Neidio i'r prif gynnwy

1. Cefndir a methodoleg

Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Arloesi newydd, Cymru’n Arloesi, cyn cyhoeddi cynllun cyflawni ym mis Hydref y flwyddyn honno. Mae tri ymrwymiad craidd yn ategu’r strategaeth honno:

  • cydraddoldeb daearyddol a demograffig,
  • diwylliant arloesi ffyniannus,
  • ffordd gydlynol a chydweithredol o weithio.

Yn ystod y broses o’i llunio, bu Llywodraeth Cymru’n ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd, i sicrhau bod y strategaeth yn sbarduno diwylliant o arloesi yng Nghymru ac yn cynorthwyo mwy o bobl i gymryd rhan ynddo, beth bynnag fo’u demograffeg a ble bynnag y maent yn byw. 

Yn 2019, cynhaliodd Thinks Insight and Strategy ymchwil a gomisiynwyd gan Nesta ymhlith oedolion 18+ yn y DU i ddeall agweddau’r cyhoedd tuag at arloesi. Fel rhan o’r gwaith hwnnw, paratowyd adroddiadau am ranbarthau penodol, gan gynnwys adroddiad penodol am Gymru o dan y teitl, ‘Is Wales getting innovation right?’. Defnyddiwyd yr adroddiad hwnnw i strwythuro’r broses a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r cyhoedd.  

Ym mis Ebrill 2024, comisiynodd Llywodraeth Cymru Thinks Insight i ailgynnal yr arolwg a ddefnyddiwyd yn 2019, ond gan roi sylw i Gymru yn unig y tro hwn, gyda’r bwriad o nodi sut y mae barn pobl Cymru ynghylch arloesi wedi newid, os o gwbl, dros y pedair blynedd diwethaf. 

I wneud hyn, cynhaliodd Thinks Insight arolwg meintiol 15 munud o hyd ar-lein gyda n=1027 o oedolion 18+ oed yng Nghymru, rhwng 10 i 24 Mai 2024. Pwysolwyd y data yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth a grŵp economaidd-gymdeithasol er mwyn iddynt fod yn gynrychioliadol o holl oedolion Cymru. 

2. Y prif ganfyddiadau

  • Yn gyffredinol, mae barn pobl Cymru ynghylch y dyfodol wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2019. Ceir ansicrwydd ynghylch y dyfodol o hyd, ac mae oedolion ifanc (18 i 24 oed) yn enwedig yn teimlo’r ansicrwydd hwn. Ochr yn ochr â hyn, ceir ymdeimlad nad oes gan bobl bŵer i lunio dyfodol y wlad.
     
  • Ceir bwlch o hyd rhwng maint y dylanwad y mae pobl Cymru yn teimlo sydd ganddynt dros arloesi, a maint y dylanwad yr hoffent ei gael. Mae pobl Cymru’n dal i deimlo nad oes cyfle iddynt lunio gweledigaeth hirdymor i Gymru, ac maent yn fwy tebygol o deimlo bod gweledigaeth hirdymor ar gael i Gymru nawr nag yr oeddent o deimlo bod gweledigaeth o’r fath ar gael ar gyfer y DU gyfan yn 2019.
     
  • Fodd bynnag, nid yw’r cyfleoedd i lunio’r dyfodol yn gyfartal: yn y system bresennol, ceir ymdeimlad bod mwy o gyfle ar gael i’r rheini sy’n gefnog neu’n ddylanwadol.
     
  • Mae dealltwriaeth pobl Cymru o ystyr arloesi yn dda, ac maent yn ei ddiffinio, gan amlaf, fel ‘syniadau newydd’. Fodd bynnag, ceir llai o ymwybyddiaeth o’r arloesi sy’n digwydd nawr mewn gwahanol rannau o’r gymdeithas o’i gymharu â 2019. 
     
  • Yn gyffredinol, ceir canfyddiad bod arloesi’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl Cymru – ond ceir enillwyr clir o hyd ymhlith y rhai sy’n elwa fwyaf ar arloesi. Mae pobl ar incwm uwch, pobl sy’n gweithio a phobl sy’n byw mewn trefi/dinasoedd yn dal i gael eu hystyried fel y rhai sy’n elwa fwyaf ar arloesi.  
     
  • Yn 2024, cafwyd newid bach o ran y canfyddiadau o’r ffordd y dylid targedu arloesi, gyda chanrannau twf economaidd, gwella addysg a chynyddu cyflogaeth i gyd yn cynyddu’n sylweddol fel y meysydd arloesi sydd bwysicaf i’r gymdeithas, o’u cymharu â 2019.
     
  • Mae’r egwyddorion a ffefrir gan y cyhoedd yng Nghymru i lywio cyllid arloesi a buddsoddiadau ynddo yn gyson â 2019. Ceir canfyddiad bod y ffocws ar helpu’r nifer fwyaf o bobl, sicrhau bod y wlad gyfan yn elwa, a datrys problemau cymdeithasol, hyd yn oed os nad yw’n effeithio’n gadarnhaol ar yr economi. 
     
  • Mae pobl Cymru’n deall bod gwahanol gyfranogwyr yn ymwneud â gwahanol feysydd a chamau arloesi, ond mae arnynt eisiau i gwmnïau’r sector preifat gael llai o ddylanwad, ac mae arnynt eisiau mwy o ddylanwad eu hunain o hyd. 
     
  • Mae ymwybyddiaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn dal i fod yn isel, yn yr un modd ag ymwybyddiaeth o’r strategaeth arloesi a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ‘Cymru’n Arloesi’ – ac nid yw’r rhai sy’n gwybod amdanynt wedi sylwi eu bod yn cael unrhyw effaith ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. 

3. Barn ynghylch y dyfodol

Mae barn pobl Cymru ynghylch y dyfodol wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2019. Yn 2019, roedd y cyhoedd yng Nghymru yn ansicr ynghylch y dyfodol. Bum mlynedd yn ddiweddarach, yn 2024, mae’r ansicrwydd hwnnw yn parhau, ochr yn ochr ag ymdeimlad nad oes gan bobl bŵer i lunio dyfodol y wlad.  

  • Mae’r mwyafrif (63%) yn teimlo’n ansicr ynghylch y dyfodol, cynnydd bach o’i gymharu â 2019 (59%). 
    • Mae’r ansicrwydd  hwn yn sylweddol uwch ymhlith pobl iau o’u cymharu â phobl Cymru yn gyffredinol (mae 73% o’r bobl ifanc 18 i 24 oed yn cytuno â’r datganiad ‘Rwy’n aml yn teimlo’n ansicr ynghylch y dyfodol’, o’u cymharu â 63% o oedolion Cymru). 
       
  • Dywed dros hanner y bobl (56%) eu bod yn aml yn teimlo bod y byd yn newid yn rhy gyflym, canlyniad sy’n gyson â 2019 (54%).
    • Fodd bynnag, nid yw pob newid yn cael ei ystyried yn beth drwg: mae dros hanner y bobl (54%) hefyd yn teimlo bod newid o ran diwylliant a’r gymdeithas fel arfer yn beth da. 
       
  • Mae 61% o bobl Cymru yn dal i deimlo nad oes cyfle iddynt lunio’r dyfodol, ac mae’r ganran yn sylweddol uwch ymhlith y rhai sy’n llai ymwybodol o arloesi (Wedi’i ddiffinio fel y rhai sy’n ateb ‘Dim’ ar gyfer o leiaf chwe chod yn C4 ‘Faint o arloesi, os o gwbl, ydych chi wedi’i weld neu wedi clywed amdano ym mhob un o’r meysydd a ganlyn?’) (78%) o’u cymharu â’r rhai sy’n ymwybodol o arloesi (Wedi’i ddiffinio fel y rhai sy’n ateb ‘Unrhyw un’ ar gyfer o leiaf chwe chod yn C4 ‘Faint o arloesi, os o gwbl, ydych chi wedi’i weld neu wedi clywed amdano ym mhob un o’r meysydd a ganlyn?’) yng Nghymru (42%). 
    • Mae tua hanner y bobl (52%) yn dweud mai dim ond pobl gefnog neu ddylanwadol sy’n gallu cymryd rhan mewn arloesi yn y  system bresennol, canlyniad sy’n gyson â 2019 (50%). 

Cyfle i lunio’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru:

Image
Cyfle i lunio’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru
C17. Yn gyffredinol, faint o gyfle ydych chi’n ei gael, yn eich tyb chi, i lunio’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y wlad? 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027

Mae’r ganran sy’n cytuno bod gweledigaeth hirdymor ar gael ar gyfer Cymru yn sylweddol uwch yn 2024 (32%) nag yr oedd yn 2019 (17%).

Cytuno bod gweledigaeth hirdymor ar gael ar gyfer Cymru:

Image
Cytuno bod gweledigaeth hirdymor ar gael ar gyfer Cymru
C16. Yn gyffredinol, faint o gytundeb a geir yng Nghymru, os o gwbl, o ran gweledigaeth hirdymor ar gyfer y wlad yn eich tyb chi? 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027

O blith y datganiadau y rhoddwyd prawf arnynt, mae pobl Cymru yn 2024 fwyaf tebygol o gytuno mai caniatáu i bobl fentro a methu yw’r hyn sy’n gyrru cymdeithas yn ei blaen (71%), ac mae hyn yn dangos bod awydd i arloesi ac i newid. 

  • O gymharu 2019 a 2024, ni cheir unrhyw wahaniaethau ystadegol o ran cytundeb oedolion Cymru â’r datganiadau y rhoddwyd prawf arnynt ynghylch y dyfodol. 
  • Mae’n nodedig bod pobl Cymru’n llai tebygol o deimlo’n negyddol ynghylch dyfodol hirdymor Cymru yn 2024 nag yr oeddent o deimlo’n negyddol ynghylch dyfodol y DU yn 2019 – mae 30% o bobl Cymru yn anghytuno â’r datganiad ‘Rwy’n teimlo’n gadarnhaol ynghylch dyfodol hirdymor Cymru’, o’i gymharu â 38% yn teimlo’r un peth ynghylch dyfodol y DU yn 2019.
Datganiad2019 - % a oedd yn cytuno â’r datganiad 2024 - % a oedd yn cytuno â’r datganiad 
Rwy’n teimlo’n gadarnhaol ynghylch dyfodol hirdymor Cymru.
(Sylwch mai’r datganiad cyfatebol yn 2019 oedd  ‘Rwy’n teimlo’n gadarnhaol ynghylch dyfodol hirdymor y DU’)
37%41%
O dan y system bresennol, dim ond pobl gefnog neu ddylanwadol sy’n gallu cymryd rhan mewn arloesi.50%52%
Mae newid o ran diwylliant a’r gymdeithas fel arfer yn beth da.53%54%
Rwy’n teimlo’n aml fod y byd yn newid yn rhy gyflym. 54%56%
Rwy’n teimlo’n ansicr ynghylch y dyfodol yn aml.59%63%
Caniatáu i bobl fentro a methu yw’r hyn sy’n gyrru cymdeithas yn ei blaen. 68%71%
C2. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r datganiadau a ganlyn? Dewiswch y rhif perthnasol ar y raddfa isod i nodi eich ateb, lle y mae 1 yn gyfystyr ag anghytuno’n gryf a 7 yn gyfystyr â chytuno’n gryf. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027

4. Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o arloesi

Mae dealltwriaeth pobl Cymru o ystyr ‘arloesi’ yn dda, fel yr oedd yn 2019. 

  • Mae’r canfyddiadau digymell o ystyr ‘arloesi’ yn debyg i 2019, gyda’r ffocws ar syniadau neu gysyniadau newydd neu ar wella ac addasu rhywbeth sy’n bodoli eisoes er gwell. 
Pan fyddwch chi’n clywed neu’n gweld y gair ‘arloesi’, beth yw ei ystyr yn eich tyb chi?
Ymateb wedi’i godio% o’r sampl
“Mae’n rhywbeth newydd / taro ar rywbeth newydd”32%
“Mae’n ymwneud â syniadau / meddwl am gysyniadau newydd”29%
“Mae’n ymwneud ag addasu / newid er gwell / gwneud gwelliannau”21%
“Mae’n ymwneud â chynhyrchion newydd / gwasanaethau newydd / meddwl am ddyfeisiadau”18%
“Mae’n ymwneud â dulliau o wneud rhywbeth / meddwl am ddulliau / prosesau newydd”17%
“Mae’n ymwneud â gwreiddioldeb / gwneud pethau’n wahanol / gwneud pethau nad ydynt erioed wedi’u gwneud o’r blaen”14%
“Mae’n ymwneud â bod yn greadigol / yn ddychmygus / meddwl yn wahanol i’r arfer”11%
“Mae’n ymwneud â chanlyniad cadarnhaol / gwireddu buddion / cyflawni pwrpas”11%
“Mae’n ymwneud â chamu ymlaen / datblygu / symud ymlaen”9%
C1. Pan fyddwch chi’n clywed neu’n gweld y gair ‘arloesi’, beth yw ei ystyr yn eich tyb chi?Sylfaen, 2024: n=1027
  • Er bod ymwybyddiaeth uchel o ystyr arloesi, mae adnabyddiaeth ac ymwybyddiaeth gyffredinol o arloesi mewn gwahanol feysydd wedi gostwng ers 2019.
    • Newid hinsawdd (67%), gwella addysg (48%) a gwneud poblogaeth Cymru’n iachach (47%) yw’r tri maes arloesi y mae pobl wedi clywed amdanynt fwyaf o hyd, ond mae’r ganran ym mhob un o’r meysydd hyn wedi gostwng o’u cymharu â 2019. 

Canran y bobl sydd wedi clywed am arloesi yn y meysydd a nodwyd:

Image
Canran y bobl sydd wedi clywed am arloesi yn y meysydd a nodwyd
C4. Faint o arloesi, os o gwbl, ydych chi wedi’i weld neu wedi clywed amdano ym mhob un o’r meysydd a ganlyn?  
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
*Sylwch fod ‘Cymru’ wedi disodli ‘y DU’ yn natganiadau 2024.
  • Mae pobl iau (18 i 24) yn fwy tebygol na’r cyfartaledd o fod wedi clywed am arloesi, yn enwedig o’u cymharu â’r grwpiau oedran hŷn (55 i 64 a 65+) ym mhob maes, ac eithrio mynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd, maes y mae ymwybyddiaeth ohono yn gyson i raddau helaeth ar draws y grwpiau oedran. 
    • Mae’r gwahaniaeth mwyaf o ran ymwybyddiaeth yn ôl oedran yn ymwneud ag arloesi sy’n gwneud Cymru’n gymdeithas fwy cyfartal: mae 55% o’r bobl 18 i 24 oed wedi clywed am hyn o’i gymharu â 32% o’r holl ymatebwyr, gyda’r grwpiau oedran hŷn wedi clywed llai amdano (20% o’r rhai 55 i 64 oed a 26% o’r rhai 65+).

5. Effaith arloesi

Mewn meysydd lle y mae pobl Cymru yn ymwybodol o arloesi, yn gyffredinol, maent o’r farn bod hyn wedi gwella bywydau pobl Cymru.

  • Mae mwy na dau o bob pump oedolyn yng Nghymru yn dweud bod pob un o’r meysydd y gofynnwyd yn ei gylch wedi gwella eu bywydau. 
  • Y ddau faes lle y mae’r sgôr wedi gwella fwyaf yw’r meysydd y gofynnwyd yn eu cylch yn 2019 ar sail y DU yn hytrach na Chymru, sef diogelwch a chydraddoldeb. Cafwyd cynnydd o 6% o ran ‘Gwneud Cymru’n fwy diogel’ a chynnydd o 7% o ran ‘Gwneud Cymru’n gymdeithas fwy cyfartal’ o’u cymharu â’r ymatebion a roddwyd i’r datganiadau cyfatebol a oedd yn ymwneud â’r DU yn 2019.
    • Mae hyn, ynghyd â’r gwelliant o ran y sgôr ‘Gwella cymunedau lleol’, yn awgrymu bod arloesi lleol sy’n benodol i Gymru yn cael effaith. 

Effaith ganfyddedig arloesi ar fywydau pobl Cymru:

Image
Effaith ganfyddedig arloesi ar fywydau pobl Cymru
C5. I ba raddau, os o gwbl, y mae arloesi ym mhob un o’r meysydd hyn wedi gwneud eich bywyd yn well, neu’n waeth? Graddfa: Llawer gwell / ychydig yn well / ddim yn well nac yn waeth / ychydig yn waeth / llawer gwaeth / ddim yn gwybod. 
Sylfaen: Pob ymatebydd sydd wedi gweld/clywed am fath penodol o arloesi yn C4
* Sylwch fod ‘Cymru’ wedi disodli ‘y DU’ yn natganiadau 2024.

Yng Nghymru, mae rhai unigolion yn cael eu hystyried yn ‘enillwyr’ clir yn sgil arloesi, tra mae grwpiau eraill yn cael eu hystyried yn llai tebygol o elwa. 

  • Yn fras, mae’r grwpiau a ddiffinnir fel y rhai sy’n elwa mwy ar arloesi wedi aros yr un fath â 2019, gyda’r tri grŵp a ganlyn yn parhau i fod ar y brig, sef pobl ar incwm uwch (66%), pobl sy’n gweithio (64%) a phobl sy’n byw mewn trefi a dinasoedd (62%). 

Y 10 grŵp y mae arloesi’n effeithio fwyaf cadarnhaol arnynt: % sydd wedi dewis pob grŵp:

Image
Y 10 grŵp y mae arloesi’n effeithio fwyaf cadarnhaol arnynt: % sydd wedi dewis pob grŵp
C3. Pa mor gadarnhaol neu negyddol yw effaith arloesi ar bob un o’r grwpiau a ganlyn?
Graddfa: Effaith gadarnhaol iawn / effaith led-gadarnhaol / dim effaith gadarnhaol na negyddol / effaith led-negyddol / effaith negyddol iawn / ddim yn gwybod. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
  • Mae’r darlun yn dal i fod yn gyson â 2019 hefyd pan fyddwn yn gofyn a yw ‘pobl fel chi’ yn cael eu hystyried fel rhai sy’n elwa ar arloesi. Mae’r rhai sy’n dod o grŵp economaidd-gymdeithasol C2DE yn llawer llai tebygol o ddweud bod arloesi wedi effeithio’n gadarnhaol arnyn nhw (41%) o’u cymharu â’r rhai yng ngrŵp ABC1 (58%). 
    • Mae grwpiau hŷn, 55 i 64 a 65+, hefyd yn llai tebygol o ddweud bod arloesi wedi effeithio’n gadarnhaol arnynt (47% ar gyfer y naill grŵp a’r llall) o’u cymharu â grwpiau iau, 18 i 24 a 25 i 34 (62% ar gyfer y naill grŵp a’r llall).

Nid yw’r duedd o ran y canfyddiad bod arloesi’n effeithio’n negyddol ar bobl ddi-waith, pobl hŷn (65+) neu bobl ar incwm is wedi newid ers 2019. Mae tua chwarter pobl Cymru’n datgan bod arloesi’n effeithio’n negyddol ar bob un o’r grwpiau hyn.  

Y 10 grŵp y mae arloesi’n effeithio fwyaf negyddol arnynt - % sydd wedi dewis pob grŵp:

Image
Y 10 grŵp y mae arloesi’n effeithio fwyaf negyddol arnynt - % sydd wedi dewis pob grŵp
C3. Pa mor gadarnhaol neu negyddol yw effaith arloesi ar bob un o’r grwpiau a ganlyn?
Graddfa: Effaith gadarnhaol iawn / effaith led-gadarnhaol / dim effaith gadarnhaol na negyddol / effaith led-negyddol / effaith negyddol iawn / ddim yn gwybod. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
  • Mae pobl Cymru hefyd yn tybio mai’r grwpiau hyn sy’n teimlo’r effaith gadarnhaol leiaf yn sgil arloesi, gyda bron yr un nifer o bobl yn ystyried bod arloesi’n cael effaith negyddol â’r nifer sy’n ystyried ei bod yn cael effaith gadarnhaol. 
Grŵp% effaith gadarnhaol% effaith negyddol
Pobl ddi-waith26%25%
Pobl hŷn (65+)36%24%
Pobl ar incwm is (e.e.  isafswm cyflog)32%24%
C3. Pa mor gadarnhaol neu negyddol yw effaith arloesi ar bob un o’r grwpiau a ganlyn?
Graddfa: Effaith gadarnhaol iawn / effaith led-gadarnhaol / dim effaith gadarnhaol na negyddol / effaith led-negyddol / effaith negyddol iawn / ddim yn gwybod. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027

6. Sut y dylid targedu a blaenoriaethu arloesi

Yn 2024, cafwyd newid o ran y meysydd arloesi sydd bwysicaf i’r gymdeithas ym marn pobl Cymru – gyda chanrannau twf economaidd, gwella addysg a chynyddu cyflogaeth i gyd yn cynyddu o’u cymharu â 2019. 

  • Ystyrir mai tyfu economi Cymru (54%) yw’r maes arloesi pwysicaf i’r gymdeithas, a’r maes lle cafwyd y cynnydd mwyaf o ran pwysigrwydd canfyddedig ers 2019 (43%). Gall hyn fod oherwydd yr argyfwng costau byw a gafwyd ers i’r ymchwil hon gael ei chynnal ddiwethaf. 
    • Er bod gwella cymunedau wedi cynyddu 11% ers 2019 hefyd (o 13% i 24% yn 2024), mae pwysigrwydd canfyddedig arloesi yn y maes hwn yn is o lawer. 
  • Erbyn hyn, mae pobl Cymru yn fwy tebygol o ystyried bod gwella addysg (45%) a chynyddu cyflogaeth (41%) yn bwysicach i’r gymdeithas o’i gymharu â 2019 (35% ar gyfer addysg a 28% ar gyfer cyflogaeth). 
  • Fodd bynnag, mae pobl Cymru bellach yn llai tebygol o ystyried bod arloesi sy’n mynd i’r afael ag achos newid hinsawdd (35%) ac arloesi sy’n mynd i’r afael â diogelwch (28%) mor bwysig ag yr oeddent yn 2019 (47% ar gyfer newid hinsawdd, a 40% ar gyfer diogelwch). 

Y meysydd arloesi sydd bwysicaf i’r gymdeithas - % sydd wedi dewis pob maes ymhlith eu tri uchaf:

Image
Y meysydd arloesi sydd bwysicaf i’r gymdeithas - % sydd wedi dewis pob maes ymhlith eu tri uchaf
C6. Ac ym mha rai o’r meysydd hyn y mae arloesi bwysicaf i’r gymdeithas yn eich tyb chi? Dewiswch hyd at dri opsiwn. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
* Sylwch fod ‘Cymru’ wedi disodli ‘y DU’ yn natganiadau 2024.
  • Mae gwahanol grwpiau demograffig yn ystyried bod gwahanol feysydd arloesi yn bwysicach i’r gymdeithas: 
    • Mae pobl iau (18 i 24) yn llawer mwy tebygol o ystyried bod gwella addysg (53%), gwneud Cymru’n fwy diogel (38%), gwneud Cymru’n gymdeithas fwy cyfartal (34%) a gwella’r celfyddydau a’r sector creadigol (9%) yn bwysig o’u cymharu â chyfartaleddau’r meysydd hyn. 
    • Mae pobl hŷn (65+) yn fwy tebygol o ystyried bod gwneud poblogaeth Cymru’n iachach yn bwysig o’u cymharu â’r cyfartaledd (57% o’i gymharu â 45%).
    • Mae pobl o grŵp economaidd-gymdeithasol C2DE yn ystyried bod gwneud Cymru’n fwy diogel yn faes arloesi pwysicach o’u cymharu â’r cyfartaledd (34% o’i gymharu â 28%).

Mae pwysigrwydd y meysydd arloesi hyn i bobl Cymru hefyd yn cyd-fynd yn fras â’r meysydd arloesi y mae pobl Cymru’n credu y dylai’r Llywodraeth eu hariannu a buddsoddi ynddynt.

Meysydd arloesi% a ddewisodd y maes ymhlith y tri maes pwysicaf i’r gymdeithas% a ddewisodd y maes ymhlith y tri maes pwysicaf i’w hariannu/i fuddsoddi ynddynt 
Gwella economi Cymru54%56%
Gwneud poblogaeth Cymru yn iachach45%44%
Gwella addysg41%38%
Cynyddu cyflogaeth41%42%
Mynd i’r afael ag achosion newid hinsawdd35%31%
Gwneud Cymru yn fwy diogel28%28%
Gwella cymunedau lleol24%27%
Gwneud Cymru yn gymdeithas fwy cyfartal23%25%
Gwella’r celfyddydau a’r sector creadigol4%4%
C9. Yn eich tyb chi, pa rai o’r dewisiadau a ganlyn sydd bwysicaf o ran y ffordd y mae’r Llywodraeth yn ariannu arloesi yng Nghymru ac yn buddsoddi ynddo? Dewiswch hyd at dri dewis. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027

Yn fras, mae’r egwyddorion a ffefrir gan bobl Cymru i lywio cyllid arloesi a buddsoddiad ynddo yn gyson â 2019:

  • Dylai’r Llywodraeth barhau i fuddsoddi mewn arloesi sydd o fudd i nifer fwy o bobl – hyd yn oed os yw’r effaith hon yn fach.
    • Mae 82% o bobl Cymru yn cefnogi’r datganiad y ‘dylai’r Llywodraeth fuddsoddi mewn arloesi sy’n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar nifer fach o bobl’ o’i gymharu ag effaith fwy ar nifer lai o bobl (18%) – mae hyn yn gyson â 2019: 
Datganiad% a ddewisodd y datganiad yn 2019 % a ddewisodd y datganiad yn 2024 
Dylai’r llywodraeth fuddsoddi mewn arloesi sy’n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar nifer fach o bobl17%18%
Dylai’r llywodraeth fuddsoddi mewn arloesi sy’n cael effaith gadarnhaol lai ar nifer fwy o bobl83%82%
C7. Ar gyfer pob un o’r parau a ganlyn o ddatganiadau, nodwch pa un sydd agosaf at eich barn chi. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
  • Dylai arloesi fod o fudd i’r wlad gyfan, gan ganolbwyntio ar wneud pob rhan o’r wlad yn ffyniannus, yn hytrach na gwella’r economi gyffredinol a allai beri anghydbwysedd o ran effaith (h.y. rhai lleoedd yn gwneud yn well nag eraill.) 
    • Mae 69% o bobl Cymru eisiau i’r wlad gyfan elwa ar arloesi, hyd yn oed os yw’r cynnydd mewn ardaloedd mwy cefnog yn arafach, a hynny o’i gymharu â dim ond 31% sy’n dweud y dylai’r llywodraeth ganolbwyntio ar wneud pob rhan o’r wlad yn fwy llewyrchus pan fydd yn buddsoddi mewn arloesi, hyd yn oed os bydd rhai ardaloedd yn gwneud yn well nag eraill. 
    • Mae hyn ychydig yn bwysicach i bobl Cymru nag yr oedd yn 2019, ac mae wedi disodli datrys problemau cymdeithasol, hyd yn oed os na cheir budd economaidd, fel yr egwyddor bwysicaf ond un:
Datganiad% a ddewisodd y datganiad yn 2019 % a ddewisodd y datganiad yn 2024 
Pan fydd yn buddsoddi mewn arloesi, dylai llywodraeth ganolbwyntio ar wella economi gwlad yn gyffredinol, hyd yn oed os bydd rhai lleoedd (e.e. dinasoedd a threfi penodol) yn gwneud yn well nag eraill30%31%
Pan fydd yn buddsoddi mewn arloesi, dylai llywodraeth ganolbwyntio ar wneud pob rhan o’r wlad yn fwy llewyrchus, hyd yn oed os yw hyn yn peri bod cynnydd mewn ardaloedd mwy cefnog yn arafach nag y gallai fod fel arall70%69%
C7. Ar gyfer pob un o’r parau a ganlyn o ddatganiadau, nodwch pa un sydd agosaf at eich barn chi. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
  • Dylai arloesi flaenoriaethu datrys problemau cymdeithasol. Nid yw budd economaidd yn angenrheidiol wrth fuddsoddi mewn arloesi. 
    • Er bod y ganran wedi gostwng ychydig ers 2019, mae 65% o bobl Cymru yn credu y dylai’r Llywodraeth fuddsoddi mewn arloesi os yw’n datrys problemau cymdeithasol, p’un a yw hynny o fudd economaidd ai peidio (o’i gymharu â 71% yn 2019). Ar y llaw arall, mae 35% sy’n credu y dylid buddsoddi mewn arloesi dim ond os oes iddo fudd economaidd. 
 Datganiad% a ddewisodd y datganiad yn 2019 % a ddewisodd y datganiad yn 2024 
Dylai’r llywodraeth fuddsoddi mewn arloesi dim ond os bydd yn arwain at fudd economaidd i’r wlad 29%35%
Dylai’r llywodraeth fuddsoddi mewn arloesi os yw’n datrys problemau cymdeithasol, hyd yn oed os nad oes iddo o reidrwydd unrhyw fudd economaidd 71%65%
C7. Ar gyfer pob un o’r parau a ganlyn o ddatganiadau, nodwch pa un sydd agosaf at eich barn. Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027

Yn 2024, er bod pobl Cymru yn dal i gredu y dylai arloesi ganolbwyntio ar fudd hirdymor yn gyffredinol, mae llai o bobl yn cytuno o’i gymharu â 2019.

  • Er bod mwyafrif pobl Cymru yn dal i gredu y dylai arloesi ganolbwyntio ar faterion hirdymor, hyd yn oed os yw’n golygu anwybyddu materion cyfredol, cafwyd gostyngiad sylweddol o 61% yn 2019 i 52% yn 2024:
Datganiad% a ddewisodd y datganiad yn 2019 % a ddewisodd y datganiad yn 2024 
Dylai arloesi ganolbwyntio ar y materion sy’n effeithio ar y byd nawr heb boeni am y tymor hwy39%48%
Dylai arloesi ganolbwyntio ar faterion mwy hirdymor, hyd yn oed os yw hynny’n golygu anwybyddu materion sy'n effeithio arnom ni nawr61%52%
C7. Ar gyfer pob un o’r parau a ganlyn o ddatganiadau, nodwch pa un sydd agosaf at eich barn chi. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
  • Mae’r symudiad bach hwn tuag at arloesi sydd o fudd heddiw hefyd yn cael ei adleisio yn y newid ym marn y cyhoedd ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod arloesi’n gwella bywydau cenedlaethau heddiw, yn hytrach na chanolbwyntio ar genedlaethau’r dyfodol. Er bod rhaniad cymharol gyfartal rhwng y farn hon a’r farn y dylai arloesi wella bywydau cenedlaethau’r dyfodol, erbyn hyn, mae’r mwyafrif eisiau iddo fod o fudd i genedlaethau heddiw (53% yn 2024 o’i gymharu â 46% yn 2019):
Datganiad% a ddewisodd y datganiad yn 2019% a ddewisodd y datganiad yn 2024
Mae’n bwysicach bod arloesi yn gwella bywydau cenedlaethau’r dyfodol, yn hytrach na chenedlaethau heddiw54%47%
Mae’n bwysicach bod arloesi yn gwella bywydau cenedlaethau heddiw, yn hytrach na chanolbwyntio ar genedlaethau’r dyfodol46%53%
C7. Ar gyfer pob un o’r parau a ganlyn o ddatganiadau, nodwch pa un sydd agosaf at eich barn chi. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027

Yn y meysydd sy’n weddill, ceir llai o gytundeb ar yr egwyddorion sy’n llywio arloesi:

% a ddewisodd bob datganiad fel yr un sydd agosaf at eu barn nhw
58%Byddwn yn hapus i rannu fy nata personol pe bai hynny’n golygu y gallai arloesi ddigwydd42%Ni fyddwn yn hapus i rannu fy nata personol at ddibenion arloesi
52%Dylem fod yn barod i gyfyngu ar y defnydd o arloesi a thechnoleg newydd os oes potensial iddynt arwain at anghydraddoldeb neu beri anfantais i grwpiau penodol o bobl48%Bydd y manteision a ddaw yn sgil arloesi a thechnoleg newydd yn gorbwyso unrhyw anghydraddoldeb neu anfantais yn y pen draw – felly nid oes angen arafu’r cynnydd 
51%Dylai penderfyniadau ynghylch arloesi gael eu gwneud gan arbenigwyr, hyd yn oed pan fyddant yn anghytuno â’r rhan fwyaf o’r cyhoedd49%

Dylai penderfyniadau ynghylch arloesi gael eu gwneud gan y cyhoedd, hyd yn oed os ydynt yn anghytuno ag arbenigwyr 

 

52%Mae arloesi’n fuddiol os yw’n gwella economi gwlad, hyd yn oed os yw hynny’n golygu bod rhai pobl yn colli eu swyddi48%Nid yw arloesi’n fuddiol os yw’n peri i bobl golli eu swyddi, hyd yn oed os yw’n gwella economi gwlad yn gyffredinol 
C7. Ar gyfer pob un o’r parau a ganlyn o ddatganiadau, nodwch pa un sydd agosaf at eich barn chi. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027

Fodd bynnag, mae rhai safbwyntiau yn amrywio yn ôl demograffeg:

  • Mae grwpiau oedran iau (62% o’r bobl 18 i 24 oed a 63% o’r bobl 25 i 35 oed) yn fwy tebygol o ddweud y dylid cyfyngu ar y defnydd o arloesi a thechnoleg newydd os oes potensial iddo arwain at anghydraddoldeb, o’u cymharu â phobl hŷn (48% o’r bobl 65+ oed). 
    • Mae menywod (62%) hefyd yn fwy tebygol o fod o’r farn hon na dynion (48%).
    • Mae grwpiau oedran hŷn (58% o’r bobl 55 i 64 oed a 60% o’r bobl  65+ oed) hefyd yn fwy tebygol o ystyried bod arloesi yn fuddiol hyd yn oed os bydd rhai pobl yn colli eu swyddi, o’u cymharu â’r grŵp oedran ieuengaf (41% o’r bobl 18 i 24 oed).

7. Cyfranogwyr ym maes arloesi

Er bod canfyddiad o hyd mai cwmnïau yn y sector preifat yw’r cyfranogwyr â’r pŵer mwyaf i wneud penderfyniadau o ran arloesi, mae mwy o bobl yn credu bod gan y Llywodraeth bŵer i wneud penderfyniadau o ran arloesi yn 2024 o’i gymharu â 2019.  

  • Nid yw barn pobl Cymru wedi newid ers 2019 o ran y grwpiau â’r pŵer mwyaf dros arloesi. Mae’r mwyafrif yn credu mai cwmnïau yn y sector preifat (74%), Llywodraeth Cymru (64%), a phrifysgolion lleol  (54%) yw’r cyfranogwyr â’r pŵer mwyaf i wneud penderfyniadau. 
  • Fodd bynnag, mae canran y bobl sy’n ystyried bod Llywodraeth Cymru yn ddylanwadol yn 2024 wedi cynyddu’n sylweddol o’i gymharu â chanran y bobl a oedd yn ystyried bod llywodraeth y DU yn ddylanwadol yn 2019 (64% o’i gymharu â 31%). Cafwyd cynnydd sylweddol o ran llywodraeth leol hefyd yn 2024, o 32% yn 2019 i 47% eleni. Gallai hyn fod yn arwydd bod gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn codi ymwybyddiaeth o’r camau y mae’n eu cymryd ym maes arloesi. 

Ym marn pobl Cymru, faint o bŵer sydd gan bob grŵp i wneud penderfyniadau o ran arloesi – % sydd wedi dewis pob cyfranogwr:

Image
Ym marn pobl Cymru, faint o bŵer sydd gan bob grŵp i wneud penderfyniadau o ran arloesi – % sydd wedi dewis pob cyfranogwr
C10. Yn eich tyb chi, faint o bŵer, os o gwbl, sydd gan bob un o’r grwpiau a ganlyn ar hyn o bryd i wneud penderfyniadau o ran arloesi? Dewiswch y rhif perthnasol ar y raddfa isod i nodi eich ymateb, lle y mae 1= dim dylanwad, a 7= llawer o ddylanwad. Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027 
* Sylwch fod ‘Cymru’ wedi disodli ‘y DU’ yn natganiadau 2024.

