Daeth yr ymgynghoriad i ben 27 Hydref 2026.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn am Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Arfaethedig Cymru ar gyfer Crancod a Chimychiaid ym mharth Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym ni’n gofyn am sylwadau ar Gynllun Rheoli Pysgodfeydd (FMP) Arfaethedig Cymru ar gyfer Crancod a Chimychiaid ym mharth Cymru. O dan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (ar gael ar gov.uk), cyhoeddodd pedair gweinyddiaeth y DU (yr awdurdodau polisi pysgodfeydd) Gyd-ddatganiad Pysgodfeydd. Mae’r datganiad hwn yn cynnwys rhestr o FMPs i’w cyhoeddi dros gyfnod o chwe blynedd. Rydym yn bwriadu cyhoeddi FMP Crancod a Chimychiaid ym mharth Cymru eleni.
