Grant i annog a chefnogi pobl i ymgysylltu â'r broses ddemocrataidd.
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae £300,000 ar gael y flwyddyn i wella ymgysylltiadau â democratiaeth. Dylai cymaint o bobl â phosibl gael budd o'r cyllid.
Gwybodaeth am y grant
Mae ein Rhaglen lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i leihau'r diffyg democrataidd.
Mae'r grant hwn yn cefnogi ein nod o sicrhau bod pob dinesydd yn gallu ymgysylltu â democratiaeth.
Ein nod yw cyllido amrywiaeth o sefydliadau er mwyn sicrhau bod modd cyrraedd pob grŵp. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau lledaeniad daearyddol. Bydd y panel grantiau yn ystyried gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau.
Pwy all ymgeisio am y grant?
- Sefydliadau o Gymru sydd wedi eu cofrestru gyda'r Comisiwn Elusennau.
- Sefydliadau 'dielw'.
- Awdurdodau lleol yng Nghymru.
Rydym yn croesawu ceisiadau sy'n cynnig gweithio mewn partneriaeth a gweithio ar y cyd. Dylai fod un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel deiliad y grant a'r rheolwr data.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw sefydliad sydd â chysylltiadau gwleidyddol.
Meini prawf angenrheidiol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â Phartneriaeth Ymgysylltu Democrataidd Cymru. Mae'r Bartneriaeth yn cyfarfod yn rheolaidd.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cynnig gwerthusiad ar ddiwedd cyfnod y grant.
Sut i ymgeisio
Ymgeisiwch drwy lenwi’r ffurflen gais.
Mae dwy ffurflen gais ar gyfer prosiectau sy'n gofyn am arian. Cyfeiriwch at y canllawiau i sicrhau bod y ffurflen gywir yn cael ei defnyddio.
Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer cyllid 2023 i 2024. Mae manylion am ffenestri cais yn y dyfodol isod.
Gallwch gyflwyno gwybodaeth ychwanegol rydych chi'n ei hystyried yn ddefnyddiol i gefnogi eich cais. Gall hyn fod yn gynlluniau prosiect, cynlluniau cyfathrebu, diagramau sefydliadau a pherthnasau.
E-bostiwch eich cais cyflawn at: Etholiadau.Elections@llyw.cymru
Os oes angen y pecyn cais arnoch mewn fformat arall, e-bostiwch: Etholiadau.Elections@llyw.cymru
Byddwn yn ysgrifennu at Ymgeisydd Arweiniol pob cais i roi gwybod iddynt beth yw’r canlyniad.
Llinell amser a rhagor o wybodaeth
Sefydliadau sy'n gwneud cais am symiau mwy o arian, mae manylion ffenestr y cais isod.
- 01 Rhagfyr 2023: ffenestr ymgeisio am grant yn agor ar gyfer ceisiadau dros £1000
- 12 Ionawr 2024: Cau cyfnod ymgeisio am grant
- Chwefror 2024: llythyrau deilliant a gyhoeddwyd i gynigwyr
- Chwefror a Mawrth 2024: llythyrau dyfarnu grant wedi'u cyhoeddi
- Ebrill 2024: gall prosiectau a ariennir ddechrau