Mae Cafcass Cymru yn recriwtio.
Fel sefydliad sy’n dysgu, mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo’n gryf i barhau i fuddsoddi yn ein staff er mwyn cynnal lefelau cyson o ansawdd, datblygu ein gwasanaethau ac arloesi a gwella’n barhaus mewn ymateb i heriau’r dyfodol.
Os mai dyma’r math o ddiwylliant a sefydliad y credwch y gallwch ffynnu ynddynt a’ch bod yn cael eich ysgogi i wneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd, byddai Cafcass Cymru yn croesawu eich diddordeb.
Rheolwr Swyddfa
Mae'r Rheolwr Swyddfa yn darparu gwasanaeth cymorth effeithlon ac effeithiol i Brif Weithredwr Cafcass Cymru i'w gynorthwyo i gyflawni ei gyfrifoldebau corfforaethol ac i gyflawni ei amcanion personol a busnes. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod swyddfa’r Prif Weithredwr yn gweithredu'n llyfn o ddydd i ddydd, rhoi cymorth i’r Dirprwy Brif Weithredwr, a sicrhau bod y busnes yn cael ei reoli’n effeithiol ac yn effeithlon. Dyddiad cau: 19/10/2022
Family Court Adviser
Rôl Cynghorwyr Llys Teulu Cafcass Cymru yw cynrychioli dymuniadau, teimladau a buddiannau gorau plant a phobl ifanc sy’n ymwneud ag achosion llys teulu yng Nghymru, gan ddarparu cyngor gwaith cymdeithasol annibynnol sy’n amddiffyn a hybu eu lles. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd sy'n agored i niwed, i gynghori'r llysoedd teulu ar y camau gorau i'w cymryd ar gyfer y plentyn neu'r unigolyn ifanc. I fod yn Gynghorydd Llys Teulu, rhaid i chi fod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, gyda dealltwriaeth o wasanaethau diogelu i blant a'u teuluoedd yn y sector statudol.
Cymorth Busnes
Mae swyddi Cymorth Busnes yn Cafcass Cymru yn ganolog wrth roi cymorth hanfodol i'r timoedd gweithredol o fewn y sefydliad, a sicrhau bod y timoedd gweithredol yn cael eu rheoli mewn modd hwylus ac effeithlon. Mae'r swyddi hyn yn unigryw o fewn Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi Rheolwyr Ymarfer, Cynghorwyr Llys Teulu/Gweithwyr Cymdeithasol Llys Teulu a Rheolwyr Cymorth Busnes i ddarparu gwasanaeth effeithiol i Lysoedd Teulu ar draws Cymru. Dyddiad cau: 19/10/2022
Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais.