Neidio i'r prif gynnwy

Oriau gweithredu

Mae staff Canolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW yn dal i weithio gartref. Gallai hynny effeithio ar gyflymder ein hymateb i rai ymholiadau.

Mae gwasanaeth ffôn y Ganolfan Gyswllt yn gweithio fel a ganlyn:

Cyfnod

Oriau agor

Llun – Gwener

9am i 4:00pm

Os medrwch, cyflwynwch ymholiadau cyffredinol neu geisiadau ynghylch eich prosiect trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.

Oriau agor y Nadolig:

Ni fydd y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn derbyn galwadau ffôn rhwng 26 Rhagfyr a 2 Ionawr 2023. Fodd bynnag, gallwch barhau i gyflwyno ymholiadau drwy eich cyfrifon RPW ar-lein yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.

Cymorth digidol Wyneb yn Wyneb:

Bydd RPW yn ailddechrau cwrdd â chwsmeriaid wyneb yn wyneb yn wyneb o ddydd Iau 1 Rhagfyr. Bydd ymholiadau wyneb yn wyneb yn cael eu trin drwy apwyntiad yn unig, a gellir gwneud apwyntiadau drwy'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Byddwn yn cynnal apwyntiadau yn swyddfeydd rhanbarthol Caernarfon, Caerfyrddin, Llandrindod a Llandudno.

Bydd prif ddull RPW o gynnal busnes yn parhau i fod ar-lein felly peidiwch â mynychu ein swyddfeydd heb wneud apwyntiad.