Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor Llywodraeth Cymru yn rhan bwysig o'r system les ehangach, gan helpu aelwydydd incwm isel gyda'u biliau treth gyngor. Mae'r ddogfen hon yn crynhoi'r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad technegol ar drothwyon ailasesu ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yng Nghymru. Cynigiodd yr ymgynghoriad newid wedi'i dargedu er mwyn symleiddio prosesau gweinyddol, gwella sicrwydd ariannol i drigolion a pharhau i ddarparu cymorth. 

Camau i'w Cymryd

Mae'r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Polisi'r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: CTaNDR.ymgyngoriadau@llyw.cymru

Copïau ychwanegol

Ar ffurf electronig yn unig y caiff y crynodeb hwn o ymatebion a chopïau o'r holl ddogfennaeth ymgynghori eu cyhoeddi, a gellir eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Dolen i'r ddogfen ymgynghori: Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru: ymgynghoriad technegol ar drothwyon ailasesu

Cyflwyniad

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion i gyflwyno trothwy goddefiant ar gyfer amrywiadau bach mewn dyfarniadau Credyd Cynhwysol wrth wneud penderfyniadau ar hawl aelwydydd i gael cymorth o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar p'un a ddylid cyflwyno goddefiant ac, os felly, a yw goddefiant o £65 y mis yn drothwy priodol.

Nod y cynigion yw lleihau amlder ailasesiadau o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a achosir gan newidiadau misol bach mewn dyfarniadau Credyd Cynhwysol, gwella sefydlogrwydd i drigolion, lleihau beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol a symleiddio prosesau gweinyddol, gan gadw'r lefelau presennol o gymorth. Dim ond i Gymru roedd y cynigion hyn yn berthnasol. 

Ymatebion i'r ymgynghoriad

Mae'r crynodeb hwn yn darparu trosolwg o'r ymatebion a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori a oedd yn weithredol o 15 Gorffennaf 2026 i 23 Medi 2026. Cafwyd cyfanswm 40 o ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd. Gwahoddwyd yr ymatebwyr i rannu eu safbwyntiau ar-lein, drwy e-bost neu drwy'r post, a gallent ymateb yn Gymraeg neu yn Saesneg. Darparwyd ffurflen ymateb safonol er hwylustod. Fodd bynnag, lle na ddefnyddiodd yr ymatebwyr y ffurflen, mae eu sylwadau wedi'u priodoli i'r cwestiwn mwyaf priodol. Nid atebodd pob ymatebydd bob cwestiwn, ond cafodd pob ymateb ei ddadansoddi'n ofalus, ac mae'r ddogfen hon yn cyflwyno'r themâu, y safbwyntiau a'r materion allweddol a godwyd.

Tabl o'r ymatebion yn ôl math a nifer
Y math o ymatebydd Nifer yr ymatebion 
Awdurdod lleol17
Corff Cynrychioliadol3
Unigolion19
Arall 1
Cyfanswm40

Crynodeb o'r safbwyntiau am y cynigion

Cwestiwn 1

A ydych chi, neu rywun yn eich aelwyd, yn cael cymorth o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar hyn o bryd?

Tabl o'r ymatebion ar gyfer Cwestiwn 1
Opsiwn ymatebNifer yr ymatebion 
Ydw/oes5
Na11
Ymateb gan randdeiliaid yw hwn24
Cyfanswm40

Cwestiwn 2

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid lleihau amlder ailasesiadau o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor i'r rhai sy'n cael Credyd Cynhwysol lle mae eu hincwm yn amrywio. A ydych chi'n cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno goddefiant o ran newidiadau bach mynych i ddyfarniadau Credyd Cynhwysol, i drigolion sy'n cael cymorth o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor?

Rhoddodd cyfanswm o 40 o ymatebwyr adborth ar gyfer y cwestiwn hwn. Roedd y mwyafrif sylweddol (85%) o'r ymatebwyr yn cytuno'n gryf neu'n cytuno â'r egwyddor o gyflwyno trothwy goddefiant. Roedd nifer bach o ymatebion yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf (5). 

