Stopio cosbi corfforol yng Nghymru
Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.
Beth yw cosb gorfforol?
Mae sawl math o gosb gorfforol. Fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd.
Ond mae mathau eraill hefyd. Mae’n amhosibl rhestru pob math o gosb gorfforol. Gall fod yn unrhyw ddull o gosbi plentyn gan ddefnyddio grym corfforol.
Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.
Beth yw’r gyfraith ynghylch cosbi corfforol yng Nghymru?
- Mae cosbi corfforol o unrhyw fath yn anghyfreithlon yng Nghymru.
- Mae gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion.
- Mae hyn yn golygu bod y gyfraith yn glir - hawdd i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.
A yw’r gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru?
Ydy, mae’n berthnasol i bawb – rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn tra bo’r rhiant yn absennol.
Ac fel gyda chyfreithiau eraill, mae’n berthnasol i ymwelwyr â Chymru hefyd.
Mae cosbi corfforol wedi bod yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant, cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant ers peth amser.
Beth sy'n digwydd os bydd pobl yn cosbi plentyn yn gorfforol?
Os bydd unrhyw un yn cosbi plentyn yn gorfforol:
- bydd yn torri’r gyfraith
- mae perygl y caiff ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod
- efallai yn caiff gofnod troseddol, sydd yr un fath ar gyfer unrhyw drosedd.
Mae gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sydd ei angen, i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant, i helpu i osgoi sefyllfa o’r fath.
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf i’n gweld plentyn yn cael ei gosbi’n gorfforol neu os ydw i’n poeni am blentyn?
- Cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol.
- Gallwch hefyd ffonio’r heddlu mewn argyfwng neu os yw plentyn mewn perygl.
Ble gallaf i gael cyngor a chefnogaeth?
- Mae Magu Plant. Rhowch amser iddo yn cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar fagu plant mewn modd cadarnhaol i annog ymddygiad da gan blant a dewisiadau eraill yn lle cosb gorfforol. Mae gan yr ymgyrch dudalen we ar gyfer cymorth ar rianta sy’n cynnwys dolenni i gymorth a llinellau cymorth pellach i rieni.
- Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol.
- Rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau'n Deg (os ydych yn byw mewn ardal Dechrau'n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf.
Mwy o wybodaeth
Adnoddau a gwybodaeth gefndir am y newid yn y gyfraith newydd.