Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r newidiadau a nodir isod yn disodli unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol.

Cofrestr Gwariant a Chofnodion Tendro Cystadleuol

Newid pwysig: Ar gyfer eitemau prosiect dros £500 ac o dan £5,000 a gofnodwyd ar y Gofrestr Gwariant mae yna newid yn y broses i'w chymeradwyo.

 • Cyflwyno cofnod Tendro Cystadleuol ar gyfer cymeradwyo gwariant

Dim dogfennau ategol i'w cyflwyno

Nid oes newid ar gyfer eitemau dros £5,000, parhewch i ddefnyddio'r Cofnod Tendro Cystadleuol am eitemau dros £5,000.  Bydd dal angen i chi ddarparu dogfennau ategol ar gyfer yr eitemau hyn.

Mae'r Cofnodion Tendro Cystadleuol i'w gweld yn y ddolen ganlynol: Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020: templed cofnod tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus | LLYW.CYMRU.

Gofyn am newidiadau i brosiectau cymeradwy

Gyda llai nag 8 mis yn weddill i gyflawni amcanion eich prosiect y cytunwyd arnynt a chyflwyno eich cais terfynol, ac yn dilyn cyflwyno'r gweithdrefnau newydd ar gyfer cymeradwyo gwariant prosiect, ni fydd yn ofynnol mwyach i gyflwyno cais newid prosiect o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Symud gwariant prosiect cymeradwy rhwng penawdau gwariant. Yn hytrach, rhaid rhoi esboniad gyda'ch cais os yw gwariant yn fwy na 15% o bennawd cost cymeradwy (bydd hyn yn cael ei ysgogi gan WEFO ar-lein)
  • I leihau costau/grant prosiect - bydd hwn yn cael ei adolygu yn yr ymweliad mewnol
  • Er mwyn hysbysu am newidiadau i ddangosyddion – bydd y rhain yn cael eu hadolygu a'u gwirio yn yr ymweliad mewnol a chau prosiect

Mae angen cais am newid prosiect o hyd os ydych chi eisiau:

  • Symud gwariant prosiect cymeradwy rhwng penawdau cost cyfalaf a refeniw
  • Symud gwariant rhwng blynyddoedd ariannol
  • Ymestyn dyddiad gorffen y prosiect
  • Gwnewch newidiadau i'ch Costau Symlach.
  • Newid y sefydliad sy'n darparu'r prosiect

Nid oes angen i chi gyflwyno Proffil Cyflawni (DPv2) mwyach gyda'ch ail-werthuso.  Bydd yr Uned Datblygu Gwledig yn diweddaru'r proffil cyflenwi ar WEFO ar-lein i adlewyrchu unrhyw newidiadau sydd wedi'u cymeradwyo.

Y dyddiad cau ar gyfer pob cais am newidiadau i brosiectau cymeradwy (ail-werthuso) yw 31 Ionawr 2023.  Ni dderbynnir unrhyw ail-werthuso ar ôl y dyddiad hwn.

I ofyn am newid Prosiect rhaid dilyn y broses ganlynol:

Cam 1 - cwblhau Cais Newid Prosiect trwy eich cyfrif RPW Ar-lein i amlinellu'r newidiadau yr hoffech eu gwneud

Cam 2 - unwaith y bydd eich cais yn cael ei brosesu, byddwch yn cael eich hysbysu i Ail-werthuso Newid Prosiect ar-lein yn RPW Ar-lein os oes angen.

Mae'r canllaw i ofyn am newidiadau i brosiectau cymeradwy i'w gweld yn y ddolen ganlynol Rhaglen Datblygu Gwledig a Chronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop 2014 i 2020: canllawiau ar wneud newidiadau i'r prosiect a gafodd ei gymeradwyo | LLYW.CYMRU.

 

Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid (diweddarwyd Tachwedd 2022)

Mae ein Canolfan Gyswllt â Chwsmeriaid RPW ar gael i helpu gyda'ch ymholiadau an y prosiect. Mae'r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid yn gweithredu fel a ganlyn:

Cyfnod

Oriau agor

Llun i Gwener

9am i 4pm

Lle bo'n bosibl, dylid cyflwyno ymholiadau prosiect arferol trwy eich cyfrif RPW Ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Cyfnod y Nadolig:

Ni fydd y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid yn derbyn galwadau ffôn rhwng 26 Rhagfyr a 2 Ionawr 2023. Fodd bynnag, gallwch barhau i gyflwyno ymholiadau trwy eich cyfrifon RPW Ar-lein yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.