Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pysgotwyr a pherchenogion cychod yng Nghymru’n gallu gwneud cais i gronfa gwerth £400,000 o 3 Ebrill i’w helpu i addasu i amodau cyfnewidiol y farchnad ar gyfer cynnyrch bwyd môr, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw’r cymorth hwn oddi wrth Gronfa Pysgodfeydd Môr Ewrop (EMFF) ac mae’n cael ei gydariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Bydd Cynllun Costau Safonol yr EMFF yn cynnig rhestr o offer y caiff pysgotwyr a pherchenogion cychod eu prynu am gost safonol er mwyn ychwanegu at werth eu dalfeydd a gwneud eu busnesau’n fwy cynaliadwy.

Mae’r rhestr offer yn cynnwys eitemau fel biniau iâ, tanciau pysgod cregyn a chloriannau ar y cwch ac ar y lan.

Bydd grant gwerth hyd at 80% o gost yr offer cyfalaf ar gael i ymgeiswyr. Y grant mwyaf y gall unrhyw ymgeisydd ei gael yw £30,000. 

Mae’r cyfnod ymgeisio’n agor ar 3 Ebrill ac yn cau ar 12 Mai.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod yn gynnar ym mis Mehefin a bydd ganddynt gyfnod o 4 mis i brynu eitemau a chyflwyno hawliad.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths:

Rydyn ni’n deall y pwysau a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant pysgota.

Mae Cronfa Pysgodfeydd Môr Ewrop eisoes wedi helpu llawer o bysgotwyr a pherchenogion cychod a bydd y £400,000 hwn yn eu helpu eto i addasu i amodau cyfnewidiol y farchnad ar gyfer cynnyrch bwyd môr.

Dw i’n annog pawb sydd â diddordeb i ystyried ymgeisio i’r gronfa.

Dywedodd Jim Evans, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru:

Dyma newyddion da i fusnesau pysgota yng Nghymru.

Bydd Cynllun Costau Safonol yr EMFF yn help mawr i’r rheini sydd am ychwanegu at werth eu dalfeydd trwy gyfrwng broses syml.  Bydd yn helpu pysgotwyr Cymru i wrthsefyll amodau masnachu hynod anodd.

Mae pysgodfeydd a dyframaethu cynaliadwy yng Nghymru’n cynhyrchu bwyd o’r ansawdd uchaf â’r ôl troed carbon lleiaf i’r wlad. Mae cyhoeddiad y Gweinidog heddiw yn gam i’w groesawu i’r cyfeiriad iawn ar gyfer cynhyrchwyr bwyd môr Cymru.

I wneud cais am yr arian, rhaid i ymgeiswyr gofrestru gyda Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, lle bydd y ffurflenni cais a hawlio ar gael o 3 Ebrill.  Bydd manylion y cynllun ar gael i chi eu darllen cyn y dyddiad hwnnw ar Cymorth ar gyfer gwerth ychwanegol, ansawdd cynnyrch a defnydd o ddaliadau diangen: canllawiau ceisiadau cost safonol | LLYW.CYMRU

Am ragor o help, dylai darpar ymgeiswyr gysylltu â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW ar 0300 062 5004.