COVID-19: canllawiau i'r gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth ychwanegol
Canllawiau ar dâl a phensiynau i bobl sy'n dychwelyd, myfyrwyr a'r rhai nad ydynt yn gweithio mewn gofal clinigol uniongyrchol i helpu gyda'r coronafeirws.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Lle bynnag y gallwch chi helpu, mae’ch angen chi.
Fel nyrs neu weithiwr bydwreigiaeth proffesiynol hynod fedrus, profiadol a allai fod wedi gadael cofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth dros dro neu'n barhaol, rydym yn gofyn am eich cymorth i ymuno â'r frwydr yn erbyn COVID-19. Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch chi gynorthwyo gweithlu presennol y GIG a chymunedau lleol sy'n cynnwys gofal uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Mae’n bur debyg y bydd COVID-19 yn ychwanegu pwysau enfawr ar ein GIG, systemau iechyd a gofal cymdeithasol, felly mewn ymateb, mae'r llywodraeth yn rhoi pwerau brys i ganiatáu i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ddyfarnu cofrestriad dros dro i rai grwpiau o bobl brofiadol addas.. Mae hyn yn cynnwys nyrsys a bydwragedd sydd wedi gadael y gofrestr o'u gwirfodd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac a allai fod eisiau dychwelyd i ymarfer. Drwy gynnig dychwelyd, gallwch wneud gwahaniaeth sylweddol, nid yn unig i gleifion a'r rhai rydyn ni'n gofalu amdanynt, ond hefyd i gydweithwyr a'r gymuned ehangach rydyn ni'n ei gwasanaethu.
Nid dim ond trin y rhai sydd â COVID-19 yn glinigol mae hyn yn ei olygu. Mae’n bosib y bydd y cyhoedd yn teimlo'n bryderus ac yn croesawu tawelwch meddwl drwy gymorth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol uchel ei barch a phrofiadol. Mae’n bosib y bydd eich arbenigedd yn fodd o gynnig cymorth a chefnogaeth mewn cymaint o ffyrdd drwy amrywiaeth eang o rolau gwerthfawr ac mewn amrywiaeth o leoliadau a sectorau gofal.
Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr yr amser a'r ymdrech rydych chi wedi ei rhoi yn barod fel nyrs a/neu fydwraig, a gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod yn cymryd camau i sicrhau bod dychwelyd i ymarfer mor hawdd a diogel â phosib pe byddech chi'n dymuno gwneud hynny.
Yn ddealladwy, bydd gennych chi gwestiynau pwysig i'w gofyn cyn gwneud eich penderfyniad, pa un ai a yw hynny'n ymwneud â'ch iechyd a'ch llesiant eich hun, indemniad proffesiynol, pensiynau neu dâl. Rydym wedi ceisio ateb llawer o'r rhain yma ond os oes gennych chi ymholiadau pellach nad ydynt yn cael eu hateb yma, anfonwch nhw i'n blwch post: hss-datblygurgweithlu@llyw.cymru.
Bydd eich arbenigedd a'ch profiad yn cael eu gwerthfawrogi y tu hwnt i fesur yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Pryd mae fy ailgofrestriad dros dro yn dod i rym?
Daw'r broses hon i rym o 27 Mawrth 2020. Os na chawsoch ohebiaeth ynghylch eich ailgofrestru ac os teimlwch y dylech fod wedi clywed gennym, cyfeiriwch at wefan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Sut i ymuno â'r gofrestr
Os gadawsoch ein cofrestr o fewn y tair blynedd diwethaf, byddwn yn anfon e-bost atoch ddydd Gwener 20 Mawrth 2020 yn eich gwahodd i ymuno â chofrestr dros dro Covid-19.
Arhoswch i weld a gewch chi e-bost gennym ni a gwiriwch eich ffolder sothach neu sbam.
Os na fyddwch wedi cael neges e-bost gennym o fewn 24 awr, mae’n bosibl nad yw’r manylion cyswllt sydd gennym ar eich cyfer yn gyfredol, a bydd angen i chi gadarnhau eich cyfeiriad e-bost.
A yw dychwelyd i'r gwaith yn wirfoddol?
Ydi, mae'r broses hon yn gwbl wirfoddol. Lle bynnag a sut bynnag y gallwch chi helpu, mae’ch angen chi, a byddem yn hynod ddiolchgar am unrhyw gymorth y gallwch ei chynnig. Fodd bynnag, os dewiswch beidio ag aros ar y gofrestr dros dro, bydd manylion yn y llythyr a gewch gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ynghylch yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf at ‘optio allan’. Wrth gwrs, ni fydd optio allan yn niweidiol i gyflogaeth na chyfleoedd gyrfa yn y dyfodol i'r rhai fydd yn dewis peidio â chofrestru dros dro.
