Newidiadau i ddysgu ac addysgu mewn ysgolion.
Cynnwys
Gweithrediadau ysgol
Pa gamau sydd ar waith i sicrhau bod ysgolion yn ddiogel i ddysgwyr a staff?
Mae’r cyngor iechyd Cyngor Iechyd cyhoeddus i ysgolion: coronfeirws yn cynnig hyblygrwydd wrth benderfynu beth y mae angen ei wneud i reoli risgiau.
Mae'r cynllun yn cydnabod nad yw COVID-19 wedi diflannu ac y bydd yn parhau ym mhob rhan o’r byd. Mae'n dal i fod yn bwysig, felly, i ysgolion a lleoliadau ystyried yr hyn y gallant ei wneud er mwyn lleihau lledaeniad y feirws a diogelu eu dysgwyr a'u staff. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fesurau diogelu ychwanegol i'r bobl hynny sy'n fwy agored i niwed. Drwy barhau i roi mesurau ar waith i reoli iechyd y cyhoedd, bydd ysgolion a lleoliadau yn helpu i leihau lledaeniad y feirws, cynyddu hyder y cyhoedd a'r staff a lleihau'r posibilrwydd o amharu pellach.
A niferoedd cynyddol o bobl wedi'u brechu a phawb yn parhau i ymdrechu, dylid ystyried risgiau’r COVID-19 yn yr un cyd-destun, bellach, â risgiau clefydau trosglwyddadwy eraill (y ffliw a'r norofeirws, er enghraifft).
A all fy mhlentyn fynychu'r ysgol os oes ganddo annwyd?
Os oes gan blentyn symptomau ysgafn tebyg i annwyddylent barhau i fynd i'r ysgol, os yw'n gallu gwneud hynny.
Y tri phrif symptom o COVID-19 y dylech fod yn ymwybodol ohonynt yw:
- peswch cyson newydd
- twymyn neu dymheredd uchel
- wedi colli eich synnwyr blasu neu arogli, neu wedi sylwi ar newid ynddynt
Os yw eich plentyn yn datblygu un o'r symptomau hyn , dylech ddilyn y canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.
A oes unrhyw gymorth ar gael i'r gweithlu addysg?
Mae cymorth ar gael i’r gweithlu addysg drwy’r Bartneriaeth Cymorth Addysg, elusen sydd wedi ymrwymo i gefnogi iechyd a lles staff addysg.
Mae’r Bartneriaeth wedi bod yn datblygu adnoddau digidol i ddarparu cymorth i staff addysg yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Mae’r rhain yn seiliedig ar themâu allweddol gorbryder, galar ac ymdeimlad o fod wedi ynysu.
Mae cymorth emosiynol cyfrinachol hefyd ar gael 24/7 drwy’r Bartneriaeth. Ffoniwch eu llinell gymorth gwnsela ar 08000 562561 neu ewch i wefan y Bartneriaeth. Gall y Bartneriaeth hefyd ddarparu cymorth ariannol drwy ei gwasanaeth grantiau.
Pa fesurau sydd ar waith ar gyfer staff beichiog?
Mae angen inni weithredu’n rhagofalus mewn perthynas â COVID-19 hir yn ystod beichiogrwydd a chynnal asesiadau risg unigol a sicrhau bod y cyflogwr a’r fam feichiog yn fodlon; mae ymchwil wedi dangos bod risg o 26 wythnos ymlaen. Oherwydd bod COVID-19 yn haint anadlol, gall eich gwneud yn hypocsig. Gall hyn niweidio’r babi a’i gwneud yn hynod anodd i’r fam fynd trwy enedigaeth naturiol neu gael anesthetig. Ni allwn orbwysleisio pwysigrwydd brechu i ddiogelu mamau a babanod.
Rhaid cynnal asesiadau risg ar unrhyw un sy’n feichiog ers 26+ o wythnosau a rhaid i’r cyflogwr a’r aelod staff fod yn hapus gyda’r canlyniad.
Rydym yn deall bydd y mesur hwn yn arwain at bwysau ychwanegol ar gyflogwyr. Fodd bynnag, dylid ystyried rolau eraill y gellir eu cyflawni neu weithio gartref. Dylid cyfeirio unrhyw faterion sy’n ymwneud â chyllid ar gyfer staff nad ydynt yn gallu dod i’r gwaith at yr awdurdod lleol.