Fodd bynnag, ceir bwlch rhwng y sawl y mae pobl Cymru yn credu bod ganddynt bŵer a’r sawl y maent yn credu y dylai fod ganddynt bŵer. 

  • Tra mae pobl Cymru’n meddwl y dylai fod gan Lywodraeth Cymru (66%) a phrifysgolion (61%) bŵer i wneud penderfyniadau o ran arloesi, maent yn llawer llai awyddus i gwmnïau’r sector preifat gael y pŵer hwnnw, er eu bod yn meddwl mai ganddyn nhw y mae’r pŵer mwyaf ar hyn o bryd. Mae hyn yn gyson â 2019 (57% eisiau i gwmnïau’r sector preifat gael pŵer i wneud penderfyniadau o’i gymharu â 74% yn credu mai ganddyn nhw y mae’r pŵer hwnnw).
    • Yn hytrach, mae pobl Cymru fwyaf tebygol o ddweud y dylai’r GIG (73%), Llywodraeth Cymru (66%) a phrifysgolion (61%) gael pŵer i wneud penderfyniadau.
  • Mae awydd hefyd i’r cyhoedd gael rhywfaint o bŵer i wneud penderfyniadau o ran arloesi yng Nghymru, canran sydd wedi cynyddu ers 2019. Mae 59% eisiau i’r cyhoedd gael dylanwad o’i gymharu â 52% yn 2019, ac mae 54% eisiau cael dylanwad eu hunain o’i gymharu â 46% yn 2019. 
    • Mae hyn yn tynnu sylw at fwlch arall: mae pobl Cymru eisiau mwy o ddylanwad dros wneud penderfyniadau na’r dylanwad sydd ganddynt ar hyn o bryd yn eu tyb nhw. Dim ond 24% sy’n credu bod gan y cyhoedd bŵer i wneud penderfyniadau, gyda dim ond 20% yn credu bod ganddyn nhw eu hunain ddylanwad dros benderfyniadau arloesi. 

Faint o bŵer i wneud penderfyniadau arloesi y dylai pob grŵp ei gael ym marn pobl Cymru - % sydd wedi dewis pob cyfranogwr:

Image
Faint o bŵer i wneud penderfyniadau arloesi y dylai pob grŵp ei gael ym marn pobl Cymru - % sydd wedi dewis pob cyfranogwr
C11. Yn eich tyb chi, faint o bŵer, os o gwbl, y dylai pob un o'r grwpiau a ganlyn ei gael i wneud penderfyniadau o ran arloesi? Dewiswch y rhif perthnasol ar y raddfa isod i nodi eich ymateb, lle y mae 1= dim dylanwad, a 7= llawer o ddylanwad. Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
* Sylwch fod ‘Cymru’ wedi disodli ‘y DU’ yn natganiadau 2024.

Wrth fwrw golwg dros wahanol gamau arloesi, mae gan bobl Cymru farn bendant ynghylch pwy ddylai fod fwyaf cyfrifol am arloesi ym mhob cam. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn gyson â 2019:

Camau arloesi
 Cynllunio ar gyfer y dyfodolMeddwl am syniadau newyddDatblygu syniadau newyddGweithgynhyrchu nwyddauDarparu gwasanaethauAddasu i newid
Cyfrifoldeb (2019):LlywodraethCymysgBusnesBusnesBusnesUnigolion

Cyfrifoldeb

(2024):

LlywodraethCymysgBusnesBusnesBusnesUnigolion
Llywodraeth59%8%11%4%25%24%
Busnes11%30%43%86%61%14%
Unigolion15%27%14%4%5%47%
Prifysgolion (Sylwch nad oedd prifysgolion yn opsiwn yn 2019)3%27%25%1%1%2%
C12. O blith y grwpiau isod, nodwch pwy ddylai fod fwyaf cyfrifol am bob un o’r camau arloesi a ganlyn yn eich tyb chi. 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
  • Drwy gynnwys prifysgolion yn y cwestiwn hwn yn 2024, mae’n dangos bod rôl ganfyddedig glir iddynt ei chwarae o ran meddwl am syniadau newydd a’u datblygu.

Yn gyffredinol, mae ymwybyddiaeth o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran arloesi yn isel. Nid yw mwyafrif pobl Cymru yn gyfarwydd â Strategaeth Arloesi Cymru, Cymru’n Arloesi, gyda dim ond 16% yn honni eu bod wedi clywed amdani.

Sylwch fod Strategaeth Arloesi Cymru, Cymru’n Arloesi, wedi’i chyhoeddi yn 2023.

Canran pobl Cymru sydd wedi clywed am yr isod: 

Image
Canran pobl Cymru sydd wedi clywed am yr isod
C13. Faint, os o gwbl, ydych chi wedi’i glywed am…? 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
*Sylwch mai’r enw ‘Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru’ a ddefnyddiwyd yn yr arolwg.
  • Nid yw mwyafrif pobl Cymru yn gyfarwydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ychwaith, gyda dim ond 18% yn honni eu bod wedi clywed amdani, yn debyg i 2019 (14%).

Mae hyd yn oed aelodau o’r cyhoedd sy’n gwybod am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol neu Strategaeth Arloesi Cymru, ‘Cymru’n Arloesi’, yn ei chael yn anodd dweud eu bod wedi sylwi ar wahaniaeth o ran y ffordd y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau wedi gweithredu o ganlyniad iddynt. Fodd bynnag, ers 2019, cafwyd cynnydd bach yn y gwahaniaeth y mae’r rhai sy’n gwybod am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi sylwi arno, o 22% yn 2019 i 26%. 

Faint o’r cyhoedd yng Nghymru sydd wedi clywed am yr isod - % sydd wedi clywed amdanynt:

A ydynt wedi sylwi ar wahaniaeth o ran y ffordd y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gweithredu o ganlyniad i’r isod:

Image
Faint o’r cyhoedd yng Nghymru sydd wedi clywed am yr isod - % sydd wedi clywed amdanynt
C13. Faint, os o gwbl, ydych chi wedi’i glywed am…? 
Sylfaen, 2019: n=1012, 2024: n=1027
C14. Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw wahaniaethau o ran y ffordd y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru wedi gweithredu o ganlyniad i…? 
Sylfaen, y rhai a oedd yn gwybod am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol n=333, y rhai a oedd yn gwybod am Strategaeth Arloesi Cymru n=162
*Sylwch mai’r enw ‘Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru’ a ddefnyddiwyd yn yr arolwg.

