Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd – yn cyfrannu at y themâu canlynol:

  • Rheoli tir ar lefel fferm
  • Gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
  • Effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
  • Rheoli tir ar lefel tirwedd
  • Coetiroedd a choedwigaeth
  • Cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio

Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu mewn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael dros y tair blynedd nesaf, a llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – cynllun a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: https://businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

 

Adran A – Cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn esbonio'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Mae'r cyfnod ymgeisio hwn yn cefnogi sefydlu cnwd gorchudd nad yw’n cael ei chwistrellu ar ôl cynaeafu grawnfwydydd neu indrawn yn yr hydref, lle mae’r pridd, ar ôl cynaeafu, fel arfer yn cael ei adael yn foel neu â sofl. Mae'r gofynion wedi cael eu pennu ynghyd â thaliad safonol fesul hectar. Mae'r manylion llawn ar gael yn Atodiad A. Os ydych wedyn yn credu y gallech fod yn gymwys i gael cymorth o dan y cynllun hwn a'ch bod am wneud cais, gweler Adran D Gwneud Cais i’r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd a'r llyfryn Sut i Lenwi.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 20 Mehefin 2022 ac yn cau ar 29 Gorffennaf 2022.

Y dyraniad cyllideb dangosol ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £350,000.

Mae Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gynllun grant sydd ar gael i bob ffermwr cymwys yng Nghymru. Mae'r cynllun yn cefnogi tyfu a defnyddio cnydau mewn ffordd sy’n gallu arwain at wella perfformiad amgylcheddol busnes fferm.

Amcanion y cynllun yw cefnogi ffermwyr i wneud y canlynol:

  • Lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
  • Addasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm yn fwy cadarn.
  • Gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.
  • Cyfrannu at wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru.

Mae cnydau a gweithgareddau a gefnogir drwy'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi cael eu nodi ymlaen llaw fel rhai sy'n cynnig manteision clir a mesuradwy i'r amgylchedd a’r busnes fferm.

Darllenwch y ddogfen rheolau a chanllawiau Tyfu er mwyn yr Amgylchedd cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, GWLAD ar-lein a, lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol.

Bydd cyfnod ar wahân ar gyfer datgan diddordeb yn y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ar gyfer cnydau a heuir yn y gwanwyn yn agor yn ddiweddarach eleni.

Adran B: Tyfu er mwyn yr Amgylchedd – Cymhwysedd

Rydych yn gymwys os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • Rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.
  • Rhaid ichi:
    • fod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol
    • bod â thri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, neu
    • gallu dangos mwy na 550 o oriau llafur safonol

Byddwn yn gwirio a oes gennych hawliad cymwys o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol neu gynllun Glastir Organig i gadarnhau a ydych yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych dri hectar o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi cyflwyno hawliadau i’r y naill gynllun na'r llall neu os na allwn gadarnhau bod gennych y tir, bydd rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch datganiad o ddiddordeb i gadarnhau eich bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a'ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd naill ai ar sail tri hectar o dir neu ar sail 550 o oriau llafur safonol.

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn cynnwys y sectorau ffermio canlynol:

  • cnydau âr
  • eidion
  • llaeth
  • geifr
  • garddwriaeth (gan gynnwys hydroponeg a phlanhigion dŵr)
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • cadw gwenyn

Nid ydych yn gymwys:

  • os ydych yn gwsmer sy'n cadw ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • os ydych yn gwsmer coedwigaeth (gan gynnwys pobl sy'n berchen ar goetir yn unig)
  • os ydych yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Cymdeithasau Cynhyrchwyr)

Fodd bynnag, os yw dau ddaliad amaethyddol neu fwy'n cael eu rheoli fel uned unigol neu fod un person yn berchen arnynt neu eu bod i ryw raddau’n cael eu rheoli ar y cyd, a bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/neu storfeydd bwydo cyffredin, byddant yn cael eu hystyried yn un busnes.

  • Os oes gennych gontract Glastir Uwch ar hyn o bryd, nid yw parseli cae lle mae opsiynau rheoli parhaol Glastir Uwch ar waith yn gymwys i gael cymorth gan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.  Pan fydd opsiwn cylchdroi tir âr Glastir Uwch ar waith, rhaid i'r gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd fod yn ychwanegol at yr ardal rydych wedi ymrwymo iddo ar hyn o bryd o dan eich contract Glastir Uwch.

Costau cymwys

Dim ond ar gyfer gweithgareddau a restrir yn y Rhestr o Weithgareddau Cymwys yn Atodiad A y byddwch yn gymwys i gael taliad.

Rhaid i weithgareddau fodloni neu ragori ar y fanyleb ofynnol a ddisgrifir.

Costau Anghymwys

  • Cnydau nad ydynt yn cael eu disgrifio yn Atodiad A
  • Cnydau sy'n cael eu tyfu ar dir nad yw wedi'i gofrestru i'ch Cyfeirnod Cwsmer.

Uchafswm ac Isafswm y Grant

Y grant mwyaf y gellir ei ddyfarnu yw £5,000.

Mae’r grant lleiaf y gellir ei ddyfarnu yn cyfateb i'r gyfradd dalu ar gyfer un hectar o gnwd cymwys.

Caiff eich cais fod yn fwy na'r uchafswm grant. Os dewisir eich datganiad o ddiddordeb, bydd yr hawliad cysylltiedig yn cael ei gapio i'r uchafswm o £5,000.

Gofynion Allweddol

Yr arwynebedd lleiaf y gellir gwneud cais amdano yw un hectar o gnydau gorchudd.  Caiff yr arwynebedd lleiaf o un hectar gynnwys nifer o ardaloedd llai mewn mwy nag un parsel cae, ar yr amod nad yw arwynebedd unrhyw barsel cae unigol yn is na 0.10 hectar.

Caiff ymgeiswyr rannu'r arwynebedd lleiaf o un hectar ar draws un neu fwy o barseli tir.

Rhaid tyfu pob cnwd yn unol â'r safonau a nodir yn Atodiad A.

Mae angen i'r amrywiaeth a’r cymysgedd o rywogaethau a ddewisir fod yn briodol i'r lleoliad.

Dim ond hadau ardystiedig y dylid eu defnyddio, a dylid eu hau ar y gyfradd hau a argymhellir.

Rhaid cynnal prawf pridd, neu fod wedi cynnal prawf pridd yn y 12 mis cyn gwneud cais. Y gofyniad sylfaenol ar gyfer y prawf hwn yw dadansoddiad o lefelau P, K a pH. Bydd angen prawf pridd ar gyfer pob parsel cae unigol, h.y. os bydd cnwd yn cael ei dyfu mewn dau barsel cae, bydd angen dau brawf pridd ar wahân.

Bydd canlyniadau'r profion pridd yn llywio'r camau sydd eu hangen yn y dyfodol i unioni unrhyw ddiffygion a nodwyd cyn sefydlu'r cnwd nesaf. Gallai hyn gynnwys defnyddio calch, gwrtaith â lefelau P a K priodol, slyri neu dail.  Rhaid gwneud cais yn unol â system argymell gwrtaith gydnabyddedig, megis RB209 AHDB.

Dylid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae, gan gynnwys dyddiadau tyfu a hau, cyfraddau hau, dyddiadau pori a chyfraddau stocio a'u cyflwyno fel rhan o'r hawliad.

Mewn sefyllfaoedd lle nad yw cnwd wedi cael ei sefydlu'n llwyddiannus, oherwydd tywydd garw neu ddifrod gan blâu, dylech roi gwybod i RPW ar unwaith drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.

Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod yr hadau ar gael cyn derbyn y contract.

Bydd y Contract ar gyfer y cyfnod hon yn dod i ben ar 30 Ebrill 2023, a dylid cyflwyno pob cais erbyn y dyddiad hwn.

Adran C – Caniatadau

Mae'n ofynnol ichi gydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol sy’n berthnasol i’ch tir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen caniatâd gan yr awdurdodau perthnasol, e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn ymgymryd â rhai gweithgareddau.

Eich cyfrifoldeb chi yw ceisio unrhyw ganiatâd sydd ei angen i gyflawni'r gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.

Noder – nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Ardaloedd Dynodedig:

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA):

Os oes gennych dir sydd wedi’i ddynodi’n SoDdGA (gan gynnwys ACA ac AGA) neu yn GNG, gallwch ei gynnwys yn eich contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd – ond rhaid sicrhau nad yw gofynion eich Contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gwrthdaro â gofynion rheoli tir o dan ddynodiadau o’r fath.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am reoli SoDdGAau a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Mae'n ofyniad cyfreithiol cael caniatâd ysgrifenedig gan CNC i gynnal gweithgareddau ar y tir hwnnw.

Parciau a Gerddi Cofrestredig, Henebion Rhestredig a Nodweddion Hanesyddol Eraill:

Rhaid ichi sicrhau nad yw gofynion eich Contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn gwrthdaro â gofynion rheoli tir sydd wedi’i ddynodi’n Heneb Restredig nac yn difrodi Parciau a Gerddi Cofrestredig, Heneb Restredig a Nodweddion eraill yn yr Amgylchedd Hanesyddol. CADW yw’r corff sy’n gyfrifol am reoli Henebion Rhestredig a Pharciau a Gerddi Cofrestredig. Mae’n bosibl y bydd angen ei ganiatâd ysgrifenedig arnoch os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau ar y tir hwnnw.

Os ydych am gynnal gweithgareddau sy’n golygu trin tir ar nodwedd mewn Amgylchedd Hanesyddol, bydd angen arnoch ganiatâd yr Ymddiriedolaeth Archeolegol Leol briodol yn eich ardal.

Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007:

Os ydych yn bwriadu tarfu ar unrhyw lystyfiant y mae llai na 25% ohono’n rhywogaethau amaethyddol wedi’u hau, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007.

Hawliau Tramwy Cyhoeddus:

Os ydych yn bwriadu ymgymryd â gweithgareddau a allai rwystro Hawl Tramwy Cyhoeddus, bydd angen ichi gael caniatâd yr Awdurdod Lleol neu'r Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Arall:

Rhaid ichi gydymffurfio â safonau gofynnol a gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â’r amgylchedd, hylendid, lles anifeiliaid a’r holl safonau iechyd a diogelwch perthnasol.

Adran D – Gwneud cais i'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd

RPW Ar-lein

Dim ond drwy ddefnyddio Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein y gellir gwneud cais i’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Actifadu arno fel y gallwch agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 (Llun – Gwener 9:00 – 16:00) a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Bydd Cod Actifadu newydd yn cael ei anfon atoch.

I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Ewch i’r canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o wybodaeth. Mae modd cwblhau’r rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen hysbysu Llywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid.

Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Mae'r Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ar gael yn yr adran 'Ceisiadau a Hawliadau' yn eich cyfrif.

Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW.  Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ar ôl derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant a Chod Actifadu Ar-lein ar gyfer Taliadau Gwledig Cymru (RPW). Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Awdurdodi Asiant ar ôl cofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru Ar-lein. Gweler ein canllawiau ar sut i gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.  Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.

Mae rhagor o wybodaeth am RPW (Taliadau Gwledig Cymru) Ar-lein ar gael ar Wefan Llywodraeth Cymru.

Datblygu sgiliau a hyfforddiant cysylltiedig:

I fanteisio i'r eithaf ar y cymorth sydd ar gael, ac i sicrhau bod y busnes fferm yn cael y gwerth gorau posibl gan y cynllun hwn, rydym yn argymell yn gryf fod ymgeiswyr yn cynnal yr hyfforddiant a'r gweithgareddau Datblygu Proffesiynol Parhaus priodol mewn perthynas â'r gweithgareddau sy'n cael eu cefnogi drwy'r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.  Yn benodol y modiwl ar briddoedd https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/tir/pridd.

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu amrediad o gyrsiau â chymhorthdal ac am ddim. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael a sut i wneud cais ar gael yn:  https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/

Adran E – Y datganiad o ddiddordeb a'r broses ddethol

Cyflwyno datganiad o ddiddordeb

Canllawiau ar sut i gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb drwy RPW Ar-lein.

Mae Atodiad A yn rhestru'r gweithgareddau cymwys y gallwch wneud cais amdanynt o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.

Ar gyfer parseli tir a gyflwynir o fewn datganiad o ddiddordeb ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, ni chewch wneud unrhyw newidiadau drwy wasanaeth Rheoli fy Nhir RPW Ar-lein. Os yw'r newidiadau wedi'u cofrestru ar y parseli tir yn ystod y broses ymgeisio, ni fydd yr ardaloedd hynny yn gymwys ar gyfer cymorth.

Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer datganiadau o ddiddordeb sydd yn y broses ddrafftio drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y datganiad o ddiddordeb wedi’i gwblhau’n gywir a bod y wybodaeth a roddir i gefnogi eich prosiect yn gywir.

Sgorio

Mae angen i ymgeiswyr ddewis yr ardal lle bydd y gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn Amgylchedd yn cael eu cynnal, hyd at uchafswm y dyfarniad grant o £5,000, neu ardal ychwanegol sy'n fwy na hyn. Bydd y system yn cyfrifo sgôr derfynol yr ymgeisydd yn awtomatig. Bydd y prosiectau sydd â'r sgôr uchaf yn mynd yn eu blaenau.

Mae gweithgareddau o dan y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd wedi cael eu sgorio yn dilyn asesiad a gynhaliwyd yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • Lleihau allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr.
  • Ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a gwneud busnesau fferm a choedwigaeth yn fwy cadarn.
  • Rheoli ein hadnoddau dŵr i wella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.
  • Amddiffyn y dirwedd a'r amgylchedd hanesyddol gan wella mynediad ar yr un pryd.
  • Cyfrannu at wyrdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru.

Rhoddir y sgoriau canlyniadol yn Atodiad A.

Yn dilyn cyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, rhoddwyd sgôr i'r gweithgareddau.  Mae'r sgôr derfynol yn cael ei chyfrifo drwy luosi arwynebedd y gweithgareddau rydych wedi eu dewis â sgôr y gweithgareddau, ac ychwanegu sgoriau ar gyfer amcanion sylfaenol dros y parsel y bydd y gweithgareddau’n cael eu cynnal ynddo.  Mae matrics sgorio a sgôr enghreifftiol yn Atodiad B

Diben y broses sgorio yw galluogi i Lywodraeth Cymru drefnu’r datganiadau o ddiddordeb yn ôl faint o arian sydd ar gael ym mhob cyfnod ymgeisio.

Ni chewch wneud newidiadau ar ôl ichi gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb.  Ar ôl ichi gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb, os oes angen ichi wneud newidiadau, os bydd y cyfnod datgan diddordeb yn parhau i fod ar agor, cewch dynnu'n ôl y datganiad o ddiddordeb a gyflwynwyd a chyflwyno un newydd cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno.

Pan fydd ceisiadau'n ennill yr un sgôr, y cais am y gwerth isaf a ddewisir gyntaf.

Pan fydd gan geisiadau'r un sgôr, ynghyd â'r un gwerth a'r un safle ar y trothwy cyllid sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i naill ai ddewis neu wrthod y ceisiadau hyn, yn dibynnu ar y gyllideb sydd ar gael.

Dewis datganiadau o ddiddordeb llwyddiannus

Os caiff eich datganiad o ddiddordeb ei ddewis, cewch wybod drwy eich cyfrif RPW ar-lein.

Rhaid ichi dderbyn y contract o fewn 30 diwrnod calendr i'r dyddiad y cynigir y contract ichi, drwy'r botwm glas ar hafan eich cyfrif RPW Ar-Lein.  Ni chewch gychwyn ar y gweithgareddau yn eich contract nes i'r contract gael ei gynnig ichi.

Os nad ydych yn derbyn eich contract o fewn 30 diwrnod calendr, bydd y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Bydd manylion llawn ynghylch pryd y bydd rhaid ichi dderbyn y contract, a phryd y bydd rhaid ichi brynu'r eitemau a hawlio amdanynt, yn cael eu nodi yn eich contract.

Byddwn yn cyhoeddi nodyn atgoffa drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn contract.

Os ydych yn derbyn contract Tyfu er mwyn yr  Amgylchedd ac yn tynnu'n ôl ar ôl ichi dderbyn y contract, bydd gwerth y contract yn cael ei dynnu o'r uchafswm grant o £5,000 sydd ar gael ichi mewn unrhyw gyfnodau dilynol.

E.e. datganiad o ddiddordeb wedi'i gyflwyno a gyfer Cyfnod 1 a contract wedi'i dderbyn â gwerth o £3,000. Os yw'r contract wedyn yn cael ei wrthod, y cyfanswm a fydd ar gael yn y cyfnod nesaf rydych yn gwneud cais ar ei gyfer fydd £2,000.

Os yw'r hawliad a gyflwynir yn rhannol ddilys (e.e. nid yw un eitem yn bodloni'r fanyleb, neu ni chyflwynir dogfennau ategol) gellir didynnu gwerth y contract nad oedd yn gymwys o'r cyfanswm a oedd ar gael ar gyfer unrhyw gyfnod ddilynol.

Withdrawal of EoIs

Once a business has submitted an EoI  can it be withdrawn?

  1. Oes, os bydd y cyfnod datgan diddordeb ar agor

Cewch dynnu eich cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-Lein; cewch ailgyflwyno cais cyn i'r cyfnod cau 

  1. Oes – ar ôl i gyfnod datgan diddordeb gau OND cyn i'r busnes dderbyn y contract.

Gallwch dynnu eich cais yn ôl drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Os ydych wedi dewis y lleoliad anghywir neu wedi newid eich meddwl am y gweithgaredd rydych wedi'i dewis, yna rhaid ichi dynnu'ch cais yn ôl a gwneud cais arall yn y rownd nesaf.

Cofiwch fod y broses yn un gystadleuol ac nad oes gwarant y byddwch yn llwyddiannus yn y rownd nesaf.

  1.  Nac oes – ar ôl i fusnes gael ei ddewis a chontract gael ei gynnig i'r busnes

Ni allwn dderbyn datganiad o ddiddordeb yn cael ei dynnu'n ôl ar ôl i gontract gael ei gynnig.

Ni allwn dderbyn newidiadau i'r contractau ynglŷn â'r gweithgaredd na'i leoliad ar yr adeg hon.

Adran F – Amodau’r Grant

Mae’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn ddarostyngedig i amrediad o ddeddfwriaeth berthnasol (gweler Adran C). Rhaid i Lywodraeth Cymru a’r ymgeisydd/derbynnydd weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth honno.

Mae’r cynnig o grant Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn cael ei wneud yn amodol ar delerau ac amodau a fydd yn cael eu nodi yn llawn yn eich contract, gan gynnwys y telerau a’r amodau a nodir isod. Bydd y contract yn para wyth mis ar ôl dyddiad cyhoeddi’r contract.  Gallai methu â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo eich dyfarniad a/neu adennill y symiau sydd eisoes wedi’u talu ichi, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

Gwneir y dyfarniad ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu'ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais a'r ffurflen hawlio ac mewn unrhyw ohebiaeth a gafwyd wedi hynny. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a osodir o dan gyfraith y DU.

Ni chewch newid y contract, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio â’r rheolau ar gostau cymwys fel y’u nodir yn Nodiadau Cyfarwyddyd y Cynllun.

Rhaid cwblhau gweithgareddau yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni gyda  Llywodraeth Cymru. Ni ddylech wyro o'r amserlen hon heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen hawlio Grantiau RPW Ar-lein a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau sydd eu hangen o dan y cynllun.

Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a nodir yn y contract. Ni ddylech wyro o'r amserlen y cytunwyd arni na newid gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

 Mae’n rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi gwneud cais am unrhyw gyllid cyhoeddus arall. Os yw’n dod i’r amlwg eich bod wedi derbyn cyllid cyhoeddus o ffynhonnell arall, gall hynny arwain at wrthod eich hawliad, adennill taliadau a chyflwyno cosbau.

Rhaid cadw cofnodion mewn perthynas â’r cais a’r hawliad am y grant hwn am o leiaf pum mlynedd ar ôl dyddiad dod i ben y prosiect.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru, neu eu cynrychiolwyr archwilio’r prosiect. Os gofynnir, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu adael iddynt weld y dogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a roddir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, cyfanswm y grant a ddyfarnwyd i chi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd  yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Section G – Payments

Hawliadau

Dim ond drwy ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grantiau yn eich cyfrif RPW Ar-lein y cewch wneud hawliad i’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd. Gwneir taliadau pan fydd eich hawliad wedi cael ei ddilysu'n llwyddiannus. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi cael ei wneud a bod y gwaith wedi cael ei gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Er mwyn derbyn taliadau drwy’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd rhaid ichi:

  • Fod wedi derbyn y cynnig o gontract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd o fewn 30 niwrnod calendr ar ôl dyddiad ei gynnig a bodloni'r holl ofynion.
  • Sicrhau eich bod wedi cwblhau'r holl weithgareddau a restrir yn eich contract ar ôl ichi dderbyn y cynnig o gontract.
  • Sicrhau eich bod wedi ymgymryd â'r holl weithgareddau a restrir yn eich contract.
  • Cyflwyno'r hawliad gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Grant yn eich cyfrif RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio – sef 30 Ebrill 2023.
  • Cyflwyno'r holl ddogfennau ategol.

Byddwn yn cyhoeddi uchafswm o ddau nodyn atgoffa ar gyfer unrhyw hawliadau sy'n weddill drwy eich cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno hawliad.

Nid ystyrir hawliad yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei gyflwyno drwy’r dudalen Hawlio Grantiau yn ein cyfrif RPW Ar-Lein a nes y bydd yr holl ddogfennau ategol wedi cael eu cyflwyno.

Gallwch gyflwyno eich hawliad unrhyw adeg ar ôl cwblhau’r gweithgareddau.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir derbyn ceisiadau am estyniadau i'r dyddiad cau ar gyfer hawlio.  Dylid cyflwyno ceisiadau drwy'r adran 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein, gan nodi'r rhesymau dros ofyn.  Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos.

Dogfennau Ategol

Gallwch gyflwyno anfonebau a dogfennau ategol drwy eu sganio a’u hanfon drwy 'Fy negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein.

Mae'n ofynnol i'r dystiolaeth ganlynol gael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio:

  • Tystiolaeth o brawf pridd (copi o'r adroddiad ar y canlyniadau wedi'i ddyddio, gan gynnwys enw a chyfeiriad yr ymgeisydd a chyfeirnod y cae).  Mae angen prawf pridd ar gyfer pob parsel cae unigol.
     
  • Copi o'r holl anfonebau am hadau.
  • Copi o'r holl ‘docynnau’ hadau. Rhaid iddynt gynnwys manylion y cymysgedd o hadau.
  • Copi o'r holl anfonebau contractio (os defnyddir contractwyr).
  • Ffotograffau â geo-dagio o'r cae(au) yn ystod y camau canlynol:
  • Cyn trin y tir neu ddrilio uniongyrchol.
  • Yn ystod trin y tir a gweithgareddau hau.
  • Ar 15 Chwefror yn dangos gorchudd cnwd llawn.
  • Copi o'r cofnod o weithgareddau yn y cae.

Mae canllawiau ar gyflwyno ffotograffau â geo-tag ar gael yn

https://llyw.cymru/tyfu-er-mwyn-yr-amgylchedd-canllawiau-ffotograff-geotag

Os na fydd digon o dystiolaeth yn cael ei darparu erbyn y dyddiad cau ar gyfer hawlio, efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Gweithgareddau heb eu cwblhau

Os yw cyflenwyr wedi dweud wrthych nad ydynt yn gallu cyflenwi'r hadau o fewn yr amserlen ofynnol, bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon’ yn eich cyfrif RPW Ar-lein a rhoi gwybod inni am y broblem.

Os na allwch gwblhau'r gweithgaredd, o fewn yr amserlenni gofynnol, (e.e. hadau heb eu hau o fewn deg diwrnod i gynaeafu oherwydd tywydd garw), bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein a roi gwybod inni am y broblem cyn y dyddiad cau ar gyfer gweithgaredd.

Mewn amgylchiadau eithriadol lle roedd yn amhosibl hau'r cnwd am gyfnod estynedig ar ôl cynaeafu ac nad yw plannu'r cnwd gorchudd bellach yn weithgaredd hyfyw am resymau amgylcheddol, bydd angen ichi gysylltu â ni drwy 'Fy Negeseuon' yn eich cyfrif RPW Ar-lein a rhoi gwybod i ni. Yn yr amgylchiadau hyn bydd pob achos yn cael ei ystyried fesul achos.

Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi eich hysbysiad.

Hawliadau anghywir a chosbau

Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hawliad a gyflwynir yn gymwys ac yn gywir.

Rhaid i’r holl weithgareddau a gymeradwywyd fod wedi eu cwblhau ar ôl derbyn y contract.

Bydd eich hawliad yn anghywir:

  • Os nad ydych wedi cwblhau'r gweithgareddau a restrir yn y contract.
  • Os ydych wedi sefydlu math anghywir o gnydau neu'r fanyleb anghywir.
  • Os ydych wedi dechrau unrhyw waith cyn i'r contract gael ei gynnig.
  • Os nad ydych wedi cyflwyno'r holl ddogfennau y gofynnwyd amdanynt.

Mae’n rhaid ichi hawlio am yr holl weithgareddau a restrir yn eich contract.

Os ydym yn gweld nad oedd y gweithgareddau hynny'n bodloni'r fanyleb, neu os nad oedd yr ardal a heuwyd yn bodloni gofynion y contract, bydd taliadau'n cael eu lleihau i lefel y gweithgareddau a gyflawnwyd yn unol â'r fanyleb ofynnol.

Os gwelir bod lefel y gweithgareddau anghymwys yn fwy na 10% o'r taliad cymwys, bydd swm sy'n cyfateb i werth y gweithgareddau anghymwys yn cael ei dynnu o'ch taliad.

Er enghraifft:

Mae cwsmer yn hawlio am y gweithgaredd canlynol â chyfanswm gwerth grant o £3,000

Gweithgaredd Maint Gwerth y Grant
Cnydau gorchudd 30 hectar £3,510
Cyfanswm   £3,510

Yn yr enghraifft hon, nid yw un hectar, â gwerth o £117, yn bodloni'r fanyleb. (Ni chyflwynwyd anfoneb hadau i ddangos bod y cnwd wedi'i blannu ar draws y 30 hectar llawn ac nad oedd unrhyw ganlyniadau profion pridd ar gyfer un parsel tir). Y cyfanswm a hawliwyd yw £3,510 a gwerth y gweithgaredd na chafodd ei gymeradwyo yw £117. Gan fod gwerth y gweithgaredd anghymwys yn llai na 10% o'r taliad cymwys (£3,510), cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £3,393.

