Neidio i'r prif gynnwy

Neges Vaughan Gething a Jane Hutt i Gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, amlinellodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething yr angen i gynyddu niferoedd y bobl dduon ac Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig sy’n cael eu brechu, gwrthbrofi camwybodaeth am y brechlyn, ac apelio at bob cymuned ethnig i helpu yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

Dywedodd y Gweinidog:

Fel y mae pawb ohonon ni’n gwybod, mae Covid-19 yn cael effaith anghymesur ar ein cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Nid rhywbeth dychmygol yw hyn, mae’n ffaith. Mae’r cymunedau hyn wedi profi lefelau uwch o salwch ac, yn drist iawn, mae cyfraddau’r marwolaethau wedi bod yn uwch nag ymhlith pobl wyn.

Mae dadansoddiad yr ONS yn glir. Ymhlith gwrywod o gefndir ethnig Affricanaidd Du yr oedd y gyfradd farwolaeth uchaf a oedd yn ymwneud â COVID-19, a oedd 2.7 o weithiau yn uwch nag ymhlith gwrywod o gefndir ethnig Gwyn; o ran benywod, ymhlith merched o gefndir ethnig Caribïaidd Du yr oedd y gyfradd uchaf, a oedd 2.0 o weithiau yn uwch nag ymhlith benywod o gefndir ethnig Gwyn.

Mae’r rhesymau am hyn yn gymhleth, fe allan nhw fod yn gysylltiedig gyda ffactorau iechyd, cyflogaeth, tlodi neu resymau cymdeithasol.

Yr hyn y mae’n rhaid inni ei gofio bob amser yw bod yna deulu, cymuned a chymdogaeth y tu ôl i bob ffigur, y mae’r salwch neu’r farwolaeth yn effeithio arnyn nhw ac yn eu niweidio.

Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn apelio heddiw at ein holl gymunedau ethnig ledled Cymru. Mae angen inni chwalu camwybodaeth ac uno fel gwlad i ddiogelu’r rheini sydd bwysicaf inni rhag y feirws marwol hwn.

Dw i am ei gwneud yn gwbl glir i bawb nad yw’r brechlyn yn cynnwys unrhyw gig porc nac olion ffetysau, a’i fod yn ddiogel i bob cymuned ffydd a lleiafrif ethnig.

Cael y brechlyn yw’r unig ffordd o gynyddu imiwnedd yn erbyn COVID-19, a bydd yn ein helpu i gyfyngu ar ei ledaeniad o fewn ein cymunedau. Bydd yn help i arbed ein brodyr a’n chwiorydd, ein teulu a’n ffrindiau, ein cymdogion a’n cydweithwyr.

Allwn ni ddim caniatáu i’r sefyllfa ofnadwy hon barhau. Felly ymunwch â ni, a byddwch yn rhan o’r ateb i’r broblem. Cymerwch y brechlyn ac anogwch eraill yn eich cymunedau i wneud hynny hefyd.

Fel y gallwn ni, yn y dyfodol agos, ailgydio yn ein bywyd bob dydd unwaith eto.

Gan ategu neges y Gweinidog Iechyd a thynnu sylw at y rhaglenni cymorth a’r wybodaeth am frechlynnau, dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda grwpiau hil a ffydd ledled Cymru i ddiogelu a chefnogi ein cymunedau o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Rydyn ni’n ystyried defnyddio mosgiau a mannau addoli eraill er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael y brechlyn a chadw eu cymunedau yn saff.

Mewn partneriaeth â’r Grŵp Cynghori ar Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, sy’n cael ei gadeirio gan y Barnwr Ray Singh, fe ddatblygodd Llywodraeth Cymru ‘Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu’, system dau gam i helpu pobl i ddeall eu risg bersonol nhw, ac yna i drefnu sgwrs gyda chyflogwyr ynghylch eu ffactorau risg personol nhw a’r camau penodol y mae modd eu cymryd i leihau’r risgiau hynny yn y gweithle.

Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n mynd i’r afael â’r feirws marwol hwn, ond dim ond drwy uno fel cymuned i chwalu camwybodaeth y gallwn ni wneud hynny. Mae’r ffigurau yn ddifrifol, ac yn dangos nad rhywbeth sy’n effeithio arnon ni yn unig yw hyn. Mae’n fater o ddiogelu ein teuluoedd, ein cymunedau a’n hanwyliaid.