Yr hyn y mae angen i ymwelwyr cartrefi gofal ei wneud i sicrhau diogelwch preswylwyr a staff cartrefi gofal.
Cynnwys
Beth mae angen ichi ei wneud pan fyddwch yn ymweld â chartrefi gofal
Croesewir ac anogir ymweliadau â’ch ffrindiau a’ch teulu mewn cartrefi gofal. Dylai trefniadau ymweld fod mor agored a hyblyg â phosibl. Mae brechiadau a gwell arferion atal a rheoli heintiau wedi gwneud ymweliadau yn llawer mwy diogel.
Fodd bynnag, mae COVID-19 dal yn ein cymunedau ac mae angen inni gadw pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal mor ddiogel â phosibl. Felly, mae yna rai rheolau y dylech chi fod yn ymwybodol ohonynt wrth ymweld â’ch anwyliaid mewn cartrefi gofal.
I leihau’r risg o ddod â COVID-19 i gartrefi gofal, peidiwch ag ymweld:
- os oes gennych symptomau COVID-19 neu unrhyw salwch heintus arall
- os ydych wedi bod mewn cyswllt agos ag achos positif COVID-19 yn y 10 diwrnod diwethaf
Os ydych chi wedi profi’n bositif yn y 10 diwrnod diwethaf, dylech gadarnhau eich bod wedi cydymffurfio â’r canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol. Dylech osgoi cwrdd ag unrhyw un sy'n wynebu risg uwch yn sgil COVID-19 am o leiaf 10 diwrnod.
Cyn eich ymweliad
Gwiriwch a oes angen ichi drefnu eich ymweliad â’r cartref gofal. Os felly, dylech gadarnhau nifer yr ymwelwyr, gan gynnwys plant.
Yn ystod eich ymweliad
I leihau’r risg o ledaenu COVID-19 cynghorir:
- gwisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus cartrefi gofal ac wrth symud drwy’r cartref gofal
- defnyddio hylif diheintio dwylo a chyfleusterau golchi dwylo yn aml
Os oes gennych unrhyw faterion neu bryderon ynghylch y gofynion hyn, trafodwch y rhain gyda’r cartref gofal.
Gallwch ddisgwyl i staff wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE).
Bydd staff yn gwneud popeth yn eu gallu i gadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel ac mae’n bwysig eich bod chi’n gweithio gyda nhw i leihau’r risgiau.
Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn ymweld â’ch anwyliaid
Mae’n bwysig gwerthfawrogi y gallai anghenion pobl fod wedi newid yn ystod y pandemig. Efallai y bydd angen ichi roi amser i’ch perthynas neu’ch anwyliaid i addasu i gael ymwelwyr eto.
Os oes gennych unrhyw bryderon, siaradwch ag aelod o staff.
Os byddwch yn mynd yn sâl yn ystod neu ar ôl eich ymweliad
Os byddwch chi’n mynd yn sâl ag unrhyw symptomau COVID-19 ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl eich ymweliad, arhoswch gartref a dilyn y canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol.
Mae’n rhaid ichi roi gwybod i’r cartref gofal cyn gynted â phosibl eich bod wedi datblygu symptomau, a phan fyddwch yn cael canlyniad eich prawf.
Ymweld yn ystod brigiad o achosion COVID-19
Bydd rheolau ymweld yn dibynnu ar gyngor iechyd cyhoeddus ar gyfer y brigiad o achosion penodol.
Ar gyfer rhai digwyddiadau neu frigiadau o achosion COVID-19, efallai y gall ymweliadau arferol barhau. Bydd y cartref gofal yn gallu rhoi cyngor ichi.
Os caiff ymweliadau arferol eu hatal, gall preswylwyr barhau i gael ymweliadau gan eu dau ymwelydd hanfodol enwebedig. Gallant ymweld ar wahân neu ar yr un pryd.
Os oes gan yr ymwelwyr hanfodol neu’r preswylydd COVID-19, ni fydd yr ymweliad yn gallu digwydd oni bai bod amgylchiadau eithriadol.
Darllenwch wybodaeth bellach yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru i ddarparwyr cartrefi gofal ar ymweliadau.
Rhoi gwybod am bryderon
Os oes gennych bryderon bod rheolau ymweld darparwr cartref gofal yn rhy gyfyngol, gallwch godi hyn gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Gallwch wneud hyn drwy fynd i dudalen Codi pryder am wasanaethau gofal Arolygiaeth Gofal Cymru. Neu gallwch gysylltu â nhw:
Arolygiaeth Gofal Cymru
Swyddfa Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ
Rhif ffôn: 0300 7900 126
E-bost: CIW@gov.wales
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.