Er bod y sylfaen yn fach, gwelir rhywfaint o wahaniaeth rhwng Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Strategaeth Arloesi Cymru, ‘Cymru’n Arloesi’ o ran sut y maent wedi effeithio ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

  • Roedd yr ymatebion i’r cwestiwn am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn canolbwyntio ar feddwl yn strategol ac ar yr amgylchedd:
Pa wahaniaethau ydych chi wedi sylwi arnynt o ran y modd y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru wedi gweithredu o ganlyniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol*?
Ymateb wedi’i godio% o’r sampl
“Mae wedi effeithio ar gynllunio / gwneud penderfyniadau / meddwl yn strategol”28%
“Mae wedi effeithio ar yr amgylchedd / cynaliadwyedd / ynni adnewyddadwy”22%
“Cafodd anghenion cenedlaethau’r dyfodol eu hystyried / blaenoriaethu”17%
C15. Pa wahaniaethau ydych chi wedi sylwi arnynt o ran y ffordd y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru wedi gweithredu o ganlyniad i…? 
Sylfaen, y rhai sydd wedi sylwi ar wahaniaeth yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol n=49
*Sylwch mai’r enw ‘Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru’ a ddefnyddiwyd yn yr arolwg
  • Roedd yr ymatebion i’r cwestiwn am Strategaeth Arloesi Cymru, Cymru’n Arloesi, yn canolbwyntio ar yr economi ac ar greadigrwydd:
Pa wahaniaethau ydych chi wedi sylwi arnynt o ran y modd y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru wedi gweithredu o ganlyniad i  Strategaeth Arloesi Cymru, Cymru’n Arloesi?
Ymateb wedi’i godio% o’r sampl
“Mae wedi effeithio ar fuddsoddi”14%
“Mae wedi effeithio ar arloesi / creadigrwydd” 22%
“Mae wedi effeithio ar yr economi / swyddi / twf”17%
C15. Pa wahaniaethau ydych chi wedi sylwi arnynt o ran y ffordd y mae’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru wedi gweithredu o ganlyniad i…? 
Sylfaen, y rhai sydd wedi sylwi ar wahaniaeth yn sgil Strategaeth Arloesi Cymru n=23

8. Casgliadau ac argymhellion

Ceir cyfle gwirioneddol o hyd i Lywodraeth Cymru yrru ac arwain arloesi yng Nghymru. Dim ond y GIG sydd ar y blaen i Lywodraeth Cymru fel y corff y mae pobl Cymru’n tybio y dylai fod ganddo bŵer i wneud penderfyniadau o ran arloesi yng Nghymru. 

Fodd bynnag, ceir bwlch o hyd rhwng maint y dylanwad y mae pobl Cymru yn credu sydd ganddynt dros arloesi, a maint y pŵer yr hoffent ei gael. Mae pobl Cymru yn awyddus i fod yn rhan o’r broses o lunio’r weledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru.

Un o brif nodau Strategaeth Arloesi Cymru 2023, Cymru’n Arloesi, oedd cynorthwyo mwy o bobl i gymryd rhan mewn arloesi, ac elwa arno, beth bynnag fo’u demograffeg. Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth o’r strategaeth yn isel ac mae’r cyhoedd yn dal i ystyried bod ‘enillwyr’ clir o ran y rhai sy’n elwa ar arloesi (pobl fwy cefnog sy’n byw mewn trefi neu ddinasoedd). Byddai modd cynyddu ymwybyddiaeth o’r strategaeth hon, o’i nod o annog cyfranogiad a chydraddoldeb o ran arloesi, ac o’r ffordd y gall pobl gymryd rhan. 

Mae ymwybyddiaeth o’r arloesi sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o’r gymdeithas yn is nawr nag yr oedd yn 2019. I ategu rôl Llywodraeth Cymru fel corff sy’n arwain arloesi, byddai’n fuddiol codi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae eisoes wedi’i gyflawni yng Nghymru. 

Ers 2019, cafwyd newid bach yng nghanfyddiad pobl Cymru o’r meysydd sy’n flaenoriaeth ar gyfer arloesi. Mae twf economaidd, gwella addysg, a chynyddu cyflogaeth i gyd yn cael eu hystyried yn bwysicach i’r gymdeithas nawr nag yr oeddent yn 2019. Y meysydd hyn, ynghyd â gwneud poblogaeth Cymru yn iachach, yw’r meysydd y dylai Llywodraeth Cymru eu targedu i gyd-fynd orau â barn y cyhoedd am y meysydd y dylid arloesi ynddynt. 

Mae sawl maes y byddai modd eu harchwilio ymhellach drwy gynnal ymchwil ansoddol ymhlith pobl Cymru: 

  • Pam fod ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth gyffredinol o arloesi mewn gwahanol feysydd wedi gostwng ers 2019 yng Nghymru? Beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i godi ymwybyddiaeth o arloesi yng Nghymru? 
  • Pobl sy’n ddi-waith, pobl hŷn (65+) a phobl ar incwm is yw’r tri grŵp y tybir bod arloesi’n effeithio fwyaf negyddol arnynt o hyd. Gan fod cydraddoldeb yn sail i’r Strategaeth Arloesi newydd a gyhoeddwyd yn 2023, pam fod pobl o’r farn nad yw’r grwpiau hyn yn elwa cymaint ag eraill ar arloesi? 
  • Ystyrir bod gan Lywodraeth Cymru ddylanwad dros benderfyniadau arloesi, ac mae pobl Cymru o blaid iddi wneud penderfyniadau o ran arloesi. Fodd bynnag, pa fath o ddylanwad y dylai ei gael, pa fath o benderfyniadau y dylai eu gwneud, a sut y dylid rhoi gwybod i’r cyhoedd yng Nghymru am benderfyniadau Llywodraeth Cymru o ran arloesi?