Neidio i'r prif gynnwy

Meini prawf cymhwysedd ar gyfer y taliad ychwanegol o £1,498 i weithwyr gofal cymdeithasol a sut y caiff ei dalu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daeth y cynllun i ben i honiadau newydd o 30 Mehefin 2022.

Mae'r cynllun ar gau i apeliadau o 30 Tachwedd 2022.

Mae'n bosibl y byddwn yn ystyried apeliadau cam 2 a gyflwynir i'r awdurdod lleol ym mis Tachwedd 2022. Bydd hyn yn parhau hyd at 31 Rhagfyr 2022.

Diben y taliad ychwanegol

Rydym yn cyflwyno Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer rhai grwpiau o weithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r taliad ychwanegol yn dangos ein hymrwymiad i wella statws, telerau ac amodau a llwybrau gyrfa ar gyfer gweithwyr cymdeithasol. Rydym am i fwy o bobl gael gyrfaoedd hir fel gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol.

Pwy sy’n gymwys i gael y taliad?

Rydych yn gymwys i gael y taliad os ydych yn bodloni’r holl feini prawf yn ymwneud â:

  • swyddi cymwys
  • statws cyflogaeth
  • meini prawf cymhwysedd

Swyddi cymwys

  • Gweithwyr gofal a gyflogir mewn cartrefi gofal cofrestredig (plant ac oedolion) mewn rôl lle mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn ofynnol, neu y bydd yn ofynnol.
  • Uwch staff gofal, rheolwyr gofal a nyrsys a gyflogir mewn cartrefi gofal cofrestredig mewn rôl lle mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
  • Gweithwyr gofal cartref a gyflogir gan wasanaethau cymorth cartref cofrestredig mewn rôl lle mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Rheolwr gofal a gyflogir gan wasanaethau cymorth cartref cofrestredig mewn rôl lle mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Rolau gofal cymdeithasol eraill nad ydynt mewn cartrefi gofal cofrestredig neu wasanaethau cymorth cartref, p'un a yw unigolion wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ai peidio
  • Gweithwyr cymorth a rheolwyr mewn canolfannau preswyl i deuluoedd lle mae neu lle bydd angen cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Staff gofal asiantaeth
  • Gweithwyr gofal eraill a dalwyd gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol gan yr awdurdod lleol ond nad ydynt yn cael eu cyflogi fel Cynorthwyydd Personol gan y person sy'n derbyn gofal a chymorth
  • Staff mewn ysbytai a hosbisau annibynno
  • Cynorthwywyr Personol a gyflogir gan bobl sy'n derbyn taliadau uniongyrchol gan awdurdod lleol.

Statws Cyflogaeth

Gallech fod yn gymwys i gael y taliad os ydych yn:

  • llawn amser neu'n rhan amser
  • destun contract cyflogaeth, gan gynnwys ‘contractau dim oriau’
  • staff achlysurol neu staff banc sydd â chontractau
  • hunangyflogedig ac yn cael eich talu i weithio fel Cynorthwyydd Personol drwy daliadau uniongyrchol neu mewn swydd gymwys mewn cartref gofal cofrestredig neu wasanaeth cymorth cartref

Nid ydych yn gymwys i gael taliad os ydych yn:

  • staff asiantaeth
  • staff achlysurol, staff banc neu staff ar gontractau dim oriau sydd ddim yn gweithio sifftiau ar sail reolaidd

Meini prawf cymhwyso

Nid yw staff sydd mewn swyddi cymwys ond sy'n gadael, o dan unrhyw amgylchiadau, cyn 31 Mawrth 2022 yn gymwys i gael y taliad.

Staff a gyflogir mewn swyddi cymwys ar 31 Mawrth 2022:

  • mae'n rhaid eich bod wedi gweithio 6 sifft yn y 6 mis blaenorol i fod yn gymwys i gael y taliad, gall shifft gynnwys diwrnodau cynefino ar gyfer staff newydd
  • os byddwch yn gadael eich swydd cyn 30 Mehefin 2022, byddwch yn gymwys i gael y taliad os ydych yn bodloni'r holl ofynion eraill

Staff sy'n dechrau mewn swyddi cymwys rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2022:

  • mae'n rhaid eich bod wedi gweithio 6 sifft cyn 30 Mehefin i fod yn gymwys i gael y taliad, gall shifft gynnwys diwrnodau cynefino ar gyfer staff newydd
  • os byddwch yn gadael eich swydd cyn 30 Mehefin 2022, byddwch yn gymwys i gael y taliad os ydych yn bodloni'r holl ofynion eraill

