Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae gwasanaeth tystysgrif eithrio COVID-19 yn defnyddio eich data a beth yw eich hawliau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi gwasanaeth i ddarparu tystysgrifau eithrio i unigolion nad ydynt yn gallu cael y brechlyn COVID-19 a/neu gymryd profion llif unffordd, er mwyn sicrhau y gallant gael mynediad i safleoedd sy’n gofyn am dystiolaeth o statws COVID (drwy’r Pàs COVID fel arfer). 

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad sy’n cael ei wneud gan wasanaeth alergeddau'r GIG neu dîm anabledd dysgu unigolyn nad yw’r unigolyn yn gymwys i gael ei eithrio oherwydd alergedd neu anabledd dysgu, neu apêl yn erbyn penderfyniad sy’n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru na ellir eithrio unigolyn ar unrhyw sail arall.

Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio?

Bydd Llywodraeth Cymru, ar ran Gweinidogion Cymru, yn ystyried ceisiadau gan y rheini nad ydynt yn gallu cael y brechlyn a chymryd profion llif unffordd. Bydd yr wybodaeth y bydd yr ymgeisydd yn ei darparu yn cael ei hystyried gan uwch-arbenigwr clinigol Llywodraeth Cymru i benderfynu a ellir ei eithrio. Mae’n bosibl y bydd cais yn cael ei wneud am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd ei hun neu gan feddyg teulu, arbenigwr neu ymgynghorydd ysbyty yr ymgeisydd os bydd angen yr wybodaeth honno ar gyfer gwneud penderfyniad. 

Os bydd penderfyniad yn cael ei wneud i eithrio’r ymgeisydd, bydd yn derbyn tystysgrif yn cadarnhau ei fod yn bodloni’r gofynion i gael mynediad i leoliad neu safle lle y mae’n rhaid dangos pàs COVID-19 i gael mynediad. Ni fydd yn nodi’n benodol ei bod yn dystysgrif eithrio.

Gall unigolion apelio yn erbyn penderfyniad nad ydynt yn gymwys i gael eu heithrio. Nid oes gwahaniaeth ai’r GIG neu Lywodraeth Cymru fydd wedi gwneud y penderfyniad hwnnw.

Beth yw diben prosesu data personol?

Bydd data personol sy’n cael eu darparu gan yr unigolyn, neu gan ei feddyg teulu, arbenigwr neu ymgynghorydd ysbyty yn cael eu prosesu er mwyn penderfynu a yw’n amhosibl am resymau clinigol i unigolyn gael ei frechu ac yn amhosibl hefyd iddo gymryd profion llif unffordd, a’i fod yn gymwys i gael tystysgrif eithrio. Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu am unrhyw reswm arall.

Beth mae Gwasanaeth Datganiad Statws Brechu COVID-19 yn ei wneud?

Ar gyfer dinasyddion na allant gael y brechlyn na chymryd profion llif unffordd am resymau clinigol, mae’r dystysgrif eithrio rhag profion COVID-19 yn darparu tystiolaeth eu bod yn bodloni’r meini prawf i gael mynediad i safleoedd lle y byddai gofyn iddynt fel arfer ddangos pàs COVID-19 neu dystiolaeth o brawf llif unffordd negatif diweddar. Mae’r dystysgrif yn edrych yn debyg i bàs COVID-19 papur at ddefnydd domestig, a’r unig beth a nodir arni yw cadarnhad bod unigolyn wedi bodloni un neu ragor o’r gofynion i gael mynediad i safle neu leoliad lle y mae’n rhaid dangos pàs cyn cael mynediad. Nid yw’n nodi ar ba sail y mae’r dystysgrif wedi cael ei rhoi.

Felly, beth sydd angen imi ei wneud?

Os ydych chi’n credu na allwch chi, neu rywun rydych yn gofalu amdano, gael y brechlyn a chymryd profion llif unffordd COVID-19 oherwydd cyflwr meddygol, bydd angen ichi wneud cais i Lywodraeth Cymru am dystysgrif eithrio. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen ar-lein (sy’n cael ei darparu gan Smart Survey), neu drwy lenwi’r ffurflen ar llyw.cymru a’i hanfon i’r cyfeiriad e-bost ar y ffurflen.

Rheolydd data

Llywodraeth Cymru, ar ran Gweinidogion Cymru, fydd y Rheolydd Data ar gyfer yr wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais am dystysgrif eithrio neu ar gyfer apelio. 

Gall fod angen i Lywodraeth Cymru ofyn am ragor o wybodaeth am gyflwr meddygol oddi wrth feddyg teulu, arbenigwr neu ymgynghorydd ysbyty yr ymgeisydd. Y meddyg teulu neu’r bwrdd iechyd lleol yw’r rheolyddion data ar gyfer y data sy’n cael eu cadw ganddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn dod yn Rheolydd Data annibynnol ar gyfer yr wybodaeth pan fydd yn cael ei rhannu gyda ni at ddibenion ystyried cais neu apêl.  