Tabl o'r ymatebion ar gyfer Cwestiwn 2
Opsiwn ymatebNifer yr ymatebionCanran
Cytuno'n gryf2665%
Cytuno820%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno12.5%
Anghytuno25%
Anghytuno'n gryf37.5%
Cyfanswm40100%

Roedd pob awdurdod lleol yn cytuno'n gryf neu'n cytuno y dylid cyflwyno goddefiant.

Cwestiwn 3

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid cyflwyno lefel goddefiant o £65 y mis, a fyddai’n rhewi dyfarniad trigolyn o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor pe bai Credyd Cynhwysol a ddyfarnwyd iddo yn cynyddu neu’n gostwng lai na £65 y mis. A ydych chi'n cytuno bod hon yn lefel goddefiant briodol?

Cafwyd 40 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. Roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr (53%) yn cytuno'n gryf neu'n cytuno â'r cynigion ar gyfer defnyddio goddefiant misol penodedig o £65. Roedd 12 o'r ymatebwyr yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf.

Tabl o'r ymatebion ar gyfer Cwestiwn 3
Opsiwn ymatebNifer yr ymatebionCanran
Cytuno'n gryf820%
Cytuno1333%
Ddim yn cytuno nac yn anghytuno718%
Anghytuno718%
Anghytuno'n gryf513%
Cyfanswm40100%

Roedd mwy na phedair rhan o bump (14) o ymatebion yr awdurdodau lleol a gafwyd yn cytuno'n gryf neu'n cytuno ag egwyddor lefel goddefiant o £65 y mis.

Cwestiwn 4

Os nad ydych chi'n cytuno â lefel goddefiant o £65 y mis, beth fyddai'r swm priodol yn eich barn chi a pham?

Cafwyd cyfanswm o 17 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. Er i'r cwestiwn hwn ofyn i'r ymatebwyr awgrymu swm amgen os nad oeddent yn cytuno â'r lefel goddefiant o £65 y mis, roedd llawer o'r sylwadau yn canolbwyntio ar y rhesymeg dros y trothwy arfaethedig a sut y byddai'n cael ei ddylunio a'i weithredu yn hytrach na chynnig swm amgen penodol.

Awgrymodd nifer bach o'r ymatebwyr drothwyon penodedig amgen yn lle'r lefel goddefiant arfaethedig o £65 y mis, gan gynnwys £50 a £100 y mis.

Awgrymodd rhai ymatebwyr y byddai goddefiant yn seiliedig ar ganran yn well na swm ariannol penodedig. Roedd yr ymatebwyr hyn o'r farn y byddai dull canrannol yn adlewyrchu amrywiadau o ran amgylchiadau aelwydydd a lefelau dyfarniadau Credyd Cynhwysol yn well a, thrwy hynny, yn sicrhau canlyniad tecach ar draws gwahanol fathau o aelwydydd. 

Canolbwyntiodd yr ymatebwyr eraill ar y trothwy arfaethedig o £65 a'r ffordd y byddai'n cael ei roi ar waith yn ymarferol. Gofynnodd y sylwadau am eglurhad ynghylch sut y pennwyd y trothwy, ei effaith bosibl ar wahanol fathau o aelwydydd, a'r ffordd y mae'n rhyngweithio â'r prosesau ailasesu presennol. Galwodd rhai ymatebwyr hefyd am dystiolaeth a gwaith modelu ychwanegol i gefnogi'r trothwy arfaethedig, gan awgrymu y dylid ei adolygu ar ôl iddo gael ei roi ar waith.

Cyflwynodd gweddill yr ymatebwyr sylwadau cyffredinol am y dreth gyngor neu gwnaethant godi materion y tu allan i gwmpas yr ymgynghoriad.

Crynodeb o'r ymatebion am y Gymraeg

Cwestiwn 5

Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ynglŷn â gostyngiadau'r dreth gyngor ar y Gymraeg yn eich barn chi? Hoffem glywed yn arbennig am unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 
A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi? 
A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?