Swyddi nad ydynt yn gymwys i gael y taliad

  • Darparwyr cofrestredig, rheolwyr rhanbarthol ac uwch staff eraill nad ydynt yn cael eu cyflogi i weithio mewn un cartref gofal cofrestredig neu wasanaeth cymorth cartref yn unig
  • Staff eraill cartrefi gofal a chanolfannau preswyl i deuluoedd nad ydynt yn ddarostyngedig i ofyniad i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Er enghraifft, staff arlwyo, glanhau a chynnal a chadw, swyddogion cyllid, therapyddion, cymorth busnes, hyfforddwyr, staff derbynfa a chydlynwyr gweithgareddau
  • Staff a gyflogir i ddarparu addysg/hyfforddiant mewn canolfannau plant diogel ac ysgolion arbennig preswyl (gan gynnwys cynorthwywyr addysgu a chynorthwywyr cymorth dysgu) ac nad ydynt yn ddarostyngedig i ofyniad i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Staff gwasanaethau cymorth cartref eraill nad ydynt yn ddarostyngedig i ofyniad i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Er enghraifft, staff cymorth busnes, hyfforddwyr, swyddogion cyllid a threfnwyr
  • Rolau gofal cymdeithasol eraill nad ydynt mewn cartrefi gofal cofrestredig neu wasanaethau cymorth cartref, p'un a yw unigolion wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ai peidio
  • Staff gofal asiantaeth
  • Gweithwyr gofal eraill a dalwyd gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol gan yr awdurdod lleol ond nad ydynt yn cael eu cyflogi fel Cynorthwyydd Personol gan y person sy'n derbyn gofal a chymorth
  • Staff mewn ysbytai a hosbisau annibynnol.

Sut fydda i yn cael y taliad?

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y taliad yn eu cyflog ym mis Mehefin 2022. Oherwydd mai incwm ychwanegol yw hwn, bydd yswiriant gwladol, pensiwn a threth incwm yn cael ei ddidynnu o’r taliad.

Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol (20%), mae'n debygol y byddwch yn derbyn tua £1,000 ar ôl didyniadau. Os ydych yn ennill llai na’r trothwy ar gyfer treth, efallai y byddwch yn derbyn mwy na £1,000. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch byddwch yn derbyn llai. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. 

Os ydych yn derbyn budd-daliadau, sy'n seiliedig ar eich incwm, mae'r taliad hwn yn debygol o effeithio ar y swm a gewch. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gofyn am gyngor gan gynghorydd budd-daliadau.

Bydd y mwyafrif o bobl yn dewis derbyn y taliad mewn 5 rhandaliad misol o £299.60. Bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen i chi ei llenwi, a fydd yn gofyn i chi sut yr hoffech dderbyn eich taliad.

Os nad ydych yn dymuno derbyn y taliad hwn, rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr a pheidio â llenwi'r ffurflen.

Dim ond un taliad y cewch ei dderbyn (hyd yn oed os oes gennych fwy nag un swydd). Ni ddylech hawlio mwy nag unwaith gan y bydd hyn yn cael ei ystyried yn dwyll.

Bydd y cynllun yn cau i bob cais newydd ar 30 Mehefin.

Cyflenwi taliadau

Mae awdurdodau lleol yn cyflenwi’r taliadau hyn ar ran Gweinidogion Cymru. Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu â'r gwasanaethau gofal cymdeithasol i gasglu gwybodaeth am staff cymwys. Bydd awdurdodau lleol yn darparu ffurflenni hawlio i gyflogwyr a fydd wedyn yn eu rhoi i’w staff. 

Pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen hawlio, gofynnir ichi roi caniatâd inni rannu eich enw a’ch rhif yswiriant gwladol â Data Cymru. Maen nhw’n gwneud gwiriadau i atal twyll. Bydd hysbysiad preifatrwydd yr awdurdod lleol ar gael. Bydd y ffurflen hon hefyd yn gofyn a ydych yn dymuno derbyn eich taliad mewn 5 rhandaliad os yw’r cynnig hwn ar gael i chi.

Bydd cyflogwyr yn cael yr arian i wneud eich taliad gan yr awdurdod lleol. Ar gyfer gwasanaethau awdurdodau lleol, bydd hyn yn cael ei gwblhau'n fewnol.

Bydd cyflogwyr hefyd yn hawlio costau ychwanegol am eu cyfraniad at yswiriant gwladol a phensiwn. Byddant yn cael ffi weinyddol fechan.

Os byddwch yn dewis cael eich talu mewn rhandaliadau ac yn gadael eich swydd cyn i chi dderbyn y rhandaliad terfynol, byddwch yn cael gweddill eich taliad yn eich cyflog terfynol.

Os ydych wedi gadael y swydd gymwys yr oeddech ynddi ar 31 Mawrth 2022:

  • ni fyddwch yn derbyn y taliad yn eich cyflogwr blaenorol
  • ni fyddwch yn gallu derbyn y taliad mewn rhandaliadau
  • rhaid i chi beidio â llenwi ail ffurflen hawlio

Mae hyn yn berthnasol p'un a ydych wedi symud i swydd gymwys arall ai peidio.

