Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn gwneud gwelliannau i goridor yr A470 a’r M4.

Statws:
Wedi ei gynllunio
Rhanbarth / Sir:
de-ddwyrain
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam rydym yn gwneud y gwaith

Mae tagfeydd traffig ar y ffyrdd hyn yn golygu bod amseroedd teithiau yn hirach.

Mae materion eraill yn cynnwys:

  • llawer o ddefnydd o geir preifat
  • cofnodion damweiniau gwael
  • llygredd sŵn
  • llygredd traffig sy’n effeithio ar ansawdd aer
  • llwybrau beicio a cherdded sy’n is na’r safon

Mae astudiaeth cam 2 WeITAG yn argymhell ymyriadau mawr i ddatrys y problemau. Mae hyn yn cynnwys y gwaith uwchraddio Metro a gynlluniwyd i rwydwaith rheilffyrdd Cledrau’r Cymoedd. Dylai’r gwaith uwchraddio hwn annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Nododd astudiaethau hefyd yr angen am welliannau ar yr A470 a’r M4. Dylai’r cynigion hyn reoli’r materion uchod.

Hynt y gwaith

Rydym wedi nodi gwelliannau ar gyfer y ffyrdd hyn.

Ar goridor yr A470 gallai’r gynigion gynnwys:

  • arwyddion newydd
  • lledaenu’r ffyrdd ymuno ac ymadael i leihau ciwiau
  • gwella cysylltiadau i feicwyr a cherddwyr, gan gynnwys croesfannau ar Gyfnewidfa’r A470 yn Nantgarw a Chyfnewidfa Ffynnon Taf
  • ychwanegu trydedd lôn lle y bo’n bosibl i’r A470 rhwng Nangarw a Coryton
  • defnydd gwell o lonau ar yr A470 i helpu cerbydau sy’n ymadael
  • lleihau’r terfyn cyflymder ar yr A470 o Bontypridd i Coryton i wella ansawdd aer a diogelwch ffyrdd
  • mwy o arwyddion gyda negeseuon ynghylch problemau traffig cyfredol

Ar goridor yr M4 gallai’r cynigion gynnwys:

  • gwella gwaith lledu ar gyffordd 34 yr M4
  • lledu lonydd ymuno cyffordd 33 yr M4
  • bydd gwaith yn cael ei wneud ar y lonydd tua’r dwyrain i helpu lefelau’r cerbydau sy’n ymadael rhwng cyffordd 33 a chyffordd 34 yr M4
  • mwy o arwyddion gyda negeseuon ynghylch problemau traffig cyfredol

Mae potensial ar gyfer gwaith Metro mwy hirdymor a gwaith trafnidiaeth gyhoeddus arall.

Y camau nesaf

Byddwn yn cynnal astudiaethau cam 3 WeITAG i lunio’r achos busnes a fydd o gymorth inni benderfynu pa gynlluniau fydd yn gwella llif cerbydau.

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau