Neidio i'r prif gynnwy

Y camau rydym yn eu cymryd i leihau’r risgiau o gaethwasiaeth fodern yn ein cadwyni cyflenwi masnachol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhagair

Ledled y byd, mae degau o filiynau o oedolion a phlant yn wynebu bywydau annirnadwy o greulondeb a chaledi mewn amodau caethwasiaeth fodern. Mae caethwasiaeth yn llwyddo i gyrraedd cadwyni cyflenwi y dillad rydym yn eu prynu, y bwyd rydym yn ei fwyta, y deunyddiau rydym yn eu defnyddio yn ein hadeiladau a'r cydrannau yn ein ffonau a'n cyfrifiaduron. Mae hefyd yn digwydd yn ein cymunedau, pan fo unigolion yn wynebu dan orfod gamfanteisio yn y gweithle, camfanteisio rhywiol, caethwasanaeth domestig, a chamfanteisio troseddol gan gangiau troseddol cyfundrefnol, rhwydweithiau troseddol, a chyflawnwyr unigol.

Nid yw Cymru wedi’i heithrio rhag yr arferion atgas hyn. Rhaid inni barhau i gymryd camau i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern lle bynnag y bo'n bodoli.

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein pŵer i atal, taclo a dileu'r ymddygiad troseddol hwn ac i gefnogi goroeswyr. Byddwn yn meithrin ac yn hyrwyddo cydlynu a chydweithredu amlasiantaeth gyda'n partneriaid niferus ym maes gorfodi'r gyfraith, yn y gymdeithas sifil a thu hwnt er mwyn codi ymwybyddiaeth, dod â chyflawnwyr o flaen eu gwell a sicrhau bod goroeswyr yn cael y cymorth cydgysylltiedig sydd ei angen arnynt. Nid yw caethwasiaeth fodern yn digwydd ar ei phen ei hun. Yn aml, gall goroeswyr fod yn ddioddefwyr mathau eraill o droseddau, megis trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae cadwyni cyflenwi moesegol yn parhau i fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru. Yn 2017, cyhoeddwyd ein Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Ers hynny, mae mwy na 500 o sefydliadau wedi ymgymryd ag ymrwymiadau'r Cod ar fynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol yn eu cadwyni cyflenwi. Rydym yn adolygu'r Cod hwn i adlewyrchu'r datblygiadau diweddaraf ac yn archwilio opsiynau pellach i hyrwyddo cadwyni cyflenwi moesegol a thryloyw.

Mae chwarae ein rhan yn y gwaith o gael gwared ar gaethwasiaeth fodern o gadwyni cyflenwi yn hanfodol i'n gweledigaeth ehangach ar gyfer cyfiawnder economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau nad ydym yn dibynnu ar weithwyr y camfanteisir arnynt mewn rhannau eraill o'r byd drwy ein cadwyni cyflenwi.

Mae'r Datganiad Caethwasiaeth Fodern hwn yn disgrifio'r camau rydym wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r risgiau o gaethwasiaeth fodern yn ein cadwyni cyflenwi masnachol, ochr yn ochr â'r camau y bwriadwn eu cymryd yn y dyfodol. Wrth inni wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd parhaus, rhaid inni weithio'n galed i sicrhau ein bod yn amddiffyn y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Rydym yn cydnabod ymrwymiad sefydliadau ledled Cymru i fynd i'r afael â risgiau o gaethwasiaeth fodern ar draws ein cymdeithas. Dim ond os byddwn yn parhau i gydweithio y byddwn yn llwyddo yn ein hymdrechion i sicrhau nad yw ein gwlad yn goddef caethwasiaeth fodern a’i bod yn cefnogi goroeswyr.

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog.

Rhagymadrodd

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Datganiad Caethwasiaeth Fodern hwn yn unol â'n Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Wrth ddatblygu a dod yn llofnodwr i'r Cod Ymarfer hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n wirfoddol i lunio Datganiad Caethwasiaeth Fodern yn flynyddol.

Fel sefydliad mawr, mae'n anochel bod Llywodraeth Cymru yn rhan o gadwyni cyflenwi byd-eang lle camfanteisir ar weithwyr. Wrth gyhoeddi'r datganiad hwn, rydym yn cydnabod y risgiau hyn, yn derbyn ein cyfrifoldebau, ac yn ymrwymo i wella ein harferion.

Ein sefydliad a'n strwythur

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig ein gwlad. Dan arweiniad y Prif Weinidog, mae'n gweithio ar draws meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Mae'r portffolio caethwasiaeth fodern yn rhan o Is-adran Gwaith Teg Llywodraeth Cymru yn y Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg. Mae hyn yn darparu cyfleoedd i gysoni gwaith ategol ac yn galluogi dull mwy integredig o fynd i'r afael â cham-drin troseddol ac anghyfreithlon yn y farchnad lafur, gan annog a hyrwyddo gwaith teg. Mae cydweithio agos gyda chyflogwyr ac undebau llafur yng Nghymru yn cyfrannu at fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a chefnogi goroeswyr.

Mae Cyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru yn arwain ar ddatblygu polisi caffael ar gyfer sector cyhoeddus Cymru, sy'n cynnwys sicrhau bod gwariant y sector cyhoeddus yn cyfrannu at lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae hyn yn cynnwys gwaith teg ac atal caethwasiaeth fodern ac achosion o gam-drin hawliau dynol mewn cadwyni cyflenwi.

Mae rhagair y Gweinidog yn Natganiad Polisi Caffael Cymru yn nodi:

Rhaid inni sicrhau bod gwariant y sector cyhoeddus yn cyflawni hyd yn oed mwy o werth wrth gyfrannu at ganlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cadarnhaol. Ni fu hi erioed yn bwysicach sicrhau caffael effeithiol a chynaliadwy, ynghyd â phrosesau llwyddiannus ar gyfer darparu gwaith, nwyddau a gwasanaethau y mae pawb yn dibynnu arnynt.

Mae cyflawni'r uchelgais hon yn dibynnu ar nodi a dileu yn effeithiol risgiau o gaethwasiaeth fodern ac o gam-drin gweithwyr o fewn cadwyni cyflenwi sector cyhoeddus Cymru. 

Ein cadwyni cyflenwi

Mae gan Lywodraeth Cymru berthynas uniongyrchol â chyflenwyr sy'n gweithredu yn bennaf yng Nghymru a'r DU sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau i'r sefydliad ac i'r cyhoedd yng Nghymru.

Yn 2022 i 2023, gwariodd Llywodraeth Cymru  £748 miliwn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith; gwariwyd £406 miliwn ar fframweithiau Cyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Sylwch y gall y ffigurau hyn newid.

Mae prif gadwyni cyflenwi Llywodraeth Cymru yn ymwneud â chynnal a chadw ffyrdd a chyflenwi seilwaith, adeiladu, rheoli cyfleusterau, gwasanaethau prynu cyfryngau, gwasanaethau addysg a hyfforddiant, gwasanaethau ymchwil ac ymgynghori, a nwyddau a gwasanaethau TGCh.

Ein polisïau ar gaethwasiaeth a masnachu pobl

Ystyr caethwasiaeth fodern yw camfanteisio difrifol ar bobl er budd personol neu fasnachol. Cyflawnir hyn drwy ddulliau gan gynnwys masnachu pobl, bygythiadau o drais, llafur gorfodol, caethwasanaeth oherwydd dyledion ac atafaelu dogfennau. Mae sawl ffurf wahanol ar gaethwasiaeth fodern gan gynnwys camfanteisio ar weithwyr, sy'n llwyddo i gyrraedd cadwyni cyflenwi ein nwyddau a'n gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithredu'n foesegol yn ei holl berthnasoedd gan gymryd camau i nodi ac atal caethwasiaeth fodern mewn meysydd o fewn ei rheolaeth neu ddylanwad uniongyrchol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arferion gwaith teg ac fel cyflogwr mae hi wedi'i hachredu gan y Living Wage Foundation. Yn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru fel cyflogwr a'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithlu Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydym yn credu mai'r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod y rheolwyr a'r undebau llafur yn cydweithio i wella telerau ac amodau. Fel cyflogwr, mae Llywodraeth Cymru yn cadw at ei chyfrifoldebau cyfreithiol a'r ymrwymiadau a nodir yn y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu polisïau a phrosesau i gefnogi ein gallu i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, o fewn ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi, ac mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill. Mae’r rheini'n cynnwys y mesurau canlynol:

Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru

Wedi'i drefnu gan Lywodraeth Cymru, mae Fforwm Gwrthgaethwasiaeth Cymru yn darparu arweinyddiaeth strategol o ran cydlynu gwaith i wrthsefyll caethwasiaeth fodern yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gwaith i atal caethwasiaeth fodern rhag digwydd a gwaith i nodi a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.

Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Cyhoeddwyd y Cod Ymarfer gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2017, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau sy'n llofnodwyr gymryd camau i ddileu arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesol, gan sicrhau bod pob gweithiwr ar bob cam o'r gadwyn gyflenwi yn cael eu trin yn deg. Mae dros 500 o sefydliadau wedi ymrwymo i’r Cod. Ymhlith y sefydliadau sy'n llofnodwyr ac sydd wedi gwreiddio'r Cod yn eu polisïau a'u prosesau mae Heddlu De Cymru (gweler ei Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern) a Chyngor Caerdydd (gweler ei Strategaeth Caffael Cymdeithasol Gyfrifol ar gyfer 2022 i 2027). I gael rhagor o wybodaeth, gweler y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Datganiad Polisi Caffael Cymru

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru yn nodi'r weledigaeth strategol ar gyfer caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru gyda deg egwyddor allweddol yn canolbwyntio ar sicrhau llesiant i Gymru drwy gyflwyno mentrau polisi blaengar. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Egwyddorion Datganiad Polisi Caffael Cymru.

Partneriaeth Gymdeithasol

Mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'i hundebau llafur cydnabyddedig yn seiliedig ar gytundeb partneriaeth sy'n nodi sut mae undebau llafur yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel cyflog, telerau ac amodau, polisïau a gweithdrefnau, a newid sefydliadol.

Prosesau diwydrwydd dyladwy

Mae gan Lywodraeth Cymru bolisïau a systemau ar waith ar draws ein sefydliad a'n cadwyni cyflenwi er mwyn:

  • nodi arferion cyflogaeth amhriodol
  • canfod, asesu a monitro meysydd risg posibl eraill
  • lleihau'r risg o gaethwasiaeth a masnachu pobl
  • amddiffyn chwythwyr chwiban
  • ymchwilio i adroddiadau ar gaethwasiaeth fodern

Ymlyniad cyflenwr wrth ein gwerthoedd a'n moeseg

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu pob ffurf ar gaethwasiaeth fodern. Er mwyn cefnogi'r rhai yn ein cadwyn gyflenwi a'n contractwyr i gydymffurfio â'n gwerthoedd, rydym yn gweithredu yn unol ag egwyddorion cyrchu cyfrifol, gan gynnwys gofyn i'n cyflenwyr sicrhau bod eu his-gontractwyr yn talu gweithwyr o leiaf yr isafswm cyflog sy'n gymwys yn eu gwlad weithredu berthnasol. Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd God Ymddygiad i Gyflenwyr (y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, a ddisgrifir uchod), sy'n amlinellu ein disgwyliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i gyflenwyr gadw at y safonau hyn neu ragori arnynt.