Bydd gwiriadau’n cael eu gwneud i adnabod hawliadau dyblyg a gellir ystyried hyn yn dwyll.

Dylech holi eich cyflogwr os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw agwedd ar y broses. Bydd eich cyflogwr wedyn yn dwyn hyn i sylw'r awdurdod lleol.

Dim ond un taliad y cewch ei dderbyn (hyd yn oed os oes gennych fwy nag un swydd). Ni ddylech hawlio mwy nag unwaith gan y bydd hyn yn cael ei ystyried yn dwyll.

    Cymhwysedd: gwybodaeth ychwanegol

    Absenoldeb o’r gwaith

    Os ydych yn absennol oherwydd salwch byddwch yn dal i fod yn gymwys i dderbyn y taliad. Byddwch yn gymwys am y taliad os ydych yn bodloni'r gofynion eraill ond nad ydych wedi bod yn y gwaith oherwydd bod ar salwch hirdymoer, cyfnod mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir neu absenoldeb mabwysiadu.

    Staff sydd wedi eu diswyddo

    Ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y taliad os cewch eich diswyddo ar unrhyw adeg cyn y gwneir y taliad. Mae hyn yn berthnasol i

    • ddiswyddo drwy'r broses ddisgyblu fesul cam neu
    • ddiswyddo ar unwaith am gamymddwyn difrifol.

    Os caiff y penderfyniad hwn ei wrthdroi mewn tribiwnlys cyflogaeth / apêl, byddwch yn gymwys i gael y taliad bryd hynny. Rhaid ichi fodloni'r holl ofynion eraill.

    Os oes gennych fwy nag un swydd gymwys

    Dim ond un taliad y cewch ei dderbyn, hyd yn oed os ydych yn gwneud dwy swydd ran-amser gymwys ar yr un pryd. Dylech wneud cais drwy'r cyflogwr yr ydych yn gwneud y mwyaf o oriau ar ei gyfer a llenwi'r ffurflen fydd yn cael ei darparu. Dywedwch wrth eich cyflogwr arall nad ydych chi'n dymuno hawlio’r taliad.

    Peidiwch â llenwi mwy nag un ffurflen. Os byddwch yn hawlio fwy nag unwaith, bydd hyn yn cael ei ystyried yn dwyll.

    Gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n byw neu’n gweithio yn Lloegr

    Nid yw eich cymhwysedd i dderbyn y taliad yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, mae'n dibynnu ar eich cyflogaeth. Os ydych yn byw yn Lloegr ond yn gweithio mewn swydd gymwys yng Nghymru byddwch yn derbyn y taliad. Os ydych yn byw yng Nghymru ond yn gweithio yn Lloegr, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn y taliad. Diben y taliad yw dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi cofrestru i weithio yng Nghymru.

    Apeliadau

    Mae'r broses hon yn berthnasol pan fo cais am daliad wedi cael ei wrthod gan gyflogwr neu gan awdurdod lleol.

    Cam 1 – Yr Awdurdod lleol yn ailystyried 

    Gallwch ofyn am ailystyried y penderfyniad drwy gwblhau ffurflen apêl.  I ddechrau, bydd rheolwr o'r awdurdod lleol, nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol: 

    • yn ystyried y cais er mwyn penderfynu a oes sail i’r apel

    Os yw eich swydd wedi'i hamlinellu'n glir yn y canllawiau fel un nad yw’n gymwys ar gyfer y taliad, nid oes sail ddilys i apelio. Byddwch yn cael gwybod na fydd eich cais am apêl yn mynd yn ei flaen. 

    Os oes unrhyw ansicrwydd ynghylch a yw eich swydd yn gymwys o fewn y canllawiau, bydd eich cais yn mynd ymlaen i’r cam apelio. Gall y rheolwr sy'n ystyried yr apêl wneud un o’r canlynol:

    • penderfynu eich bod yn gymwys i gael y taliad
    • penderfynu nad ydych yn gymwys i gael y taliad
    • cyfeirio'r mater at Banel Apeliadau Llywodraeth Cymru oherwydd cymhlethdod y sefyllfa

    Bydd y broses hon yn cael ei chwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith. Os ydych yn anfodlon â chanlyniad eich apêl, mae gennych yr hawl i symud at gam apelio 2. 

    Os ydych wedi cael gwybod nad oes gennych sail i apelio oherwydd bod eich swydd wedi'i rhestru fel un nad yw’n gymwys ar gyfer y taliad, ni ellir cymryd unrhyw gamau pellach o fewn y broses apelio. Nid diben y broses apelio yw newid telerau'r cynllun na'r meini prawf cymhwysedd.

