Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i’r myfyriwr a’r darparwr (AGA) lenwi’r ffurflen hawlio hon.

Darllenwch y canllawiau hyn cyn llenwi’r ffurflen.

Adran A: gwybodaeth bersonol

  1. Llenwch bob rhan o hon gan gynnwys unrhyw enwau canol. 2. Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol.
  2. Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost a ddarparwyd ar y Ffurflen Gofrestru. Bydd angen i chi fedru cael mynediad at y cyfrif e-bost hwn drwy gydol y cyfnod hawlio. Ni fydd cyfeiriadau e-bost prifysgolion yn cael eu derbyn.

Adran B: y rhaglen AGA

  1. Y Bartneriaeth AGA yw’r Sefydliad Addysg Uwch lle mae’r astudio wedi digwydd.
  2. Astudiaethau’r Rhaglen AGA, defnyddiwch enw llawn y rhaglen AGA a nodwch yr arbenigedd pwnc.

Adran C: Statws Athro Cymwysedig (SAC)

  1. Bydd angen eich tystysgrif SAC i lenwi’r adran hon.
  2. Atodwch gopi wedi’i sganio o’r dystysgrif SAC a ddarparwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA).

Adran D: datganiad

  1. Llofnodwch a nodwch y dyddiad. Ar ôl ei llenwi, bydd angen i chi argraffu y ffurflen er mwyn ei llofnodi a nodi’r dyddiad. Rhaid i chi wneud hyn mewn inc.
  2. Rhaid rhannu’r ffurflen hawlio hon wedyn â’ch Darparwr AGA.

Adran E: manylion y taliad

Caiff yr arian a hawlir ei dalu’n uniongyrchol i’r cyfrif a ddarparwyd ar eich ffurflen gofrestru. Os yw’r cyfrif hwn wedi newid, cysylltwch â Llywodraeth Cymru yn ITEIncentives@llyw.cymru i newid eich manylion.

Adran F: datganiad y darparwr AGA

  1. Rhaid i lofnodwr awdurdodedig o’r Bartneriaeth AGA lenwi a llofnodi’r adran hon.
  2. Rhaid i’r llofnodwr awdurdodedig sicrhau bod manylion y myfyriwr yn gywir.
  3. Llofnodwch a nodwch y dyddiad.
  4. Ar ôl ei llofnodi a nodi’r dyddiad, dylid dychwelyd y ffurflen hon at y myfyriwr.

Cyflwyno ffurflen hawlio SAC

Ar ôl i’r myfyriwr a’r Darparwr AGA lofnodi ffurflen hawlio SAC a nodi’r dyddiad, bydd y myfyriwr yn gyfrifol am ei dychwelyd ar fformat PDF at ITEIncentives@llyw.cymru ynghyd â chopi wedi’i sganio o’r dystysgrif SAC a ddarparwyd gan CGA.

Sicrhewch fod y ffurflen wedi’i chwblhau’n gywir.

Sicrhewch eich bod wedi cynnwys copi wedi’i sganio o’ch tystysgrif SAC. Ni fydd modd inni ddychwelyd y rhai gwreiddiol.

Ni fydd ffurflenni anghywir, anghyflawn neu nad ydynt yn cynnwys copi wedi’i sganio o’r dystysgrif SAC yn cael eu derbyn, ac fe fyddant yn cael eu dychwelyd.

Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw sicrhau bod negeseuon e-bost yn cyrraedd yn ddiogel. Dylai myfyrwyr gadw copïau o hawliadau ac e-byst a anfonir at Lywodraeth Cymru ar gyfer eu cofnodion. Dylid cadw hefyd bob cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod negeseuon e-bost wedi’u derbyn. Dylid eu storio'n ddiogel a dylent fod yn hawdd cael gafael arnynt ar ôl gadael y brifysgol a'r ysgol ymsefydlu. Os nad yw myfyriwr wedi cael e-bost yn cadarnhau bod ei hawliad neu neges wedi dod i law gan Lywodraeth Cymru o fewn 10 diwrnod, dylai gymryd yn ganiataol nad yw wedi cyrraedd.

Mewn canllawiau blaenorol rydym yn cyferio at ffurflen manylion cyflenwr, mae hon wedi cael ei disodli gan ffurflen gofrestru. Derbynnir ffurflen manylion cyflenwr a gyflawnyd yn flaenorol. Ni dderbynir ffurflen manylion cyflenwr a gyflwynir ar ol Ebril 2022.