Neidio i'r prif gynnwy

Esbonio’r hyn y dylech ei ystyried os byddwch yn teithio i Gymru neu o Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg a rhestr wirio

Mae’r rheolau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws a oedd mewn grym ar gyfer teithio rhyngwladol a theithio i Gymru wedi cael eu dileu.

Serch hynny, mae camau y gallwn eu cymryd o hyd i ddiogelu ein gilydd ac i barhau i ddiogelu Cymru. Dylai pawb sy’n ystyried teithio dramor a phob teithiwr sy’n cyrraedd Cymru, ystyried eu hamgylchiadau personol a theuluol eu hunain a sut orau y gallant ddiogelu eu hunain wrth iddynt deithio, yn enwedig y rheini sy’n agored i niwed.

Rhestr wirio cyn teithio:

  • Edrychwch ar y sefyllfa o ran y coronafeirws yn y wlad rydych yn teithio iddi, cyn ichi deithio – efallai ei bod wedi newid ers ichi gynllunio’r daith.
  • Edrychwch ar y gofynion mynediad penodol ar gyfer y wlad rydych yn teithio iddi. Efallai y bydd angen ichi brofi eich statws brechu, darparu prawf coronafeirws negatif, llenwi ffurflenni cyn mynd i mewn, cael eich profi tra byddwch yn y wlad a / neu wynebu cwarantin gorfodol.
  • Edrychwch ar y gofynion penodol ar gyfer plant a phobl ifanc dan 18 oed (os ydych yn teithio gyda’ch gilydd neu’n annibynnol) gan y gall y rhain fod yn wahanol i’r gofynion ar gyfer oedolion.
  • Edrychwch ar sut fyddwch chi’n profi eich statws brechu a / neu brawf coronafeirws negatif. Bydd rhai gwledydd yn derbyn tystysgrifau wedi gwella o COVID, felly edrychwch ar sut allech chi gael un pe bai angen.
  • Edrychwch ar yr hyn y mae’n rhaid ichi ei wneud os byddwch yn profi’n bositif am y coronafeirws tra byddwch i ffwrdd, er enghraifft, a fydd rhaid ichi ynysu neu a fydd cyfyngiadau arnoch o ran gallu teithio adref.
  • Edrychwch ar delerau ac amodau eich yswiriant teithio fel eich bod yn deall pa gostau ychwanegol y mae’r polisi yn eu cwmpasu gan fod gan sawl polisi eithriadau penodol mewn perthynas â’r coronafeirws.

Teithio rhyngwladol i Gymru

Mae’r rheolau sy’n diffinio’r hyn y mae’n rhaid ichi ei wneud pan fyddwch yn cyrraedd Cymru o dramor wedi cael eu dileu.

Er nad yw’r gofynion cyfreithiol mewn grym mwyach, dylech ystyried cymryd rhai camau rhagofalus ychwanegol o hyd pan fyddwch yn cyrraedd Cymru i’ch diogelu chi, eich ffrindiau a’ch teulu.

Mae’r camau rhagofalus yn cynnwys:

  • gwneud prawf llif unffordd cyn ymweld ag aelodau o’r teulu sy’n agored i niwed
  • gadael bwlch rhwng ymweliadau a digwyddiadau cymdeithasol
  • ynysu a gwneud prawf os byddwch yn profi symptomau’r coronafeirws.

Os ydych am wneud prawf llif unffordd pan fyddwch yn cyrraedd Cymru ac nid oes gennych symptomau, yna bydd rhaid ichi brynu prawf. Gellir archebu profion llif unffordd am ddim ar-lein os oes gennych symptomau.

Teithio rhyngwladol o Gymru

Cyn ichi deithio rhaid ichi ymgyfarwyddo â’r gofynion i ymwelwyr ar gyfer y wlad rydych yn bwriadu teithio iddi. Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau ar waith, gan gynnwys tystiolaeth eich bod wedi cael eich brechu, profion, cwarantin a’ch rhesymau dros fynd i’r wlad.

Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn teithio gyda phlant neu bobl ifanc dan 18 oed, gan y gall y gofynion ar eu cyfer fod yn wahanol.

Mae’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO) yn darparu canllawiau cyffredinol i Brydeinwyr sy’n teithio dramor (ar GOV.UK).

Mae FCDO hefyd yn darparu cyngor teithio i bobl sy’n teithio dramor, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y coronafeirws, diogelwch, gofynion mynediad a rhybuddion teithio. Mae hyn yn cynnwys cyngor a gwybodaeth ynghylch gofynion mynediad megis profion COVID ac ynysu ar gyfer gwledydd rydych yn bwriadu ymweld â hwy (ar GOV.UK).

Efallai y bydd gan gludwyr eu gofynion eu hunain o ran profion negatif er mwyn caniatáu byrddio a theithio.

Mae Pàs COVID y GIG ar gael i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechlyn ac sy’n teithio i wlad sy’n gofyn am dystiolaeth o’r brechlyn COVID.

Os oes angen dangos eich bod wedi cael prawf negatif cyn teithio, ni chaiff y rhain fod yn brofion y GIG, yn hytrach rhaid ichi archebu a thalu am brawf gan ddarparwr preifat.

Gallwch hefyd aros yn ddiogel tra byddwch i ffwrdd drwy ddilyn yr un mesurau sy’n helpu i’ch diogelu tra rydych gartref.