Fodd bynnag, os nad yw wyth hectar, â gwerth o £936, yn bodloni'r fanyleb, y cyfanswm a hawliwyd yw £3,510 a gwerth yr eitem na chafodd ei chymeradwyo yw £936. Bydd gwerth y gweithgaredd anghymwys, sef £936, yn cael ei dynnu o'r hawliad gwreiddiol o £3,510 gan adael swm o £2,574. Gan fod gwerth y gweithgaredd anghymwys yn fwy na 10% o'r costau cymwys (£2,574) bydd swm sy'n cyfateb i werth yr eitem anghymwys, sef £936, yn cael ei dynnu o'r swm sy'n weddill hefyd. Cyfanswm y taliad sy'n ddyledus yw £1,639.

Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch unrhyw beth fydd ei angen arnoch ar gyfer eich contract, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig ei fod yn gymwys cyn ichi ysgwyddo’r costau.

Troseddau

Mae Rheoliad 13 o Reoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 (Rhif 3222 (Cy.327)) yn pennu troseddau a chosbau mewn perthynas ag elfennau penodol o gyllid datblygu gwledig.  Mae’r Rheoliad hwnnw a’r troseddau hynny yn berthnasol i’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd.  Mae troseddau'n cynnwys darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, yn fwriadol neu’n fyrbwyll, mewn perthynas â chyllid datblygu gwledig; rhwystro arolygydd neu swyddog; a gwrthod darparu gwybodaeth ar gais.

Adran H – Newidiadau i Reolau’r Cynllun

Newidiadau i’r Ddeddfwriaeth (gan gynnwys Dehongliadau Newydd)

Gall deddfwriaeth newid o dro i dro a bydd yn ofynnol ichi gydymffurfio ag unrhyw newidiadau i’r cynllun yn dilyn hysbysiad gan Lywodraeth Cymru.

Newidiadau i Reolau’r Cynllun neu Gontract

Mae’n bosibl y bydd angen inni wneud newidiadau i reolau’r cynllun a/neu eich contract am nifer o resymau. Er enghraifft, efallai y bydd angen inni ddiweddaru’r amodau rheoli ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf, neu ddiwygio rheolau’r cynllun er mwyn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth. Byddwn yn cyhoeddi newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn cysylltu â chi’n uniongyrchol os oes angen.

Adran I – Rheoliadau, Monitro a Chadw Cofnodion

Rheolaethau 

Rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau’r cynllun Tyfu er mwyn yr  Amgylchedd.

Gall eich hawliad gael ei ddewis ar gyfer ymweliad i gadarnhau bod y gweithgareddau wedi cael eu cynnal cyn ichi dderbyn y taliad neu ar ôl ichi dderbyn y taliad.

Bydd holl fanylion eich datganiad o ddiddordeb, manylion eich hawliad a'r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb a chyflwyno eich hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu arnoch cyn lleied â phosibl, ond mae rhai gwiriadau yn gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich hysbysu ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau a gallwch gael eich erlyn.

Monitro

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect

Rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr gynnal archwiliadau.

Cadw cofnodion

Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am bum mlynedd.

Bydd yn ofynnol ichi hefyd:

  • Roi i Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth am eich contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd a cyflwyno'r wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Sicrhau bod cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall, gan gynnwys data ar gyfrifiadur, mewn perthynas â'ch contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd ar gael i Lywodraeth Cymru, ei swyddogion awdurdodedig a’i hasiantwyr eu gweld.  Rhoi’r hawl i Lywodraeth Cymru gymryd dogfennau neu gofnod neu i wneud copïau neu godi darnau ohonyn nhw.

Adran J – Y Weithdrefn Apelio a Chwyno

Y Weithdrefn Apelio

Nid oes unrhyw sail dros apelio os bydd eich datganiad o ddiddordeb yn aflwyddiannus

Mae’r ‘Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig’ yn rhoi caniatâd ichi ofyn am adolygiad os ydych yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad cywir yn unol â rheolau’r cynllun.  

Mae dwy ran i’r broses apelio:

  • Cam 1: adolygiad gan RPW
  • Cam 2: adolygiad gan Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb Cam 1).

Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol, gan ddod â’r broses i ben.

Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar.  Bydd y taliadau hyn yn cael eu had-dalu'n llawn os bydd Cam 2 yr apêl naill ai'n llwyddiannus neu'r rhannol lwyddiannus.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth ategol, gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu'r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Mae croeso ichi apelio yn Gymraeg a byddwn yn ymateb i unrhyw ohebiaeth yn Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi wrth brosesu eich apêl.

Mae rhagor o wybodaeth am y broses apelio a sut i gyflwyno apêl trwy ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ein gwefan: Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllaw.

Y Weithdrefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan weithdrefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: complaints@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Cewch hefyd gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae,
Pen-coed,
CF35 5LJ

Ffôn 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

 

Adran K – Hysbysiad Preifatrwydd: Grantiau Llywodraeth Cymru

Sut y byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiol gynlluniau grant er mwyn helpu i gyflawni ein polisïau a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant neu gyllid. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.