Os byddaf yn penderfynu fy mod am aros ar y gofrestr a gweithio, pa gymorth a gynigir i mi?
Ar y pwynt hwn cytunir ar becyn cymorth pwrpasol i'ch galluogi i ddychwelyd i'r gwaith yn ddiogel. Bydd hyn yn cynnwys:
- Gwiriadau hunaniaeth a DBS, a fydd yn cael eu cynnal o bell ac yn gyflym;
- Cynefino drwy lwybr cyflym, gan gynnwys yr holl ofynion hyfforddi gorfodol allweddol i sicrhau eich bod yn cael eich cynorthwyo i ymarfer yn ddiogel;
- Canllawiau mwy penodol - er enghraifft, ar gwmpas eich ymarfer, rheoli coronafeirws a'r defnydd o Gyfarpar Diogelu Personol (PPE)
A fydd disgwyl i mi gael arfarniad neu ymgymryd â phroses ail-ddilysu broffesiynol?
Na, ni fydd hyn yn angenrheidiol o dan yr amgylchiadau brys hyn. Swydd dros dro yw hon, felly nid oes angen y naill na'r llall.
A fyddaf yn cael fy nhalu a sut y cytunir ar hyn?
Byddwch. Cewch dâl am unrhyw waith a wnewch mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r cyfrifoldebau rydych chi'n eu hysgwyddo. Bydd hyn yn cael ei drafod a'i negodi gyda chi wrthi i chi ddychwelyd i'r gwaith.
A fydd gen i gontract a sawl awr y gallaf weithio?
Bydd. Cynigir contract i chi sy'n adlewyrchu amddiffyniadau oriau gwaith, trefniadau tâl a hawl i wyliau blynyddol ac ati. Bydd eich oriau a'ch patrwm gwaith yn cael eu cytuno rhyngoch chi a'r sefydliad rydych chi wedi penderfynu gweithio ynddo.
Ble alla i weithio? A allaf weithio heb fod mewn rôl uniongyrchol sy'n wynebu cleifion?
Lle bo modd, cynigir gwaith i chi mewn sefydliad lle’r ydych chi wedi gweithio o'r blaen neu lle mae gennych chi gysylltiad â’r fan honno yn barod. Mae’n bosib y bydd achlysuron prin pan fyddwn yn gofyn a fuasech yn fodlon symud i ardal wahanol i ddiwallu anghenion lleol, ond byddai hyn yn unol â'ch sgiliau a'ch cymwyseddau a nodwyd, a bydd yn cael ei drafod gyda chi ymlaen llaw.
Gallwch. Mae amrywiaeth o gyfleoedd hefyd ar gyfer rolau nad ydynt yn wynebu cleifion, fel staffio llinellau brysbennu dros y ffôn neu weithio gyda GIG111.
Beth os ydw i'n poeni am fy iechyd? Er enghraifft, yn feichiog, fy system imiwnedd yn fregus, problemau iechyd neu'n brif ofalwr?
O ystyried y risg uwch o COVID-19 ymhlith y rhai sydd â chydafiachedd ac yn y boblogaeth oedrannus, byddem wrth gwrs yn cynghori yn erbyn dychwelyd i waith clinigol sy'n wynebu cleifion os ydych chi'n perthyn i'r grŵp hwn. Mae amrywiaeth o gyfleoedd y gallech eu hystyried mewn rolau nad ydynt yn wynebu cleifion a allai fod yn fwy addas, a gellir trafod y rhain yn fanylach fel rhan o'ch cynnig pwrpasol.
Ar ôl i mi gofrestru dros dro yn llwyddiannus, beth sy'n digwydd nesaf?
Gyda'ch caniatâd, bydd eich manylion cyswllt yn cael eu trosglwyddo i'r timau sy'n gweithio yn eich ardaloedd lleol neu ddewisol fel y gallant ddechrau trafod eich dewisiadau gyda chi.
Pa fath o waith fyddai disgwyl i mi ei wneud o bosib?
Mae amrywiaeth o wahanol rolau y gallech eu hystyried. Mae'r rhain yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- cynorthwyo timau clinigol â gwasanaethau GIG111
- gweithio ar wardiau neu mewn cartrefi gofal
- helpu gyda chlinigau cleifion allanol (gallai hyn fod dros y ffôn)
- darparu addysg neu hyfforddiant i glinigwyr eraill
- darparu gwasanaeth clinigol arferol
Bydd eich rôl yn dibynnu i raddau helaeth ar eich arbenigedd a'ch sgiliau, yr hyn rydych chi'n teimlo'n gyffyrddus yn ei wneud a'r angen yn eich ardaloedd lleol.
Yn yr amgylchiadau heriol hyn, cydnabyddir y gellir gofyn i ni fel clinigwyr weithio y tu allan i'n maes ymarfer arferol, ac mae'r rheoleiddwyr wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd i egluro hyn, er mwyn eich cynorthwyo.
Rwyf eisoes mewn rôl arall - rôl addysgol neu ymchwil, er enghraifft - beth yw'r camau nesaf i mi?
Os oes gennych gontract ar y cyd rhwng rolau clinigol ac addysgol / ymchwil, bydd eich sefydliad yn cysylltu â chi i drafod a ydych chi mewn sefyllfa i ddarparu rhagor o gymorth clinigol. Mae’n bosib y bydd y rhai ag arbenigedd addysgu yn gallu helpu i ddarparu sesiynau cynefino i eraill, gan gynnwys y rhai sy'n dychwelyd i waith gofal iechyd proffesiynol - er enghraifft, defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol, rheoli ocsigen llif uchel neu gleifion sy’n defnyddio awyrydd (os ydynt wedi eu hyfforddi'n briodol i wneud hynny).
Rwy'n gweithio mewn rôl glinigol anghofrestredig ran amser, gyda rôl anghlinigol rôl arall. Beth alla i ei wneud?
Rydym yn argymell eich bod yn trafod gyda'ch cyflogwyr o dan ba amgylchiadau y dylech chi atal eich ymrwymiadau allanol dros dro er mwyn darparu rhagor o gymorth clinigol yn y sefydliad sy'n eich cyflogi. Dylai'r cydbwysedd rhwng cynorthwyo gwasanaethau pwynt gofal yn uniongyrchol a chyflawni'r gwaith arferol gael ei ystyried yn ofalus fesul achos.
Rwy'n poeni am fy atebolrwydd fel unigolyn cofrestredig sy'n dychwelyd. Ymhle gallaf i ofyn am gyngor?
Rydym yn cydnabod y gallech fod yn bryderus ynghylch dychwelyd i ymarfer, yn enwedig o dan yr amgylchiadau digynsail hyn. I weld yr wybodaeth ddiweddaraf am safonau ymarfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer pob unigolyn cofrestredig, ewch i'w wefan. Gallwch fod yn dawel eich meddwl, pan godir pryder am weithiwr proffesiynol cofrestredig, y bydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth bob amser yn ystyried ffeithiau penodol yr achos, gan ystyried y ffactorau sy'n berthnasol i'r cyd-destun a'r amgylchedd lle mae'r gweithiwr proffesiynol yn gweithio. Bydd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth hefyd yn ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol am adnoddau, canllawiau neu brotocolau a oedd ar waith ar y pryd. Mae'r Datganiad ar y Cyd a wnaed gan yr holl reoleiddwyr i’w weld ar wefan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
A fydd gennyf yswiriant ac indemniad?
Bydd - mae trefniadau ar waith yn barod i roi indemniad i unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n gweithio mewn ymddiriedolaeth ysbyty neu feddygfa.
Beth fydd y trefniadau talu pensiwn ar gyfer staff sy’n dychwelyd i’r GIG i helpu yn yr ymateb i COVID-19?
Mae’r llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth frys mewn ymateb i COVID-19, sy’n cynnwys gwybodaeth bwysig am drefniadau pensiwn i staff ychwanegol y GIG.
Mae'n darparu ar gyfer atal y rheol 16 awr sydd ar hyn o bryd yn atal staff sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl ymddeol o Gynllun Pensiwn y GIG 1995 rhag gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos, yn y pedair wythnos gyntaf ar ôl ymddeol.
Mae hefyd yn darparu ar gyfer:
- atal y gostyngiad ar gyfer deiliaid statws dosbarth arbennig yng Nghynllun 1995
- y gofyniad i staff yng Nghynllun 2008 a Chynllun Pensiwn y GIG 2015 leihau eu cyflog pensiynadwy 10% os ydynt yn dewis ‘cymryd’ cyfran o’u buddion a pharhau i weithio
Gyda'i gilydd, bydd y mesurau hyn yn caniatáu i staff medrus a phrofiadol sydd wedi ymddeol o'r GIG yn ddiweddar ddychwelyd i'r gwaith, a staff sydd wedi ymddeol sydd wedi dychwelyd i'r gwaith yn barod i gynyddu eu hymrwymiadau os oes angen, heb atal eu buddion pensiwn.
Pryd fydd y mesurau hyn yn dod i rym?
Bydd y ddeddfwriaeth yn rhoi pŵer i’r Llywodraeth ddod â’r mesurau hyn i rym ar unwaith os oes angen.
Beth fydd yn digwydd pan na fydd angen y mesurau hyn mwyach?
Rhoddir cyfnod rhybudd o chwe mis i staff a chyflogwyr cyn y bydd y mesurau hyn yn peidio â bod yn berthnasol, ac ar yr adeg honno bydd adrannau perthnasol rheoliadau'r cynllun yn dod i rym eto. Gan hynny, caiff staff a chyflogwyr chwe mis o rybudd i ail-addasu eu patrymau gwaith.
Beth sy'n digwydd ar ddiwedd fy nghontract / cofrestriad dros dro?
Ar y pwynt hwn, bydd eich contract yn dod i ben a byddwch yn cael eich tynnu oddi ar gofrestr dros dro y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac ni fyddwch yn cael parhau i ymarfer fel nyrs neu fydwraig gofrestredig. Pe baech chi’n dymuno parhau i weithio a chael eich cofrestru'n barhaol gyda'r Cyngor, cysylltwch â’r Cyngor yn uniongyrchol.
Beth os byddaf yn newid fy meddwl ac nad wyf am weithio mwyach – wrth bwy ddylwn i ddweud?
Mae croeso i chi newid eich meddwl ar unrhyw adeg. Os byddwch chi'n newid eich meddwl ac na fyddwch chi eisiau gweithio mwyach, dylech roi gwybod i’ch rheolwr llinell uniongyrchol a threfnu i gamau gael eu cymryd i chi adael y gwaith yn ddiogel ac fel bo'n briodol.
Beth os byddaf yn mynd yn sâl pan fyddaf yn gweithio neu'n poeni bod y coronafeirws wedi fy nghyrraedd i?
Os byddwch chi’n mynd yn sâl wrth weithio, rhaid dilyn polisi lleol a chanllawiau cenedlaethol i sicrhau eich diogelwch chi a phobl eraill. Dylech roi gwybod i'ch rheolwr llinell ar unwaith a rhoi’r gorau i weithio. Os oes gennych bryderon ynghylch COVID-19, dilynwch ganllawiau cenedlaethol sydd ar gael drwy GIG111.
A fydd angen cliriad arnaf gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) - y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB), gynt?
Bydd, ond os oes gennych chi Dystysgrif DBS ddiweddar neu os ydych chi wedi cynnal tanysgrifiad i'r Gwasanaeth Diweddaru DBfS yna mae’n bosibl na fydd angen cyflwyno cais pellach. Gwneir asesiad gan eich sefydliad cyflogi, gan ddefnyddio canllawiau gan Gyflogwyr y GIG, i benderfynu a oes angen gwiriad pellach.
Lle mae angen cais DBS newydd, mae'r DBS yn cynnig ymestyn cwmpas eu gwasanaethau i gynnwys gwiriad llwybr cyflym newydd o ran y rhestrau gwaharddedig oedolion a/neu blant. Bydd y trefniadau hyn yn galluogi cyflogwyr i recriwtio i weithgarwch rheoledig cyn cael y dystysgrif ddatgelu lawn, lle maent wedi cynnal asesiad risg ac wedi rhoi trefniadau monitro a goruchwyliaeth briodol ar waith.
Ni fydd yn ofynnol i chi dalu am wiriad DBS.
Rwy'n Nyrs/Bydwraig gofrestredig nad yw'n gweithio mewn rôl ymarfer clinigol uniongyrchol, ond rydw i eisiau helpu. Beth ddylwn i ei wneud?
Mae llawer o bobl ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ond nid ydynt yn gweithio mewn ymarfer clinigol yn uniongyrchol - gan weithio yn y byd academaidd, polisi, ymchwil, rheolaeth, diwydiant ac amryw o feysydd eraill.
Os yw hynny’n eich disgrifio chi ac yr hoffech chi gymryd rhan fwy uniongyrchol yn yr ymateb clinigol i Covid-19, siaradwch â'ch cyflogwr i weld a allwch chi gael eich rhyddhau fel y gallwch weithio mewn lleoliad clinigol drwy gydol yr argyfwng.
Os oes diddordeb gyda chi, e-bostiwch AIGC.CynlluniorGweithlu@llyw.cymru.
Ymhle gallaf i gael rhagor o wybodaeth?
Am ragor o wybodaeth, cyngor neu gymorth, gallai'r canlynol fod o ddiddordeb:
- Canllawiau coronafeirws GIG111
- Datganiad ar y Cyd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth gan Brif Weithredwyr rheoleiddwyr Statudol Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal
- Coleg Brenhinol y Bydwragedd – Coronafeirws – beth mae angen i chi ei wybod
- Cyhoeddiad Coleg Brenhinol y Bydwragedd ynghylch cynllun gweithredu ar goronafeirws y Deyrnas Unedig
- Cyngor y Deoniaid Iechyd – Ymateb i’r Coronafeirws - diweddariadau newyddion
- Unsain: eich hawliau yn y gwaith (coronafeirws)
- Y Fforwm Gofal Cenedlaethol – Adnoddau Coronafeirws
- Iechyd Cyhoeddus Lloegr – Adnoddau Coronafeirws