Mae Cafcass Cymru yn recriwtio i rolau Cynghorydd Llys Teulu yn Gwent (Casnewydd)
Rôl Cynghorwyr Llys Teulu Cafcass Cymru yw cynrychioli dymuniadau, teimladau a buddiannau gorau plant a phobl ifanc sy’n ymwneud ag achosion llys teulu yng Nghymru, gan ddarparu cyngor gwaith cymdeithasol annibynnol sy’n amddiffyn a hybu eu lles.
Fel sefydliad sy’n dysgu, mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo’n gryf i barhau i fuddsoddi yn ein staff er mwyn cynnal lefelau cyson o ansawdd, datblygu ein gwasanaethau ac arloesi a gwella’n barhaus mewn ymateb i heriau’r dyfodol.
Os mai dyma’r math o ddiwylliant a sefydliad y credwch y gallwch ffynnu ynddynt a’ch bod yn cael eich ysgogi i wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd, byddai Cafcass Cymru yn croesawu eich diddordeb.
Mae'r hysbyseb hon yn cynnwys swydd wag yn ardal Gwent (swyddfa yng Nghasnewydd). Mae’n hawdd cyrraedd swyddfa Casnewydd o'r M4 (Cyffordd 28) a ffiniau’r sir, Bryste, De Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd.
Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais.