi Cymoedd Merthyr £2,900,000
- Cartrefi Conwy £2,600,000
- Cymdeithas Tai Sir Fynwy £2,600,000
- Barcud £1,600,000