    Cam 2 – Panel apeliadau Llywodraeth Cymru

    Os ydych wedi cael gwybod nad oes gennych sail i apelio oherwydd bod eich swydd wedi'i rhestru fel un nad yw’n gymwys ar gyfer y taliad, ni ellir cymryd unrhyw gamau pellach o fewn y broses apelio. Nid diben y broses apelio yw newid telerau'r cynllun na'r meini prawf cymhwysedd.

    Os yw eich apêl wedi'i hystyried a'i gwrthod yng ngham 1 a'ch bod am symud ymlaen at gam apelio 2, rhaid i chi roi gwybod i'r awdurdod lleol. Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi gwybodaeth ichi am y broses hon pan fyddant yn ysgrifennu atoch i roi gwybod ichi beth yw canlyniad cam 1. 

    Bydd cam apelio 2 yn cael ei ystyried gan Banel Apeliadau Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys:

    • cadeirydd annibynnol
    • cynrychiolydd awdurdod lleol
    • cynrychiolydd undebau llafur
    • cynrychiolwyr cyflogwyr
    • swyddogion Llywodraeth Cymru

    Ni all y Panel newid y meini prawf sy’n nodi pwy sy’n gymwys ar gyfer y cynllun. Mae gan y Panel awdurdod sydd wedi’i ddirprwyo gan Weinidogion Cymru i wneud penderfyniadau am apeliadau, a gall wneud y canlynol:

    • penderfynu eich bod yn gymwys i gael y taliad
    • penderfynu nad ydych yn gymwys i gael y taliad
    • cyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru os na all y Panel wneud penderfyniad hyderus.

    Bydd cam 2 o'r broses apelio yn cael ei gwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith.

    Cwestiynau cyffredin

    Dechreuwyr newydd fydd yn cwblhau 6 sifft cyn 30 Mehefin

    Os ydych eisoes wedi cwblhau ffurflen oherwydd bod eich swydd flaenorol mewn gofal cymdeithasol ni ddylech lenwi ffurflen arall. Byddwch yn derbyn y taliad gan eich cyflogwr blaenorol.

    Os nad ydych wedi gweithio mewn rôl gymwys yn ddiweddar bydd angen i chi gwblhau ffurflen. Os ydych yn bodloni'r amodau eraill, byddwch yn derbyn y taliad os yw eich dyddiad talu cyn 30 Mehefin. Os ydych yn gadael heb gwblhau’r' sifftiau yma, bydd disgwyl i chi ddychwelyd y taliad.

    Rwy’n ddechreuwr newydd mewn swydd gymwys, a fydda i yn cael y taliad?

    Mae angen ichi gwblhau 6 shifft cyn 30 Mehefin i gael y taliad. Os yw eich dyddiad cyflog cyn diwedd y mis a disgwylir ichi wneud 6 shifft, byddwch yn cael y taliad. Os na fyddwch yn cwblhau’r 6 shifft, bydd angen ichi ad-dalu’r taliad (oni bai eich bod yn sâl).

    Pam mae staff banc yn gymwys i gael y taliad ond nid yw staff asiantaeth a staff ar gontractau dros dro?

    Diben y taliad yw cefnogi’r gweithlu parhaol. Nid yw staff asiantaeth yn gymwys i gael y taliad. Nid yw staff dros dro yn gymwys i gael y taliad oni bai bod ganddynt gontract 12 mis o leiaf.

    Mae staff banc a staff achlysurol sydd â chontract gyda’r cartref gofal neu’r gwasanaeth cymorth cartref yn gymwys i gael y taliad. Gallai hwn fod yn gontract cyflogaeth neu’n gontract sy’n nodi telerau cytunedig rhwng yr unigolyn a’r gwasanaeth. Mae darparu gwaith ar ‘sail reolaidd’ yn golygu bod yn rhaid i staff banc fod wedi gweithio o leiaf 6 shifft yn y 6 mis blaenorol.

    Beth os ydw i wedi bod i ffwrdd o’r gwaith a heb gwblhau’r nifer gofynnol o shifftiau?

    Rydych yn gymwys os ydych yn gyflogedig mewn swydd gymwys ond heb weithio’r nifer gofynnol o shifftiau oherwydd:

    • salwch
    • absenoldeb mamolaeth
    • absenoldeb rhiant a rennir 
    • absenoldeb mabwysiadu

    Ydw i’n gymwys os ydw i wedi cael fy adleoli i swydd wahanol?

    Byddwch yn gymwys os ydych wedi cael eich adleoli o swydd gymwys a disgwylir ichi ddychwelyd i’r swydd hon yn fuan. Os yw eich rôl barhaol yn gymwys ar gyfer y taliad, ni ddylech fod o dan anfantais.