Polisi a strategaeth
Tueddiadau’r Dyfodol, Dangosyddion Cenedlaethol a Cherrig Milltir Cenedlaethol : Cynllun Cyfunol ar gyfer 2021
Bydd yr holl waith yn cael ei gyflawni yn unol â’r pum ffordd o weithio, gyda chymorth gwaith ymgysylltu rheolaidd â Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 95 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol
Cam 1: Gosod y sylfeini
Chwefror-Ebrill 2021
- Nodi a gwerthuso tueddiadau drwy ymchwil ddesg ac adolygu Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2017
- Cyfarfod Grwˆp Cynghori Technegol Tueddiadau Dyfodol Cymru (x2)
- Fforymau Llesiant Cenedlaethol Cenedlaethau’r Dyfodol (Chwefror)
- ylltu â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Cam 2: Mireinio a gwella
Mai-Awst 2021
- Datblygu ac adolygu rhestr hir o dueddiadau. Nodi sylwadau a dadansoddiadau allweddol
- Grwˆp Cynghori Technegol Tueddiadau Dyfodol Cymru (x2)
- Ymgysylltu â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gysylltiadau ag asesiadau llesiant lleol
Cam 3: Ymgynghori a chwblhau
Medi-Tachwedd 2021
- Cwblhau Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021
- Datblygu deunyddiau ategol, cynllunio ar gyfer gweithdai ôl-lansio a lledaenu (ee Canllaw i Bobl Ifanc, Hawdd ei Ddarllen ac ati)
- Ymgysylltu â’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chyrff cyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Cam 4: Canlyniadau
Rhagfyr 2021
- Cyhoeddi ail Adroddiad statudol Tueddiadau’r Dyfodol.
Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol
Cam 1: Gosod y sylfeini
Chwefror-Ebrill 2021
Drwy’r ymarfer ymgysylltu:
- Cadarnhau’r newidiadau arfaethedig i’r Dangosyddion Cenedlaethol (fel y cynigiwyd yn yr ymgynghoriad Mesur Cynnydd Ein Cenedl yn 2019)
- Gofyn am farn ar Ddangosyddion Cenedlaethol newydd posibl ar sail yr hyn a ddysgwyd o COVID-19
Cam 2: Mireinio a gwella
Mai-Awst 2021
- Cytuno ar unrhyw ddangosyddion Cenedlaethol ychwanegol, a dechrau eu datblygu
- Dechrau gweithio ar adroddiad Llesiant Cymru 2021.
Cam 3: Ymgynghori a chwblhau
Medi-Tachwedd 2021
- Cyhoeddi adroddiad Llesiant Cymru 2021 ym mis Medi, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu Dangosyddion Cenedlaethol pellach
Cam 4: Canlyniadau
Rhagfyr 2021
- Gosod y newidiadau i’r Dangosyddion Cenedlaethol yn y Senedd.
Cerrig Milltir Llesiant Cenedlaethol
Cam 1: Gosod y sylfeini
Chwefror-Ebrill 2021
- Dechrau gwaith datblygu cychwynnol ar y Cerrig Milltir Cenedlaethol cyn ymgysylltu yng Ngham 2
- Cytuno ar y Cerrig Milltir Cenedlaethol a gyhoeddir yn 2021, ar sail ffactorau fel argaeledd data a’r gallu i ymgysylltu â rhanddeiliaid
Cam 2: Mireinio a gwella
Mai-Awst 2021
- Ymgysylltu â chyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu a mireinio gwerthoedd drafft ar y cyd ar gyfer y Cerrig Milltir Cenedlaethol
Cam 3: Ymgynghori a chwblhau
Medi-Tachwedd 2021
- Lansio ymgynghoriad ar werthoedd y Cerrig Milltir Cenedlaethol ym mis Medi
- Cytuno ar y gwerthoedd terfynol gyda Gweinidogion yn dilyn yr ymgynghoriad
Cam 4: Canlyniadau
Rhagfyr 2021
- Gosod y Cerrig Milltir Cenedlaethol cyntaf yn y Senedd.