Asesu a rheoli risgiau

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai mewn cadwyni cyflenwi haen is y mae hi’n fwyaf agored i'r risg o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl, lle gallai cynhyrchion a gaffaelir o bosibl gynnwys llafur mewn rhanbarthau lle gallai amddiffyniad rhag achosion o dorri hawliau dynol fod yn gyfyngedig. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • gwasanaethau rheoli cyfleusterau
  • caledwedd TGCh (ee gliniaduron, ffonau symudol ac argraffwyr)
  • llafur a deunyddiau ar gyfer adeiladu
  • cynhyrchu deunyddiau crai ar gyfer dodrefn

Yn gyffredinol, mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod risgiau o gaethwasiaeth fodern yn ein sylfaen gyflenwi uniongyrchol yn debygol o fod yn gymharol isel.

Y camau sydd wedi'u cymryd hyd yma

Er mwyn mynd i'r afael â'r risgiau o gaethwasiaeth fodern yn ei chadwyni cyflenwi, mae Llywodraeth Cymru wedi:

  • cyfleu'r polisi a'r dull gweithredu o ran caffael cynaliadwy a moesegol yn ystod y broses geisiadau ac mewn digwyddiadau i gyflenwyr
  • amlinellu disgwyliadau bod ein cyflenwyr yn ymrwymo i'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac yn hyrwyddo hyn drwy eu cadwyn gyflenwi
  • ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr gydymffurfio â'u rhwymedigaethau o ran cyhoeddi datganiadau caethwasiaeth a masnachu pobl, cesglir data ar gydymffurfiaeth drwy ein gwasanaeth dadansoddi gwariant
  • ymgorffori gofynion caffael cynaliadwy a moesegol mewn trefniadau rheoli contractau a dogfennau
  • ei gwneud yn ofynnol i gontractau cyflenwyr safonol gynnwys camau gweithredu posibl petai'r cyflenwr yn gysylltiedig â chaethwasiaeth fodern neu fod amheuaeth o hynny

Hyfforddiant

Er mwyn sicrhau lefel uchel o ddealltwriaeth o'r risgiau o gaethwasiaeth fodern yn ein busnes, yn ein cadwyni cyflenwi ac yn ein partneriaid busnes, mae Llywodraeth Cymru yn darparu hyfforddiant perthnasol. O dan ein Cod Ymddygiad i Gyflenwyr, rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'n cyflenwyr ddarparu hyfforddiant rheolaidd a pherthnasol i'w staff a'u cyflenwyr a'u darparwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu'n rheolaidd hyfforddiant a sesiynau ymwybyddiaeth caethwasiaeth fodern yn allanol, a hynny ar ei phen ei hun ac mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Mae'r hyfforddiant hwn yn tynnu sylw at arwyddion o gaethwasiaeth fodern a sut i roi gwybod am bryderon, gan gynnwys cysylltu â'r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfathrebiadau a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth mewnol rheolaidd mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern.

Gweithgareddau a chamau gweithredu arfaethedig

Mae gan uwch-swyddogion gyfrifoldeb cyffredinol am y maes hwn a bydd camau'n cael eu cymryd i wneud y canlynol: 

  • adolygu mesurau sydd ar waith, a'u cryfhau pan fo angen, i nodi ac asesu'n gyson y risgiau posibl mewn cadwyni cyflenwi
  • llunio polisi ysgrifenedig ar gyflogaeth foesegol a chyfleu'r polisi ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a'i chadwyni cyflenwi
  • hyrwyddo'r dulliau y gellir eu defnyddio i godi amheuon o arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol
  • darparu hyfforddiant a/neu sesiynau codi ymwybyddiaeth priodol i staff mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth foesegol
  • cynnal ein hymrwymiad i sicrhau bod ein cyflenwyr yn cael eu talu'n brydlon
  • archwilio sut rydym yn adnabod ac yn monitro arferion cyflogaeth cyflenwyr risg uchel

Llofnodwyd

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog.

Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol.

Cymeradwywyd y Datganiad Caethwasiaeth Fodern hwn ar 13 Gorffennaf 2023.