Neidio i'r prif gynnwy

Dysgwch sut i ychwanegu, dileu, ac uwchraddio defnyddwyr i fod yn weinyddwyr ar gyfer cyfrif ar-lein Treth Trafodiadau Tir (TTT) eich sefydliad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

O 11 Ebrill, bydd gofyn i chi gofnodi cod 6-digid fydd yn cael ei anfon i chi drwy ebost bob tro i chi fewngofnodi. Bydd yr ebost yn dod o Microsoft. Cysylltwch â ni os oes angen help arnoch.

Sut i greu cyfrif defnyddiwr gweinyddwr

  1. Cliciwch y botwm Dechrau nawr isod.
  2. Rhowch yr un cyfeiriad e-bost ar gyfer y gweinyddwr ag y defnyddioch wrth gofrestru'r sefydliad a dewiswch Anfon cod dilysu.
  3. Bydd Microsoft yn anfon cod dilysu i’r cyfeiriad e-bost hwn. Mae angen i chi ddefnyddio'r cod o fewn 10 munud.
  4. Os na fyddwch yn ei dderbyn ar unwaith, edrychwch yn eich ffolder 'sothach' neu 'sbam'. Cysylltwch â ni os nad ydych wedi ei dderbyn.
  5. Ar ôl ei dderbyn, cliciwch y ddolen yn yr e-bost, mewnbynnwch y cod dilysu a dewiswch Dilysu cod.
  6. Crëwch a chadarnhewch gyfrinair, yna dewiswch Creu.
  7. Bydd y sgrîn nesaf yn gofyn am eich enw, mewnbynnwch hwn a dewiswch Nesaf.
  8. Rhowch rif cofrestru eich sefydliad a anfonwyd atoch gennym ni pan gofrestroch chi eich sefydliad.
  9. Bydd eich cyfrif defnyddiwr yn cael ei actifadu'n awtomatig.

Gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru

Peidiwch â rhannu manylion eich cyfrif a'ch cyfrinair. Os oes angen mynediad ar rai eraill yn eich sefydliad, gallant greu cyfrif defnyddiwr newydd. Yna gall y gweinyddwr eu hactifadu er mwyn caniatáu mynediad.

Rheoli defnyddwyr ar gyfer eich sefydliad

Fel gweinyddwr, gallwch:

  • ychwanegu defnyddwyr newydd i gyfrif eich sefydliad
  • actifadu a dadactifadu defnyddwyr
  • uwchraddio defnyddwyr i fod yn weinyddwyr neu eu newid i fod yn ddefnyddiwr

Sut i ychwanegu defnyddwyr ar-lein

Mae 2 ffordd i ychwanegu defnyddwyr newydd at gyfrif eich sefydliad: 

  1. Mae gweinyddwr yn creu defnyddiwr newydd ac anfonir dolen wahodd i'r defnyddiwr yn awtomatig i greu ei gyfrinair: 
    1. Gall gweinyddwyr glicio ar 'Creu defnyddiwr newydd' yn adran 'Rheoli defnyddwyr ar-lein' eu cyfrif. Dim ond enw a chyfeiriad e-bost y defnyddiwr sydd eu hangen i wneud hyn.
    2. Unwaith y bydd y cyfrif defnyddiwr wedi'i greu, anfonir e-bost atynt gyda dolen yn eu gwahodd i greu'r cyfrinair ar gyfer eu cyfrif.
  2. Mae’r defnyddiwr yn creu cyfrif ei hun ac yna’n hysbysu ei gweinyddydd er mwyn iddyn nhw actifadu’r cyfrif:
    1. Rhaid i'r defnyddiwr newydd greu cyfrif defnyddiwr newydd eu hun i ddechrau.
    2. Yna, rhaid i weinyddwr ar-lein y sefydliad ei actifadu Lier mwyn iddynt allu ffeilio a gweld ffurflenni treth.

Sut i actifadu defnyddwyr newydd

Gall gweinyddwyr weld defnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein gyda'u sefydliad ar y dudalen rheoli defnyddwyr ar-lein. Ar y dudalen hon gallwch ddewis defnyddwyr sy'n aros i gael eu hactifadu a newid eu 'statws defnyddiwr’ i gweithredol.

Yna gall defnyddwyr gweithredol:

  • gyflwyno ffurflenni treth
  • gweld ffurflenni drafft a rhai sydd wedi’u cyflwyno gan eich sefydliad

Ychwanegu a thynnu gweinyddwr arall

Gall gweinyddwyr uwchraddio defnyddwyr i fod yn weinyddwyr drwy newid eu 'math o ddefnyddiwr' yn y system ar unrhyw adeg. Gallwch hefyd eu newid yn ôl i fod yn ddefnyddwyr.

Fel gweinyddwr, byddant yn gallu rheoli a diweddaru’r rhestr defnyddwyr.

Os nad oes gan eich sefydliad weinyddwr am eu bod wedi gadael, cysylltwch â ni.

Sut i ddadactifadu defnyddwyr

Os bydd defnyddiwr yn gadael y sefydliad neu os nad oes angen mynediad arno mwyach, dylai gweinyddwr ei ddadactifadu ar unwaith.

I ddadactifadu defnyddiwr:

  1. Ewch i rheoli defnyddwyr ar-lein
  2. Dewiswch y defnyddiwr
  3. Dewiswch golygu manylion y defnyddiwr
  4. Newidiwch statws y defnyddiwr i wedi’i ddadactifadu
  5. Dewiswch arbed

Os bydd yn gadael eich sefydliad dros dro, gall gweinyddwr ei ddadactifadu a dilyn y camau sut i actifadu i'w ailactifadu yn ddiweddarach.

Cymorth

Os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni.