Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y darpariaethau yn Rhan 2 ac ym Mhennod 2 Rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/2030 Mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu’r darpariaethau canlynol yn y DTGT: Adran 8, is-adrannau 55-58 o Bennod 2, Rhan 5 ac Adran 68. 

Mae'n rhoi trosolwg o’r broses o ddynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu (‘NDAs’) ac yn manylu ar y dyletswyddau a osodir ar weithredwyr safleoedd tirlenwi yng nghyswllt yr NDA, gan gynnwys cadw cofnodion. Mae’n manylu ar ganlyniadau torri'r gofynion sy'n gysylltiedig â NDAs, gan gynnwys y cosbau y gellir eu rhoi am fethu cydymffurfio â’r hysbysiad dynodi neu ofynion cadw cofnodion.

Mae NDAs yn galluogi'r Awdurdod i wahaniaethu'n rhwydd rhwng gweithgareddau trethadwy a rhai nad ydynt yn drethadwy ar safle tirlenwi. Maent yn sicrhau bod yr Awdurdod yn deall lle y cedwir deunydd sydd ar safle tirlenwi ond nad yw wedi'i ddodi mewn ardal gwaredu tirlenwi, am ba hyd ac at ba ddiben. 

Mae enghreifftiau o weithgareddau cyfreithlon a allai ddigwydd o fewn NDAs yn cynnwys:

  • storio deunyddiau ar gyfer adfer safleoedd
  • ail-brosesu a didoli deunyddiau ar gyfer eu hailddefnyddio yn y dyfodol
  • ailgylchu neu waredu drwy ddulliau eraill fel llosgi

DTGT/2040 Dynodi’r NDA

Mae’n bosibl y bydd ACC yn dynodi rhan o safle tirlenwi awdurdodedig fel NDA. Gall y dynodiad hwn ddilyn cais ysgrifenedig gan weithredwr safle tirlenwi, neu gall yr awdurdod ddynodi NDA ar ei liwt ei hun, er enghraifft pan fo'r Awdurdod yn gofyn am i ddeunydd penodol gael ei gadw’n unol â gofynion hysbysiad.

Gan ystyried yr amrywiaeth o weithgareddau a allai gael eu cynnal ar safle tirlenwi, efallai y bydd gweithredwr safle tirlenwi yn gwneud cais am fwy nac un NDA neu y bydd ACC yn dyfarnu mwy nag un NDA, neu gyfuniad o’r ddau. Os bydd ACC yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol, efallai y bydd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i ystyried cais yn llawn.

Pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn gwneud cais am NDA, rhaid i ACC roi hysbysiad o’i benderfyniad iddo.
Mae hysbysiad dynodi yn nodi lle mae’r NDA ar safle tirlenwi, yn ogystal â chyfres o ofynion sy'n gysylltiedig â’r gwaith o reoli’r NDA, gan gynnwys y dyddiad y bydd dynodi’r man yn dod i rym.

Rhaid i’r hysbysiad bennu’r canlynol:

  • disgrifiadau o ddeunydd y mae’n rhaid ei ddodi yn y man hwnnw; 
  • y dull pwyso (DTGT/3010) ar gyfer pennu pwysau unrhyw ddeunydd sy'n cael ei waredu neu ei dynnu o'r man; 
  •  y gweithgarwch safle tirlenwi y gellir eu cynnal yn y man (gellir defnyddio NDA at un defnydd penodol neu at nifer o ddefnyddiau);
  • y cyfnod hwyaf y caniateir cadw deunydd yn y man.

Mae’n bosibl y bydd yr hysbysiad yn pennu’r canlynol:

  • disgrifiadau o ddeunydd na chaniateir ei ddodi yn y man hwnnw;
  • uchafswm y deunydd y caniateir ei gadw yn y man.

Yn gyffredinol, bydd y dynodiad NDA yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi ddefnyddio pont bwyso i bennu pwysau unrhyw ddeunydd sy'n cael ei waredu neu ei dynnu o’r man. Gellir caniatáu dull pwyso gwahanol (DTGT/3070) er enghraifft, lle mae gweithrediad ymarferol y safle tirlenwi yn golygu y gall fod yn well gan weithredwr safle tirlenwi anfon deunydd sy'n cael ei waredu o NDA yn uniongyrchol i ardal gwaredu tirlenwi heb anfon y deunydd hwnnw drwy bont bwyso.