Y data personol a gasglwn a sut y cânt eu defnyddio

Er mwyn asesu eich cais am dystysgrif eithrio, neu eich apêl yn erbyn penderfyniad, bydd angen i chi ddarparu i ni yr wybodaeth a fydd yn ein galluogi i’ch adnabod, a manylion unrhyw gyflwr/gyflyrau meddygol rydych yn credu sy’n golygu na allwch gymryd profion llif unffordd. Os ydych yn gwneud apêl, bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth am eich cyflyrau meddygol a pham ydych chi’n meddwl bod y penderfyniad sydd wedi cael ei wneud gan eich bwrdd iechyd lleol yn anghywir.

Rydym yn gofyn hefyd ichi ddarparu manylion eich meddyg teulu, arbenigwr neu ymgynghorydd ysbyty. Rydym yn gwneud hyn er mwyn inni gael gofyn iddynt am ragor o wybodaeth am eich cais neu eich apêl. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddant yn ei darparu inni i benderfynu a allwch gael eich eithrio.

Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei darparu inni i gyfathrebu â chi am eich cais neu eich apêl.

Gwneud penderfyniadau awtomataidd neu broffilio

At ddibenion cydymffurfio'n effeithiol â gofynion Erthygl 22 o'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae'r Rheolyddion o'r farn nad yw’r gwasanaeth hwn yn gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Sut bydd fy ngwybodaeth yn cael ei rhannu

Dim ond os bydd angen rhagor o wybodaeth am eich cyflyrau meddygol oddi wrth eich meddyg teulu, arbenigwr neu ymgynghorydd ysbyty y byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch. I wneud hyn, bydd angen inni ddarparu digon o wybodaeth er mwyn iddynt allu eich adnabod o’u cofnodion, gan gynnwys eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad a rhif y GIG. Efallai y bydd rhaid inni hefyd rannu gwybodaeth rydych chi wedi ei darparu i ni am eich cyflyrau meddygol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu rhoi digon o wybodaeth inni a fydd yn ein helpu i wneud penderfyniad.

Os oes angen inni rannu data amdanoch gyda’ch meddyg teulu, arbenigwr neu ymgynghorydd ysbyty, byddwn yn gwneud hyn ar ein platfform rhannu data diogel.

Os ydych yn apelio, bydd yr wybodaeth rydych chi wedi ei darparu i gefnogi eich apêl yn cael ei rhannu â phanel apêl Llywodraeth Cymru. Byddwn yn defnyddio ein platfform rhannu data diogel i wneud hyn. Bydd Cytundeb Rhannu Data ar waith rhwng Llywodraeth Cymru (sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru) a phob aelod o’r panel apêl.

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol

Dyma fydd y sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio data personol yn y gwasanaeth:

Erthygl 6 (1)(e) o GDPR y DU: mae prosesu'n angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd i’r rheolydd i gyflawni’r rhwymedigaethau statudol o dan adran 2A(1) o Ddeddf y GIG 2006, i ddiogelu iechyd y cyhoedd;

Erthygl 9 (2)(i) o GDPR y DU; mae prosesu'n angenrheidiol er budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd, megis diogelu rhag bygythiadau trawsffiniol difrifol i iechyd neu sicrhau safonau uchel o ansawdd a diogelwch gofal iechyd ac o gynhyrchion meddyginiaethol neu ddyfeisiau meddygol, ar sail cyfraith yr Undeb neu Aelod-wladwriaethau sy’n darparu ar gyfer mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau a rhyddidau gwrthrych y data, yn benodol cyfrinachedd proffesiynol, o dan adran 2(2)(f) o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018 – dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd data personol adnabyddadwy yn cael eu cadw gan Lywodraeth Cymru am hyd at 6 mis wedi i benderfyniad gael ei wneud ynglŷn â’ch cais, eich apêl neu eich ail apêl. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd y data yn cael eu dinistrio’n ddiogel.

Cawn gadw data dienw, ystadegol am eithriadau ac apeliadau am gyfnod amhenodol, at ddibenion ystadegol, rheoli ac ymchwil. Ni fydd yn bosibl adnabod unigolion o’r data hyn.  

Eich hawliau fel gwrthrych data

Yn ôl y gyfraith, mae gennych hawliau fel gwrthrych data. Mae eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 y DU yn berthnasol.