Cyn rhoi cyllid grant ichi, rydym yn cynnal gwiriadau er mwyn atal twyll ac achosion o wyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych chi. Fel rhan o’r gwiriadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu’n rhoi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol ichi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.

Er mwyn asesu cymhwysedd efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Swyddfeydd Amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU.
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Hefyd, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais gan aelod arall o'r cyhoedd. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y symiau a delir i fuddiolwyr Cymorth Gwledig. Cyhoeddir data ar gyfer pob buddiolwr ar wefan y gellir chwilio arni, a bydd yn cynnwys enw a lleoliad y ffermwr/rheolwr tir a manylion y symiau ac enw’r cynllun. Ond, ni ddatgelir enwau’r rheini sy’n cael llai na’r hyn sy’n gyfwerth â £1,250 mewn cymorthdaliadau. Cyhoeddir y data bob blwyddyn ar 31 Mai a bydd y data ar gael am ddwy flynedd o’r dyddiad a gafodd ei gyhoeddi. Bydd y wybodaeth ar gael ar wefan DEFRA yn: www.cap-payments.defra.gov.uk

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw data. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw eich data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a bod pob taliad wedi'i wneud. Os byddwch yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl y gwnaethoch eu rhoi inni.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn inni 'ddileu' eich data’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r ffordd mae'n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Rhif Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/

Os oes gennych unrhyw  gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

https://llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru

Adran L – Deddfwriaeth

Mae’r  cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn cyflawni yn erbyn amrediad o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth Mae'r rhain wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.

Mae’r cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE (REUL) a ddargedwir Rhif 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a Rhif 809/2014 a Rheoliadau Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o dro i dro).

Mae Cyfraith yr UE a ddargedwir yn cael ei gweithredu yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o dro i dro), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):

  • Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
  • Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)

Bydd cymorth ariannol ar gyfer ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig dros y tair blynedd nesaf yn ymateb i bedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:

  • gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol.
  • cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y’i nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
  • sicrhau cadernid hinsawdd.
  • sicrhau bod cymunedau ac economïau gwledig yn cael eu datblygu mewn ffordd diriogaethol a chytbwys, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.

Yn ogystal, mae tri amcan trawsbynciol ar gyfer y cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd:

  • Lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd ac addasu iddi.
  • Arloesi.
  • Yr Amgylchedd.

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at yr amcanion trawsbynciol hyn.

Bydd eich prosiect yn cyfrannu at themâu trawsbynciol Llywodraeth Cymru, sef:

  • cyfle cyfartal a phrif ffrydio rhywedd.
  • trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol.
  • y Gymraeg.

Yn ogystal, bydd ceisiadau i'r Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd yn ystyried amcanion strategol a thematig Llywodraeth Cymru.

Bydd gweithgareddau’n mynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:

(1)  annog pobl i rannu gwybodaeth ac i arloesi ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac mewn ardaloedd gwledig.

(2)  gwneud amaethyddiaeth yn fwy hyfyw a chystadleuol ar bob math o fferm, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd.

(3)  hyrwyddo cadwyni cyflenwi bwyd trefnus, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth.

(4)  Adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth

(5)  hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth.

(6)  hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gwaith i leihau tlodi a datblygu’r economi mewn ardaloedd gwledig.

Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal

Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, sy’n dod o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi cael eu categoreiddio’n rhai ‘bocs gwyrdd’.

O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn yn cael eu hesemptio o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE a system rheoli cymhorthdal dros dro y DU.

Adran M – Cysylltiadau

Ymholiadau – y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW Ar-lein

Gallwch ofyn cwestiwn drwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Wedyn bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posibl i diwallu eich anghenion.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. Drwy fynd i'r wefan bydd cyfle ichi gofrestru i e-newyddlen yr Adran Materion Gwledig gael ei hanfon atoch drwy e-bost.

Gwlad

E-newyddlen Gwlad yw e-newyddlen Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a phawb sy’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru.  Mae’n cynnwys newyddion, canllawiau a gwybodaeth mewn fformat hygyrch, hawdd ei ddarllen.  I sicrhau eich bod yn parhau i glywed am y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf gallwch gofrestru i dderbyn e-newyddlen Gwlad drwy fynd i: https://llyw.cymru/hysbysiadau neu https://llyw.cymru/cofrestrwch-ar-gyfer-newyddion-amaethyddiaeth-choedwigaeth-gwlad.

Atodiad A

Disgrifiadau o weithgareddau sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Tyfu er mwyn yr Amgylchedd (cnydau'r hydref) a gofynion sylfaenol

Cnwd / Gweithgaredd Disgrifiad a'r gofynion sylfaenol Gwerth y Grant (£ / hectar

1. Cnydau gorchudd (26 bwynt)

Disgrifiad

Sefydlu cnwd gorchudd nad yw'n cael ei chwistrellu ar ôl cynaeafu grawnfwydydd neu indrawn yn yr hydref lle mae pridd, ar ôl cynaeafu, fel arfer yn cael ei adael yn foel neu â sofl.

Manteision

Bydd y cnwd yn:

  • Lleihau colli maethynnau ac erydu pridd yn ystod y gaeaf.
  • Gwella strwythur y pridd drwy chwalu pridd cywasgedig ac annog amsugno dŵr.
  • Cynyddu deunydd organig, strwythur a chyfansoddiad mwynau yn y pridd drwy awyru a chloi nitrogen i mewn, gan ei wneud ar gael ar gyfer y cnwd sy'n cael ei hau y gwanwyn wedyn.  
  • Darparu mannau cysgodi a bwydo dros y gaeaf ar gyfer adar tir fferm a mamaliaid bach.