Cafwyd 25 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. Nid oedd llawer o'r ymatebwyr o'r farn y byddai'r cynigion yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y Gymraeg. Pwysleisiodd sawl ymatebydd bwysigrwydd parhau i ddarparu gohebiaeth a gwasanaethau dwyieithog, tra nododd nifer bach gyfleoedd i wella cysondeb a hygyrchedd gwybodaeth yn y Gymraeg. Cododd lleiafrif bryderon ehangach ynghylch costau ac ymarferoldeb darpariaeth ddwyieithog. 

Cwestiwn 6

Yn eich barn chi, sut y gellid llunio neu newid y cynigion ynglŷn â gostyngiadau'r dreth gyngor er mwyn:
cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu 
liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cafwyd 30 o ymatebion i'r cwestiwn hwn. Nid oedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr o'r farn bod angen diwygio'r cynigion mewn perthynas â'r Gymraeg, gan adlewyrchu'r farn na fyddent yn cael fawr ddim effaith, os o gwbl, ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg nac o ran trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Awgrymodd nifer bach o'r ymatebwyr y byddai unrhyw effeithiau cadarnhaol yn dibynnu ar brosesau gweithredu a chyfathrebu dwyieithog effeithiol. Nododd ychydig o'r ymatebwyr y gallai llai o ailasesiadau leihau faint o ohebiaeth a gyhoeddir yn y ddwy iaith, a chododd lleiafrif bryderon ehangach am gost ac ymarferoldeb darpariaeth ddwyieithog.

Crynodeb o'r sylwadau eraill

Cwestiwn 7

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.

Cyflwynodd cyfanswm o 23 o'r ymatebwyr sylwadau mewn ymateb i'r cwestiwn hwn.

Cyfeiriodd y mwyafrif o'r ymatebwyr at y sylwadau a wnaed mewn ymateb i Gwestiwn 4 ac ni wnaethant godi unrhyw faterion newydd. Ailadroddodd yr ymatebion hyn safbwyntiau ar y trothwy arfaethedig o £65, gan gynnwys rhoi awgrymiadau ar gyfer lefelau goddefiant amgen ac ystyried yr effaith ar wahanol fathau o aelwydydd.

Cododd nifer o'r ymatebwyr faterion gweithredol a materion gweithredu yn ymwneud â'r trothwy goddefiant arfaethedig a datganodd nifer bach eto eu bod yn croesawu'r cynnig, gan nodi ei botensial i leihau'r nifer o ailasesiadau diangen, rhoi mwy o sefydlogrwydd i hawlwyr a lleihau beichiau gweinyddol ar awdurdodau lleol.

Cyflwynodd ymatebwyr eraill sylwadau cyffredinol am y ffordd y caiff y dreth gyngor ei gweinyddu neu am faterion ehangach yn ymwneud â pholisi'r dreth gyngor a oedd y tu allan i gwmpas cwestiwn yr ymgynghoriad.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y dulliau gweithredu amgen a awgrymwyd drwy'r ymgynghoriad. Er y gallai goddefiant â bandiau ei gwneud hi'n haws ymateb i amgylchiadau aelwydydd gwahanol, byddai'n cyflwyno cymhlethdod ychwanegol ac yn gofyn am ddatblygu system ychwanegol y tu hwnt i'r hyn a ragwelwyd mewn perthynas â'r nodau polisi. Gall dull sy'n seiliedig ar ganran gynnig dewis arall mwy cymesur ac effeithlon yn weinyddol, gan barhau, ar yr un pryd, i gyflawni'r amcan polisi o leihau'r nifer o ailasesiadau diangen a pharhau'n niwtral o ran cost ar y cyfan ar gyfer cynlluniau o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y camau nesaf, gan gynnwys a ddylid gwneud gwaith ychwanegol i ddatblygu trothwy goddefiant amgen. Byddai hyn yn cynnwys asesu'r effeithiau posibl ar hawlwyr, awdurdodau lleol a'r ffordd y caiff y cynllun ei weinyddu, ynghyd â gweithgarwch ymgysylltu pellach â rhanddeiliaid allweddol.