Neidio i'r prif gynnwy

Egluro natur, achosion ac arwyddion digartrefedd ymhlith pobl ifanc, yn enwedig digartrefedd cudd. 

Rhan o:
Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn gweithio gyda Shelter Cymru a sefydliadau eraill i helpu i atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Rydym eisiau:

  • cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc
  • herio agweddau a hefyd y mythau a'r camddealltwriaeth amdano
  • annog pobl ifanc i gael y cymorth sydd ei angen arnynt drwy linell gymorth genedlaethol annibynnol ar gyfer cyngor tai.

Cefndir

Nid yw nifer o bobl ifanc sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystyried eu hunain fel pobl ddigartref. Er enghraifft, maent yn cysgu ar soffas pobl eraill neu'n aros gyda theulu a ffrindiau. Caiff hyn ei ddisgrifio'n aml fel 'digartrefedd cudd'. 

Dyma rai o'r arwyddion cyffredin a allai olygu bod pobl ifanc yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref:

  • yn cael trafferthion yn eu perthynas gyda'u rhieni ac aelodau agos o'u teulu
  • yn gyndyn i fynd adref ac yn treulio llawer o amser mewn lleoedd cyhoeddus sy'n cynnig lloches a wifi. Er enghraifft, gorsafoedd trên a chaffis, aros yn hwyr yn eu lleoliad addysg neu eu swydd
  • yn cadw eu heiddo gyda nhw ac yn cael trafferth cadw eu dillad yn lân. 

Rydym yn ariannu Shelter Cymru i ddarparu'r llinell gymorth annibynnol hon. Maent yn gweithio gyda sefydliadau eraill yn y trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus i gyfeirio pobl at y cymorth priodol yn ôl eu hanghenion.

Cael help

Gall llinell gymorth Shelter Cymru roi cyngor a gwybodaeth annibynnol i chi.  Ffoniwch 08000 495 495

Neu ewch i Shelter Cymru am ragor o wybodaeth a ffyrdd eraill o gysylltu â nhw.