Neidio i'r prif gynnwy

Prosiectau y disgwylir eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2023

Daw’ch grantiau EMFF o gyllidebau’r blynyddoedd ariannol sydd wedi’u cymeradwyo fel rhan o Broffil Cyflenwi’ch prosiect.

Mae blwyddyn ariannol Llywodraeth Cymru yn rhedeg o’r 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023, a rhaid pob prosiect gyda hawliad olaf y prosiect yn y flwyddyn ariannol yma cyflwyno ei hawliad terfynol erbyn 5 Ebrill 2023.

Os oes angen cael estyniad i'r dyddiad terfyn eich prosiect, anfonwch e-bost i'r blwch post EMFF at emffcommunications@gov.wales a gofynnwch am ffurflen ail-werthuso prosiect.

Eich atgoffa i hawlio (WEFO Ar-lein)

Rhaid hawlio holl wariant cymwys y prosiect a wariwyd ym Mlwyddyn Ariannol 2022/23 erbyn 5 Ebrill 2023.

Os oes gennych hawliad ar eich Proffil ar gyfer mis Mawrth 2023, bydd RPW yn cysylltu â chi yn wythnos gyntaf mis Mawrth fel bod gennych ddigon o amser i hawlio erbyn 5 Ebrill 2023

Os na fyddwch wedi hawlio holl wariant cymwys y prosiect, mae perygl y gallech golli’ch grant.

Os oes gennych fwy nag un hawliad ar gael (â statws Gwahoddwyd), rydym yn eich cynghori i hawlio’r un diweddaraf a gofyn i ni ganslo’r hawliad(au) hŷn.

Ail-werthuso

Os oes gan eich prosiect gwariant cymwys a gallai cael ei hawlio cyn diwedd y flwyddyn ariannol ond rydych yn disgwyl cymeradwyaeth ailwerthusiad prosiect, dilynwch y canllawiau croniad isod os nad yw cymeradwyaeth wedi ei rhoi erbyn yr wythnos gyntaf o Fawrth ac os nac ydych yn gallu cyflwyno hawliad erbyn y terfyn amser o’r 5 Ebrill 2023.

Os na fyddwch yn cyflwyno croniad, mae perygl y gallech golli’ch grant.

Canllawiau croniadau

Bydd angen inni wybod pa hawliadau sydd wedi cronni gennych:

  • Os na fyddwch wedi gwario holl wariant Blwyddyn Ariannol 2022/23 y prosiect, er enghraifft mae gennych anfonebau sydd heb eu talu ar 31 Mawrth 2023 neu
  • Os nad ydych wedi gallu hawlio am eich bod yn aros am

      o  y newidiadau rydych chi wedi gofyn amdanynt i’ch prosiect a        bod hynny’n effeithio ar eich gallu i hawlio,

      o  taliad o hawliad blaenorol

Yn yr achosion hyn, bydd angen ichi nodi gwariant 22/23 sydd heb ei hawlio trwy gyflwyno tystiolaeth ohono ar eich cyfrif WEFO Ar-lein ddim hwyrach na 5 Ebrill 2023.

Sut i gyflwyno manylion y croniadau hyn ar WEFO Ar-lein:

  • casglu’r holl dystiolaeth o’r gwariant sydd heb ei hawlio, er enghraifft copïau wedi’u sganio o anfonebau neu daflenni amser
  • nodi gwerth yr eitemau gwariant yn y Ffurflen Crynodeb o Groniadau
  • mewngofnodi i’ch cyfrif WEFO Ar-lein
  • i weld sut i lanlwytho dogfen i WEFO Ar-lein, ewch i Sut i Ddefnyddio WEFO Ar-lein
  • o ran enw’r achos (prosiect) cliciwch Crynodeb o’r Hawliad ac agor yr hawliad mwyaf diweddar (unrhyw statws)
  • o’r gwymplen yno, cliciwch ar Dogfennau’r Hawliadau. Yna lanlwythwch Ffurflen Crynodeb o’r Croniadau a’r dystiolaeth.
  • heb dystiolaeth, ni fyddwn yn gallu cronni’r gwariant a gallech golli’r grant.
  • dylech enwi’ch dogfen ID yr Achos Croniad EMFF - Mawrth 2023, er enghraifft 98251 Croniad EMFF - Mawrth 2023.

Sut i gyflwyno manylion y croniadau hyn ar RPW Ar-lein:

  • casglu’r holl dystiolaeth o’r gwariant sydd heb ei hawlio, er enghraifft copïau wedi’u sganio o anfonebau neu daflenni amser
  • nodi gwerth yr eitemau gwariant yn y Ffurflen Crynodeb o Groniadau
  • mewngofnodi i’ch cyfrif RPW Ar-lein
  • lanlwythwch yr Ffurflen Crynodeb o’r Croniadau a’r dystiolaeth trwy eich negeseuon. Sicrhewch eich bod yn teitlo’r neges ‘Croniad EMFF 2022/2023
  • heb dystiolaeth, ni fyddwn yn gallu cronni’r gwariant a gallech golli’r grant.

Ni fydd RPW yn eich talu ar sail ffigurau’r croniadau hyn.  I gael taliad, rhaid cyflwyno hawliad trwy’r broses hawlio arferol ar WEFO Ar-lein/RPW Ar-lein.

Byddwn yn disgwyl ichi hawlio’r gwariant hwn sydd wedi cronni ar WEFO Ar-lein ddim hwyrach na 30 Ebrill 2023.

 

Gallwch ei hawlio ar WEFO Ar-lein fel rhan o’ch hawliad nesaf o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • pan fyddwch wedi’i wario ac y bydd gennych dystiolaeth ar gyfer ei hawlio, fel anfonebau neu ddatganiadau banc
  • pan fydd yr hawliad blaenorol wedi’i awdurdodi neu ei dalu, y tendr cystadleuol wedi’i gymeradwyo neu’r ailwerthusiad wedi’i gwblhau; pa un bynnag sy’n berthnasol

Diwedd y rhaglen

Fydd y rhaglen EMFF 2014-2020 yn cau ar yr 31 Rhagfyr 2023.

Rydych nawr yn agosáu at y misoedd olaf eich prosiect. Mae rhaid i chi gwblhau eich amcanion prosiect cytunedig a chyflwyno eich hawliad terfynol erbyn y dyddiad terfyn sydd wedi ei chytuno yn eich Proffil Cyflawni.