  • Eich hawl i gael copïau o'ch gwybodaeth – mae gennych hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth amdanoch.
  • Eich hawl i ddiweddaru neu gywiro’ch gwybodaeth – mae gennych hawl i ofyn i unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch, sy'n anghywir yn eich barn chi, gael ei chywiro.
  • Eich hawl i gyfyngu ar sut y defnyddir eich gwybodaeth – mae gennych hawl i ofyn i unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch gael ei chyfyngu, er enghraifft, os credwch fod gwybodaeth anghywir yn cael ei defnyddio.
  • Eich hawl i wrthwynebu i'ch gwybodaeth gael ei defnyddio – gallwch ofyn i unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch beidio â chael ei defnyddio. Fodd bynnag, nid yw hyn yn hawl absoliwt, ac efallai y bydd angen inni barhau i ddefnyddio'ch gwybodaeth; byddwn yn rhoi gwybod ichi os felly.
  • Eich hawl i ddileu’ch gwybodaeth – nid yw hyn yn hawl absoliwt, ac efallai y bydd angen inni barhau i ddefnyddio'ch gwybodaeth; byddwn yn rhoi gwybod ichi os felly.
  • Os ydych yn anfodlon neu os hoffech gwyno am sut y defnyddir eich data personol, dylech gysylltu â'ch Bwrdd Iechyd Lleol yn y lle cyntaf i ddatrys y mater. Os nad ydych yn fodlon o hyd, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Os oes gennych bryderon ynghylch cywirdeb y data sy'n ymwneud â chyflyrau meddygol a allai eich eithrio rhag cael eich brechu a’ch profi, dylech gysylltu yn y lle cyntaf â'r Bwrdd Iechyd ar gyfer yr ardal lle rydych yn byw neu lle y derbynioch y driniaeth. Mae’n bosibl y bydd y manylion cyswllt wedi’u cynnwys ar ohebiaeth gan y Bwrdd Iechyd hwnnw, gan gynnwys unrhyw lythyr a gawsoch neu neges destun.

Os ydych yn credu y gallai eich manylion personol fod yn anghywir, cysylltwch yn y lle cyntaf â’ch meddygfa i sicrhau bod y manylion sydd ganddi ar eich cyfer yn gywir gan fod y GIG yn cadw cofnod canolog o'ch gwybodaeth gyswllt pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer gwasanaethau'r GIG drwy feddyg teulu.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch imiwneiddio neu’ch cofnod imiwneiddio yn gyffredinol, cysylltwch â'ch Bwrdd Iechyd Lleol.

Gallwch hefyd gysylltu ag unrhyw un o'r Swyddogion Diogelu Data, a restrir uchod, sy'n ymwneud â'r gwasanaeth hwn. Bydd aelodau o'r timau diogelu data perthnasol yn ymdrechu i gysylltu â chi cyn gynted â phosibl i gadarnhau eu bod wedi cael eich ymholiad.

Os byddwch yn gwneud cais o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, bydd angen eich enw a'ch manylion cyswllt arnom er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y gyfraith i ymateb ichi. Dim ond i ddelio â'ch cais ac unrhyw faterion sy'n codi yn ei sgil y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth bersonol hon. Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol, ac unrhyw wybodaeth arall yn ymwneud â'ch cais, am 3 blynedd ar ôl y dyddiad y gwnaethom ymateb i’ch cais.

Diogelwch

Rydym yn defnyddio mesurau diogelwch technegol, sefydliadol a gweinyddol priodol i ddiogelu unrhyw wybodaeth sydd gennym yn ein cofnodion rhag cael ei cholli, ei chamddefnyddio, ei chyrchu heb awdurdod, ei datgelu, ei newid a’i dinistrio. Mae gennym weithdrefnau a pholisïau ysgrifenedig sy'n cael eu harchwilio a'u hadolygu'n rheolaidd ar lefel uchel.

Newidiadau i'n polisi

Rydym yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd, a byddwn yn sicrhau bod fersiynau newydd ar gael ar ein tudalen hysbysiad preifatrwydd ar wefan Llywodraeth Cymru. Cafodd y polisi preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 25 Chwefror 2022.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am y ffordd y bydd y data a fydd yn cael eu darparu yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cwynion ynghylch prosesu

Os hoffech wneud cwyn ynghylch prosesu’ch data personol, dylech, yn y lle cyntaf, gysylltu â rheolyddion data'r wybodaeth.

Os na fyddwch yn fodlon ag ymateb y rheolydd data, gallwch gysylltu â’r rheoleiddiwr yn y DU, sef y Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House , Water Lane, Wilmslow , Cheshire, SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Ffacs: 01625 524510

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Atodiad: Cyfrifoldebau’r prosesydd data

Data processor responsibilities
Manylion y prosesydd data Rôl Rheolyddion sy’n gyfrifol
Smart Survey

Derbyn yn electronig geisiadau ar gyfer eithriadau ac apeliadau

Llywodraeth Cymru – gosod ar gontract
Objective Connect Trosglwyddo ffeiliau yn ddiogel sy’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol oddi wrth sefydliadau’r GIG i Lywodraeth Cymru Llywodraeth Cymru – gosod ar gontract