Gall hysbysiad ddisgrifio deunydd drwy gyfeirio at unrhyw faterion neu amgylchiadau. Gallai gyfeirio at natur neu darddiad y deunydd neu ei ddefnydd bwriadedig neu a yw am gael ei waredu. Er enghraifft, gallai ACC nodi yn yr hysbysiad na chaiff deunydd cyfradd safonol fynd i NDA lle mae deunydd cymwys yn cael ei storio.

Gallai’r hysbysiad gynnwys amodau neu eithriadau a gwahanol ddarpariaeth ar gyfer gwahanol achosion (gan gynnwys gwahanol ddisgrifiadau o ddeunydd).

Bydd ACC yn trafod cynnwys hysbysiad dynodi gyda gweithredwr safle tirlenwi a bydd disgwyl i’r gweithredwr safle tirlenwi ddangos y bydd yr NDA yn cael ei redeg yn unol â'i drwydded amgylcheddol ac unrhyw amod cynllunio. Caiff gweithredwyr safleoedd tirlenwi eu hannog i gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod unrhyw newidiadau y bwriadant eu gwneud i'w safle, neu eu dull o’i redeg, o ganlyniad i gyflwyno NDA, yn dderbyniol o dan delerau eu trwydded.

Wrth ddynodi NDA, mae'n arferol i ACC gynnwys amod y bydd yr NDA yn cael ei adolygu’n flynyddol. Bydd y Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid yn anfon llythyr a thempled ffurflen adolygu flynyddol i'w chwblhau. Gall ACC amrywio neu ddiddymu dynodiad ar unrhyw adeg a gall canlyniadau adolygiad achosi penderfyniad i wneud hynny. 

DTGT/2050 Amrywio neu ganslo dynodiad NDA

Mae'n bosibl y bydd ACC yn amrywio neu'n canslo dynodiad NDA.  Gall hyn ddigwydd ar ôl derbyn cais ysgrifenedig gan weithredwr safle tirlenwi neu ar ei liwt ei hun, er enghraifft, pan na fydd yn ystyried y dynodiad yn briodol mwyach.

Dylai gweithredwyr safleoedd tirlenwi sicrhau bod y manylion sy'n cael eu darparu fel rhan o’u dynodiad NDA yn gyfredol ac yn gywir a bod yr NDA yn cael ei weithredu’n unol â thelerau’r hysbysiad dynodi. Os bydd eu hamgylchiadau'n newid, dylent wneud cais i ACC i amrywio’r dynodiad NDA. Er enghraifft, dylid gwneud cais i ACC os:

  • oes gan weithredwr safle tirlenwi gytundeb amser cyfyngedig ar gyfer NDA a’i fod yn awyddus i hwn gael ei ymestyn
  • yw gweithredwr safle tirlenwi yn dymuno newid ffin yr NDA 
  • yw gweithredwr safle tirlenwi yn dymuno newid y deunydd y gellir ei storio mewn NDA.

Pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn gwneud cais i amrywio neu ganslo’r dynodiad NDA, mae’n rhaid i ACC roi hysbysiad o'i benderfyniad iddo.

Os bydd ACC yn penderfynu amrywio neu ganslo’r dynodiad NDA, rhaid i’r hysbysiad i’r gweithredwr safle tirlenwi nodi manylion yr amrywiad neu'r broses ganslo a’r dyddiad y daw i rym. Caiff yr hysbysiad bennu ymhellach y camau y mae’n ofynnol i’r gweithredwr safle tirlenwi eu cymryd yng nghyswllt yr amrywiad neu’r broses ganslo. Er enghraifft, efallai y bydd hysbysiad yn nodi trefniadau pontio ar gyfer symud deunyddiau pan fydd ffiniau NDA yn cael eu hamrywio.

DTGT/2060 Adolygiadau ac apeliadau sy’n ymwneud â dynodi mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu

Gall penderfyniad yng nghyswllt dynodi NDA, gan gynnwys yng nghyswllt ei amrywio neu ei ganslo gael ei adolygu a/neu gellir apelio. Gweler ein canllawiau ar adolygiadau ac apeliadau.

Nes bydd apêl yn cael ei datrys, bydd NDA dynodedig dal mewn grym oni bai y bydd y partïon yn cytuno fel arall neu os bydd cais dros dro yn cael ei gyflwyno i’r tribiwnlys, er enghraifft, os oes trosedd honedig yn cael ei chyflawni drwy gynnal yr NDA yn ei ffurf bresennol. Wrth benderfynu ar apêl, mae’n bosibl i’r tribiwnlys gynnal, amrywio neu ganslo penderfyniad ACC ynghylch dynodi NDA.