Lle mae staff yn darparu cefnogaeth unigol neu grŵp i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) all ysgolion ad-drefnu'r amserlen o gymorth er mwyn lleihau rhyngweithio agos rhwng unigolion?
Yn unol â chanllawiau blaenorol, byddem yn annog dull ymarferol a hyblyg o sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu. Dylid ystyried hyn fel rhan o unrhyw asesiad risg. Er enghraifft, gall fod yn briodol amserlennu a threfnu cymorth un i un dros gylch hirach, er mwyn cynnal lefelau cyffredinol o gymorth wrth leihau'r rhyngweithio agos rhwng unigolion.
Er nad yw Ysgolion bellach yn cael eu cynghori i gynnal grwpiau cyswllt ymlaen, rydym yn cydnabod y bydd rhai ysgolion am deilwra'r ddarpariaeth ar gyfer rhai disgyblion ag anghenion addysgol arbennig o ganlyniad i anghenion iechyd penodol a nodwyd fel rhan o'r broses asesu risg.
Dylai ysgolion barhau i ymgynghori â rhieni a gofalwyr ynghylch anghenion cymorth penodol, gan ddefnyddio eu disgresiwn yn hyblyg wrth gytuno ar y ffordd ymlaen i ddysgwyr penodol.
I bwy y dylwn roi gwybod os ydw i neu fy mhlentyn wedi arddangos symptomau o COVID-19?
Dylai'r plant sy'n arddangos unrhyw un o brif symptomau Covid-19, aros gartref a dilyn y canllawiau i bobl sydd â symptomau.
Bellach, dyw'r rhan fwyaf o bobl Cymru ddim yn gallu cael profion am ddim ar gyfer COVID-19. Fodd bynnag, mae profion yn dal ar gael i grwpiau penodol.
Os ydych yn dymuno profi ond nad yw'ch plentyn yn gymwys i gael profion llif unffordd am ddim (LFTs) gallwch eu prynu gan amrywiol fanwerthwyr.
Nid oes gofyn i blant ddarparu tystiolaeth o unrhyw brawf negyddol wrth ddychwelyd i'r ysgol.
Sut dylai ysgolion sicrhau cydbwysedd rhwng cynnal awyru digonol a sicrhau bod pobl yn gynnes?
Nid yw darparu awyru digonol yn golygu bod yn rhaid i bobl weithio mewn lle anghyfforddus o oer. Mae camau syml y gallwch eu cymryd i sicrhau bod ystafelloedd dosbarth yn cael eu hawyru'n ddigonol heb fod yn rhy oer.
- Gall ffenestri a drysau sy'n agor yn rhannol ddarparu awyru digonol o hyd.
- Agorwch ffenestri uwch i greu llai o ddrafftiau.
- Os yw'r ardal yn oer, mae modd ymlacio’r trefniadau gwisg ysgol fel bod pobl yn gallu gwisgo haenau ychwanegol a dillad cynhesach.
- Gosodwch y gwres i gynnal tymheredd cyfforddus hyd yn oed pan fydd ffenestri a drysau ar agor yn rhannol.
- Ystyriwch ddarparu ffynonellau gwresogi ychwanegol os oes angen. Defnyddiwch twymwyr ffan darfudol dim ond os yw'r ardal wedi'i hawyru'n dda.
Gallwch hefyd awyru'r gofod yn rheolaidd mewn ystafelloedd sy'n dibynnu ar awyru naturiol, trwy agor ffenestri a drysau mor llydan â phosibl. Er enghraifft, gallwch wneud hyn pan fydd disgyblion yn gadael am egwyl. Gall hyd yn oed 10 munud yr awr helpu i leihau'r risg o firws yn yr awyr, gan ddibynnu ar faint yr ystafell.
Brechiadau
Ble alla i ddod o hyd i wybodaeth am frechiadau?
Yng Nghymru, rydym yn gweithio i amserlen flaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.
Y Cyd-bwyllgor hwn yw’r corff arbenigol sy’n cynghori pedair Llywodraeth y DU, ac mae’r amserlen frechu yr ydym yn gweithio iddi yr un fath â’r amserlen ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae rhagor o wybodaeth a diweddariadau ar ein strategaeth frechu ar gael.