Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Ebrill 2026.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am eich barn ar ein cynlluniau i ymestyn y Cynllun Cyflawni Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu i gynnwys plant rhwng 5 ac 11 oed.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar:
- sut i godi proffil Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
- sut y gallwn nodi a chefnogi anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu yn fwy effeithiol
- hyfforddiant, offer a chymorth i ymarferwyr
- camau eraill y gallem ystyried eu cymryd yn y dyfodol.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori: fersiwn hawdd ei ddall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB
Ffurflen ymateb: fersiwn plant a phobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Drafft asesiad effaith integredig cryno , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 305 KB
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r ddogfen ymgynghori a gyhoeddwyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ynghylch anonymeiddio ymatebion. Ers hynny mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin fel rhai dienw yn ddiofyn. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.
Bydd y dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn.