DTGT/2070 Dyletswyddau gweithredwr safle tirlenwi gan gynnwys cadw cofnodion a'u storio'n ddiogel

Mae dyletswydd ar weithredwr safle tirlenwi i gydymffurfio â hysbysiad dynodi NDA. 

Fel sy'n cael ei esbonio yn DTGT/2040 – Dynodi'r NDA gwaredu, rhaid i’r hysbysiad nodi disgrifiadau o’r deunydd y mae'n rhaid ei waredu yn yr NDA. Fodd bynnag, efallai y bydd achosion pan nad yw’r gweithredwr safle tirlenwi eisiau rhoi neu gadw deunydd o’r fath yn yr NDA. Mewn achosion o’r fath, nid yw darpariaethau’r hysbysiad dynodi yn berthnasol yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • bydd deunydd yn cael ei waredu yn syth wedi iddo gael ei gynhyrchu neu gyrraedd y safle, er enghraifft yn y man gwarediadau tirlenwi neu ar gyfer ei adfer ar y safle;
  • deunydd sy'n cyrraedd y safle ac yn cael ei waredu ar unwaith o’r safle tirlenwi, gan gydnabod y gall deunydd fod ar ei hynt rhwng lleoedd y tu allan i’r safle tirlenwi (cyfeirir at y rhain yn aml fel llwythi wedi’u rhannu).

Ar ben hynny, ni fydd darpariaethau’r hysbysiad dynodi yn berthnasol pan fydd ACC wedi cytuno i ddelio â deunydd mewn ffordd y tu hwnt i delerau’r hysbysiad dynodi mewn achosion arbennig. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn ceisio dod i gytundeb ag ACC pan fydd llwyth i’w losgi neu lwyth yn llawn pryfed yn cyrraedd y safle tirlenwi ac angen ei drin ar unwaith. Rhaid i’r gweithredwr safle tirlenwi gysylltu ag ACC cyn gynted ag y bo modd i ofyn am gytundeb i’r deunydd gael ei drin mewn modd gwahanol i delerau'r hysbysiad. Gall cytundeb ACC fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau.

Gall cytundeb gan ACC hefyd ymwneud â storio symiau mawr o ddeunydd tebyg (y cyfeirir ato'n aml fel gwastraff swmpus), lle gallai ACC gytuno i drin prosesau symud y deunydd hwn o’r NDA fel symud gwastraff sydd wedi'i storio'n gynharach.

Cadw cofnodion a’u storio'n ddiogel

Rhaid i’r gweithredwr safle tirlenwi gadw cofnodion priodol o’r deunydd mewn NDA fel tystiolaeth bod yr NDA yn cael ei weithredu yn unol â’r hysbysiad dynodi. Caiff hyn ei alw yn gofnod NDA.
Rhaid i’r cofnod NDA nodi'n glir y symiau a'r math o ddeunydd sy'n ymwneud â’r gwahanol ddefnyddiau. Rhaid i’r cofnod gynnwys y manylion canlynol ar gyfer pob tro y bydd y deunydd yn cael ei ddodi, neu ei symud, o'r man:

Deunydd sy'n cael ei ddodi yn y man: Deunydd sy'n cael ei ddidoli neu ei symud o'r man:
dyddiad dodi dyddiad didoli neu symu
pwysau a disgrifiad pwysau a disgrifiad
cyrchfan neu ddefnydd bwriadedig (os bydd yn cael ei symud) y gyrchfan wirioneddol aeth iddi neu sut cafodd ei ddefnyddio

Ar unrhyw adeg gall ACC ofyn am weld y cofnod NDA; bydd hyn yn helpu gyda gwiriadau cydymffurfio ac yn galluogi ACC i wirio y gellir cyfrif am yr holl ddeunydd sy'n dod i mewn ac yn gadael yr NDA.

Rhaid i’r cofnodion NDA gael eu storio’n ddiogel hyd ddiwedd y cyfnod o chwe blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y deunydd ei symud o’r NDA, neu’r dyddiad y mae’n peidio â bod yn ddeunydd o ddisgrifiad y mae’n rhaid ei ddodi yn y man – pa un bynnag sydd gynharaf. Mae’n bosibl y bydd cytundeb yn nodi dyddiad gwahanol i’r cyfnod pan mae’r chwe blynedd yn dechrau, a gellid defnyddio hwn mewn achosion yn ymwneud â storio gwastraff swmpus, er enghraifft.

