Neidio i'r prif gynnwy

Sylwer, daeth cefnogaeth ganolog gan Lywodraeth Cymru i ben fel y bwriadwyd ar 31 Gorffennaf 2021.

Trosolwg

Ar ddechrau'r pandemig yn gynnar yn 2020, ymrwymodd y Gweinidog Addysg ar y pryd hyd at £3 miliwn fel rhan o’r rhaglen 'Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu', i gefnogi dysgwyr sydd wedi'u hallgáu o’r byd digidol mewn ysgolion a gynhelir lle nad oedd darpariaeth ar waith eisoes gan eu hysgol neu awdurdod lleol. Llwyddwyd i reoli'r cyllid drwy raglen ehangach Technoleg Addysg Hwb.

Sut oeddem yn diffinio dysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol?

Diffinnir dysgwr sydd wedi'i allgau’n ddigidol fel 'dysgwr nad oes ganddo fynediad at ddyfais briodol sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ar-lein gartref'.

Sut oedd dysgwyr sydd wedi'u hallgáu’n ddigidol yn cael eu nodi?

Bu pob awdurdod lleol yn trafod yn uniongyrchol gyda’u hysgolion a gynhelir i nodi dysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Cymorth a ddarparwyd gennym

Ymatebodd Llywodraeth Cymru yn gyflym yn gynnar yn 2020 drwy sicrhau bargen gysylltu genedlaethol gyda chwmnïau ffonau symudol mawr ar gyfer dyfeisiau MiFi, ynghyd â sefydlu datrysiad technegol, a oedd yn galluogi pob awdurdod lleol ac ysgol a gynhelir i ail-bwrpasu dyfeisiau presennol i'w defnyddio yng nghartrefi dysgwyr. 

Gan gydweithio â'u hysgolion, nododd yr awdurdodau lleol faint o ddyfeisiau MiFi a thrwyddedau meddalwedd oedd eu hangen er mwyn cefnogi’r dysgwyr a oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Ar ôl cadarnhau'r niferoedd, prynodd Llywodraeth Cymru’r nifer priodol o ddyfeisiau MiFi a thrwyddedau meddalwedd.

Yn seiliedig ar y galw a nodwyd gan ysgolion ac awdurdodau lleol, dosbarthwyd 10,848 o ddyfeisiau MiFi a 9,717 o drwyddedau meddalwedd wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru hyd at ddiwedd mis Gorffennaf 2021. Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys unrhyw drefniadau lleol a wnaed gan awdurdodau lleol unigol neu ysgolion i fenthyca offer arall i ddysgwyr.

Cynllun cynyddu data

Ar ddechrau 2021, cydweithiodd Llywodraeth Cymru gyda nifer o Weithredwyr Rhwydwaith Symudol (MNOs) a Gweithredwyr Rhwydwaith Rhithwir Symudol (MVNOs) y DU er mwyn sefydlu cynllun i ddarparu trefniadau cynyddu data symudol i ddysgwyr/rhieni neu warcheidwaid sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yng Nghymru, lle nad oedd cymorth arall wedi’i ddefnyddio.

Yn unol â chynllun tebyg a lansiwyd gan yr Adran Addysg yn Lloegr, daeth y cynllun hwn i ben ddiwedd Gorffennaf 2021. Cysylltodd y darparwyr rhwydwaith symudol perthnasol â phob cwsmer a fanteisiodd ar cynllun i roi gwybod iddynt pan ddaeth y cynnydd data i ben.

Angen cymorth?

Awdurdodau lleol ac ysgolion sy’n parhau i fod yn gyfrifol am nodi pa unigolion sydd angen cymorth o ran mynediad at ddyfeisiau a/neu gysylltedd.

Dylai unrhyw deuluoedd sy'n cael problemau gyda mynediad at ddyfais a/neu gysylltedd gysylltu â'u hysgol yn y lle cyntaf, i gael manylion mwy penodol am drefniadau cymorth lleol sydd ar gael.

Cael help trwy ddefnyddio platfformau addysg ar-lein

Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn parhau i weithio ar draws y gyfundrefn addysg mewn nifer o ffyrdd i gynnig cymorth yn ystod yr ymateb sy’n parhau i COVID-19. Mae'r canllawiau addysg diweddaraf i'w gweld ar dudalennau coronafeirws gwefan Llywodraeth Cymru.

Mae Cymru yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i gefnogi ysgolion, ymarferwyr a dysgwyr yn ystod y cyfnod parhaus o ymateb i’r pandemig, gan fod gennym Hwb, ein platfform digidol cenedlaethol ar gyfer dysgu ac addysgu. Mae Hwb yn rhoi mynediad i'w ddefnyddwyr at amrywiaeth o offer ac adnoddau dwyieithog, digidol a di-dâl. Mae ein cymorth dysgu cyfunol ar Hwb yn cynnwys adnoddau i'ch cefnogi gyda gweithgareddau dysgu cyfunol yn ogystal â dolenni i gyngor ar iechyd a lles.

Mae Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu yn dwyn ynghyd gyfraniadau o bob maes addysg a thu hwnt, i roi cymorth i'n cyfundrefn addysg gyfan. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynlluniau a'r camau gweithredu sy'n cefnogi hyn yn yr adran 'Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu'.

Mae’r parth cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb hefyd yn rhoi cymorth helaeth i'r holl randdeiliaid addysg gan gynnwys ystod eang o adnoddau a gwasanaethau cymorth eraill.

Mae’r rhaglen ehangach ar Hwb yn darparu dull cenedlaethol o ymdrin ag adnoddau a gwasanaethau digidol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru, gan eu cefnogi i elwa ar y manteision trawsnewidiol a ddaw i addysg yn sgil cyfryngau digidol a thechnolegol.

Cafwyd buddsoddiad o dros £135 miliwn eisoes yn rhaglen Hwb. Mae’r cyllid hwn wedi darparu cysylltedd cyflym iawn i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru, wedi paratoi eu seilwaith digidol at y dyfodol, wedi helpu i brynu dros 216,000 o ddyfeisiau i ddefnyddwyr terfynol hyd yma, ac wedi dechrau adnewyddu offer addysgu a dysgu.