Gofynion sylfaenol

  • Isafswm arwynebedd o un hectar (cewch rannu'r arwynebedd hwn ar draws un neu fwy o barseli tir).
  • Ni ddylid defnyddio unrhyw gwrtaith artiffisial, tail na slyri rhwng cynaeafu'r cnwd blaenorol a 15 Chwefror y flwyddyn ganlynol.
  • Prawf prif (isafswm o P, K a pH) wedi'i gynnal ar gae/caeau, neu wedi'i gynnal yn y 12 mis cyn y cais. Bydd y prawf pridd yn llywio'r camau sydd eu hangen yn y dyfodol i unioni unrhyw ddiffygion a nodwyd mewn lefelau P, K a pH cyn sefydlu'r cnwd nesaf.
  • Dylai cymysgeddau hadau gynnwys o leiaf dwy rywogaeth o gnwd sy'n addas ar gyfer egino yn hwyr yn y tymor ac a fydd yn gorchuddio'r ddaear yn gyflym cyn y gaeaf, er enghraifft: Radisys, mwstard, rhyg, pupys, rhygwellt yr Eidal, rhygwellt Westerwold at ati.
  • Ni ellir tyfu rhygwellt yr Eidal, rhygwellt Westerwold a rhyg gyda'i gilydd.
  • Pan fydd rhyg yr Eidal neu ryg Westerwold yn cael ei gynnwys yn y cymysgedd, ni ddylai'r gyfradd hau ar gyfer y rhywogaethau hyn fod dros 15kg / hectar.
  • Dylid defnyddio hadau ardystiedig wedi'u hau ar yr gyfradd ar argymhellir, gan ystyried y cyfuniad o rywogaethau. (Dylid cydymffurfio â'r uchafswm hau ar gyfer rhygwellt yr Eidal a rhygwellt Westerwold).
  • Nid yw cynnwys rhygwellt lluosflwydd, gwenith, haidd, ceirch neu rygwenith yn y cymysgedd yn gymwys.

Sefydlu:

  • Dylid hau'r cnwd o fewn deg diwrnod i'r cnwd blaenorol gael ei gynaeafu.
  • Dylid sefydlu'r cnwd drwy ddrilio uniongyrchol neu drwy drin y tir yn ysgafn.
  • Peidiwch ag aredig, ac osgoi trin y tir mewn modd trwm a fydd yn effeithio ar strwythur y pridd.
  • Pan fydd y cnwd blaenorol wedi cael ei gynaeafu, peidiwch â defnyddio plaladdwyr.
  • Cynnal llain glustogi o 1m ar hyd gwrychoedd/perthi, clawdd pridd neu gwrs dŵr.
  • Rhaid gadael y cnwd yn y cae tan 15 Chwefror y flwyddyn ganlynol – wedyn gellir ei bori, ei dorri neu ei ddisychu cyn paratoi'r tir ar gyfer y cnwd dilynol.
  • Rhaid cadw cofnod o'r holl weithgareddau yn y cae i'w gyflwyno a'i archwilio.
£117

 

Atodiad B

Sgorio datganiadau o ddiddordeb

Sgôr cnydau gorchudd = 26 pwynt

Haen
Llyn
Afon
Pwll dŵr
Ffos
SoDdGAau Biolegol a 300m o lain glustogi

SoDdGA Biolegol ar Arfordir ac Iseldir â Blaenoriaeth

Madfall Fawr Gribog 1km

Gwyniad

Misglen berlog yr afon
Cen ar hen goed wrth ymylon ffyrdd a thir parc
Y gardwenynen lwydfrown
Y gardwenynen Feinlais
Iseldir – blaenoriaeth un
Ucheldir – blaenoriaeth tri
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth un
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth dau
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth tri
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pedwar
Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 40–50%

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 50–60%

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 60–70%

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 70–80%

Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 80–90%
Cyfran y dalgylch lle y gall gwaith rheoli tir leihau'r perygl o lifogydd a diogelu cyflenwadau dŵr 90–100%

Lleihau'r perygl o lifogydd (Rheoliadau ynghylch storio dŵr a llif uchaf - adfer a chreu gwlyptir a golchdir)

Ardaloedd y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac ardaloedd gwarchodedig sydd â dyddiad cau ar gyfer cyflawni amcan amgylcheddol erbyn 2015
Materion Maethynnau â Thystiolaeth

Sgôr enghreifftiol

Cnydau gorchudd = 26 pwynt

2.4ha o gnydau gorchudd wedi'i ddewis mewn un parsel cae gyda'r amcanion sylfaenol canlynol:

SoDdGA Biolegol a 300m o Lain Glustogi (6 phwynt)

Afon sensitif (4 pwynt)

Ansawdd dŵr – blaenoriaeth pump (1 pwynt)

Sgôr wedi'i chyfrifo fel a ganlyn:

2.4 (hectar o gnydau gorchudd) X (26 pwynt (cnydau gorchudd) + 6 pwynt (SoDdGA + 300m o lain glustogi) + 4 pwynt (afon sensitif) + 1 pwynt (ansawdd dŵr – ardal blaenoriaeth pump))

Felly: 2.4 X (26 + 6 + 4 + 1 = 37)

Felly: 2.4 X 37 = 88.8

Sgôr terfynol = 88.8 pwynt