DTGT/2080 Canlyniadau torri'r gofynion sy'n gysylltiedig ag NDA

Gweithredu NDA heb gytundeb gydag ACC

Os bydd gweithredwr safle tirlenwi yn gweithredu NDA heb gael hysbysiad dynodi gan ACC, bydd y deunydd sy'n cael ei ddodi yn ddarostyngedig i’r rheolau treth arferol a gallai, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, fod yn agored i Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ogystal â llog a chosbau o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (DCRhT). 

Torri’r gofynion sydd wedi’u nodi yn hysbysiad dynodi’r NDA gan gynnwys y gofynion cadw cofnodion

Mae enghreifftiau o beidio â chydymffurfio â hysbysiad dynodi NDA yn cynnwys:

  • methu sefydlu NDA yn unol â’r dynodiad, a methu rhoi deunydd mewn NDA yn ôl y gofyn;
  • methu dod i gytundeb ag ACC i amrywio telerau’r dynodiad lle mae’r gweithredwr safle tirlenwi wedi addasu ei arferion;
  • methu cadw cofnodion neu gadw cofnodion cywir o’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer deunydd mewn NDA a/neu fethu sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i ACC;
  • methu pwyso deunydd wrth ddod i mewn i’r NDA neu ei adael;
  • dodi gormod o ddeunydd, dodi’r math anghywir o ddeunydd a chynnal gweithgareddau nad yw dynodiad yr NDA wedi eu caniatáu; a
  • chadw deunydd yn yr NDA am gyfnod hirach na’r hyn y mae’r dynodiad wedi'i ganiatáu.

Pan fydd hysbysiad NDA ar waith, ond mae’r gweithredwr safle tirlenwi yn methu cadw at yr holl ofynion ynddo, efallai y bydd yn agored i gosb o hyd at (£3000) dan Adran 68 DTGT.

 Yn ogystal â'r gosb bosibl uchod, gall gweithredwr y safle tirlenwi fod yn agored i log a chosbau o dan DCRhT. Gall hyn ddigwydd mewn nifer o amgylchiadau, fel a ganlyn:

  • pan fydd gweithredwr safle tirlenwi yn dodi deunydd sy'n torri gofynion hysbysiad dynodi NDA, ac yna bod y deunydd hwnnw’n ddarostyngedig i’r rheolau treth arferol
  • os bydd deunydd yn cael ei roi mewn NDA pan na ddylai fod yno (megis deunydd anghymwys yn cael ei roi mewn NDA sydd wedi'i ddynodi i storio deunydd cymwys), gallai’r broses o ddodi’r deunydd hwnnw fod yn warediad trethadwy. Os felly, byddai gwaredu’r deunydd yn ddarostyngedig i’r TGT a gallai’r gweithredwyr safleoedd tirlenwi fod yn agored i ragor o gosbau am fethu cydymffurfio â’r gofynion perthnasol yng nghyswllt y dreth honno (megis y ddyletswydd i fod yn gyfrifol am y dreth a'i thalu).
  • mae’n bosibl y caiff deunydd sy'n cael ei roi y tu allan i NDA y dylai fod wedi’i roi ynddo gael ei ystyried fel gwarediad trethadwy ac mewn sefyllfa felly gall ACC gyhoeddi asesiad ar gyfer TGT, a gall gweithredwr y safle tirlenwi fod yn agored i gosbau a llog o dan DCRhT. 
  • pan fydd deunydd yn cael ei gadw yn yr NDA am gyfnod hirach na’r hyn y mae’r hysbysiad dynodi wedi'i ganiatáu, bydd yn weithgarwch safle tirlenwi penodedig ac felly bydd yn cael ei bennu fel gwarediad trethadwy o’r adeg y daeth y cyfnod a ddynodwyd i ben ac mewn sefyllfa felly, efallai y bydd ACC yn cyhoeddi asesiad TGT, ac mae’n bosibl y bydd y gweithredwr safle tirlenwi yn agored i gosbau a llog dan DCRhT.

Pan godir TGT oherwydd y dylai fod wedi cael ei storio mewn NDA ond na ddigwyddodd hynny, neu gan ei fod wedi bod yn yr NDA yn hirach na’r cyfnod hwyaf a bod y deunydd wedi cael ei roi wedyn yn y man gwarediadau tirlenwi, ni fydd yn agored i TGT eto. Am fwy o wybodaeth darllenwch y canllawiau ar warediadau esempt.