Neidio i'r prif gynnwy

Darllenwch y canllawiau hyn cyn llenwi’r ffurflen.

  1. Cynghorir i unigolion llenwi’r ffurflen hon yn electronig, er mwyn sicrhau y gellir darllen yr holl fanylion yn glir.
  2. Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol. Rhaid defnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarperir ar y ffurflen gofrestru i anfon y ffurflen honno a’r ddwy ffurflen hawlio atom. Bydd angen i chi fedru cael mynediad at y cyfrif e-bost hwn drwy gydol y cyfnod hawlio. Ni fydd cyfeiriadau e-bost prifysgolion yn cael eu derbyn.
  3. Bydd angen i chi ddarparu manylion banc/cymdeithas adeiladu, manylion personol, manylion rhaglen (cwrs) a chwblhau dataganiad.
  4. Pan fyddwch wedi ei llofnodi a nodi’r dyddiad, bydd angen i chi ddychwelyd y ffurflen gofrestru mewn fformat diogel dros e-bost at ITEIncentives@llyw.cymru.

Sicrhewch fod y ffurflen wedi’i chwblhau’n gywir.

Ni fydd ffurflenni anghywir neu anghyflawn yn cael eu derbyn, ac fe fyddant yn cael eu dychwelyd.

Mewn canllawiau blaenorol rydym yn cyferio at ffurflen manylion cyflenwr, mae hon wedi cael ei disodli gan ffurflen gofrestru. Derbynnir ffurflen manylion cyflenwr a gyflawnyd yn flaenorol. Ni dderbynir ffurflen manylion cyflenwr a gyflwynir ar ol Ebril 2022.