Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r newidiadau a ddisgrifir isod yn drech nag unrhyw gyngor sydd eisoes wedi’i roi.

Y Gofrestr Wariant a Chofnodion Tendro Cystadleuol

Newidiadau Pwysig:

  • Ar gyfer eitemau gwerth llai na £500, gallwch eu hawlio heb gyflwyno Cofnod Tendro Cystadleuol. Mae gwerth wedi’i bennu yn y contract ar gyfer pob categori o wariant, er mwyn ichi allu ei hawlio.  I hawlio ar gyfer eitem o dan £500, darllenwch: Ffurflen hawlio grantiau a thaliadau gwledig: defnyddio RPW ar-lein i wneud cais | LLYW.CYMRU 
  • Ar gyfer eitemau gwerth dros £500 ond llai na £5,000 sydd wedi’u cofnodi ar y Gofrestr Wariant, mae’r broses gymeradwyo wedi newid: 
    • Bydd dal gofyn ichi gyflwyno Cofnod Tendro Cystadleuol er mwyn cael y gwariant wedi’i gymeradwyo
    • Ond ni fydd angen cyflwyno dogfennau ategol

Nid yw’r drefn ar gyfer eitemau dros £5,000 o wariant wedi newid. Daliwch ati i ddefnyddio’r Cofnod Tendro Cystadleuol ar gyfer pob eitem dros £5,000 a pharhewch i gyflwyno dogfennau ategol.

Nodwch rif adnabod y map o’r contract ar linell ‘Cyfeirnod yr Eitem’ eich Cofnod Tendro Cystadleuol.

Fe welwch y Cofnodion Tendro Cystadleuol ar y ddolen hon: Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020: templed cofnod tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus

Diweddaru’r Contract

Caiff fersiwn newydd o’r contract ei greu os caiff newidiadau eu gwneud i fanylion y contract, gan gynnwys diweddariadau yn sgil cymeradwyo’r Cofnod Tendro Cystadleuol. Rhoddir gwybod ichi pan fydd contract newydd ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

Gan ddibynnu ar y newidiadau fydd wedi’u gwneud, efallai y bydd rhaid ichi dderbyn fersiwn newydd eich contract trwy bwyso’r Botwm Glas ar eich cyfrif ar-lein. Dim ond os oes angen ichi dderbyn y contract newydd y gwelwch y botwm glas. Rhestrir isod y mathau o newidiadau na fydd angen ichi eu derbyn a’r rhai y bydd yn rhaid ichi eu derbyn.

Newidiadau i’r contract na fydd angen ichi eu derbyn

  • Proffil Cyflawni newydd
  • Newid gwerth eitem
  • Ychwanegu is-eitemau ar ôl cymeradwyo’r Cofnod Tendr Cystadleuol
  • Dileu neu newid is-eitemau
  • Newidiadau i’r Costau wedi’u Symleiddio
  • Newid beth sy’n gymwys am TAW

Newidiadau i’r contract y bydd angen ichi eu derbyn a fyddai’n ganlyniad i gymeradwyo ailwerthusiad

  • Ychwanegu neu ddileu eitem
  • Newid cyfanswm gwerth y contract
  • Newid Amodau Arbennig
  • Newid y Proffil Cyflawni presennol
  • Newid y Dangosyddion
  • Newid Partneriaid y Prosiect
  • Newid y dyddiad pan ddaw’r contract i ben
  • Newid testun y contract neu’r eitemau
  • Pan ofynnir am fersiwn newydd o’r contract

Gofyn am newid prosiectau sydd wedi’u cymeradwyo (CSCD ac RBIS yn unig)

Gyda llai nag 8 mis ar ôl i gyflawni amcanion y prosiect a chyflwyno’ch hawliad terfynol, ac ar ôl cyflwyno’r trefniadau newydd ar gyfer cymeradwyo gwariant y prosiect, ni fydd angen ichi mwyach gyflwyno cais i newid y prosiect o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Symud gwariant cymeradwy’r prosiect rhwng penawdau gwariant. Yn hytrach, rhaid esbonio wrth hawlio os bydd y gwariant 15% yn fwy na’r gost gafodd ei chymeradwyo o dan y pennawd (atgoffir chi i wneud gan RPW Ar-lein)
  • Lleihau costau’r prosiect/grant – adolygir hyn yn ystod yr ymweliad â’r safle
  • Rhoi gwybod am newid i’r dangosyddion – fe’u hadolygir a’u cadarnhau yn ystod yr ymweliad â’r safle ac ar ddiwedd y prosiect

Bydd dal gofyn cyflwyno cais i newid prosiect os ydych chi am:

  • Symud gwariant cymeradwy’r prosiect rhwng costau cyfalaf a refeniw
  • Symud gwariant rhwng blynyddoedd ariannol
  • Estyn dyddiad diwedd y prosiect
  • Newid eich Costau wedi’u Symleiddio
  • Newid y sefydliad sy’n darparu’r prosiect

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais i newid prosiect cymeradwy (ailwerthusiad) yw 31 Ionawr 2023. Ni dderbynnir ailwerthusiadau wedi hynny.

I wneud cais i newid Prosiect, rhaid dilyn y broses hon:

  • Cam 1 – llenwch Gais i Newid Prosiect ar eich cyfrif RPW Ar-lein i ddisgrifio’r newidiadau yr hoffech eu gwneud. Rhowch y rhif ‘10000’ o dan ‘rhif adnabod y cais’ ar gyfer Prosiectau RPW Ar-lein.
  • Cam 2 – pan fydd eich cais wedi’i brosesu, os bydd angen, gofynnir ichi lenwi Ffurflen Ailwerthuso Newid Prosiect ar eich cyfrif RPW Ar-lein.  Unwaith eto, rhowch y rhif ‘10000’ o dan ‘rhif adnabod y cais’ ar gyfer Prosiectau RPW Ar-lein.

Mae’r cyfarwyddiadau ar gyfer gofyn am gael newid prosiect sydd wedi’i gymeradwyo, i’w gweld yma: Y Rhaglen Datblygu Gwledig/EMFF Newid/Ailwerthuso Prosiectau – Canllawiau ar Gwblhau Cais

Ymholiadau am y Prosiect

Os oes gennych ymholiadau, neu dystiolaeth ddogfennol i’w chyflwyno, anfonwch nhw i:

  • Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, neu
  • Eich cyfrif RPW ar-lein

Os nad ydych yn gallu agor eich cyfrif RPW ar-lein, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar unwaith.

Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Mae cysylltwyr Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW yn dal i weithio gartref. Gallai hynny effeithio ar gyflymder ein hymateb i rai ymholiadau.

Mae gwasanaeth ffôn y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn gweithio fel a ganlyn:

Cyfnod

Oriau Agor

Llun – Gwener

9:00am - 4:00pm

Os medrwch, anfonwch eich ymholiadau neu geisiadau ‘pob dydd’ trwy’ch cyfrif RPW ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Amserau agor dros y Nadolig:

Ni fydd y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn ateb galwadau ffôn rhwng 26 Rhagfyr a 2 Ionawr. Gall cwsmeriaid barhau i wneud ymholiadau trwy’u cyfrif RPW ar-lein dros y cyfnod hwn a byddwn yn eu hateb cyn gynted ag y medrwn.