Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n esbonio beth yw’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) a’r prosesau cysylltiedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Proses adolygu unigol yw’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) sy’n ymgorffori’r holl adolygiadau yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau y gall teuluoedd yr effeithiwyd arnynt ddisgwyl proses adolygu gyflym a thrylwyr. Mae’r ADUS yn dileu’r angen i deuluoedd gymryd rhan mewn sawl adolygiad. Bydd hyn yn lleihau’r trawma a’r amser cyn cael penderfyniad. 

Mae angen i’r meini prawf ar gyfer ADUS fodloni un o’r canlynol:

  • Adolygiad Ymarfer Oedolion 
  • Adolygiad Ymarfer Plant 
  • Adolygiad Dynladdiad Domestig 
  • Adolygiad Dynladdiad Iechyd Meddwl 
  • Adolygiad Dynladdiad Arfau Bygythiol 

Mae’r ADUS yn dod ag asiantaethau ac unigolion sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad i mewn i amgylchedd ddysgu ddiogel er mwyn: 

  • adeiladu gwell dealltwriaeth o’r hyn ddigwyddodd yn ystod digwyddiad a pham 
  • gwella dealltwriaeth o effaith gweithredoedd sefydliadau 
  • ystyried pa un ai a fyddai gweithredoedd gwahanol wedi arwain at ganlyniadau gwahanol ar gyfer y plentyn neu’r oedolyn mewn perygl
  • nodi unrhyw gyfleoedd dysgu ar gyfer y dyfodol 
  • darparu Cynllun Gweithredu clir ar gyfer gwella’r gwasanaeth

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.

Y broses ADUS

Mae’r broses ADUS yn cynnwys y canlynol: 

  • yn dilyn digwyddiad, mae cyfeiriadau’n mynd i Uned Fusnes y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol perthnasol 
  • cyfarfod o’r grŵp adolygu achosion er mwyn trafod y digwyddiad
  • mae Cadeirydd y Bwrdd yn penderfynu pa un ai a fydd ADUS yn digwydd 
  • os yw’n briodol, mae Cadeirydd yn argymell Cadeirydd ac Adolygw(y)r o’r Rhestr Gymeradwy 
  • hysbysu Llywodraeth Cymru pryd bynnag y cynhelir ADUS 
  • cynnwys teuluoedd y dioddefydd a chwrdd ag Adolygwyr er mwyn clywed y ffeithiau 
  • bydd ymarferwyr a weithiodd gyda’r dioddefydd cyn y digwyddiad yn cynnal Digwyddiad Dysgu. Bydd yr adroddiad sy’n dilyn yn cynnwys argymhellion a Chynllun Gweithredu. Bydd y Grŵp Adolygu Achosion yn cymeradwyo’r Cynllun Gweithredu 
  • bydd y Cynllun Gweithredu’n cael ei osod yn Ystorfa Ddiogelu Cymru (YDdC) ochr yn ochr â’r adroddiad ADUS
  • bydd manylion adroddiad YDdC yn sicrhau bod arferion mor effeithlon â phosibl

Adroddiad Adolygiad Diogelu Unedig Sengl 

Cynllun gweithredu 

Mae’r canlynol yn monitro’r cynllun gweithredu:

  • y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol perthnasol (diogelu.cymru)
  • Partneriaethau Diogelwch Cymunedol 
  • Canolfan Cydlynu Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl 
  • Bwrdd Goruchwylio Dynladdiadau Arfau Bygythiol 

Argymhellion 

Mae’r Ganolfan Gydlynu ADUS yn rhannu’r argymhellion ledled Cymru. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu er mwyn gwella arferion. Mae Ystorfa Ddiogelu Cymru (YDdC) yn dal yr holl adroddiadau. 

Bydd adroddiadau’n:

  • hysbysu dysgu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol 
  • hysbysu cyflenwi hyfforddiant ar gyfer Cymru gyfan
  • rhannu gwybodaeth, argymhellion, a dysgu thematig. Bydd hyn yn dylanwadu ar lunio polisïau ac yn diogelu cenedlaethau’r dyfodol 

Digwyddiad dysgu

Mae’r digwyddiad dysgu’n rhan hollbwysig o’r ADUS oherwydd mae’n sicrhau bod: 

  • llais ymarferwyr yn cyfrannu i’r adolygiad 
  • ymarferwyr yn medru clywed safbwyntiau’r teulu yn ystod y digwyddiad. A, gydag ymarferwyr eraill sydd wedi gweithio gyda'r plentyn a/neu’r oedolyn mewn perygl, a’i deulu 
  • ymarferwyr yn medru adlewyrchu ar yr hyn ddigwyddodd a nodi dysgu ar gyfer arfer yn y dyfodol 

Yn dilyn y digwyddiad, mae’r adolygw(y)r yn ymgysylltu ag Uned Fusnes y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol. Bydd yr adroddiad drafft sy’n deillio o hynny’n cynnwys yr holl ddysgu hyd yn hyn ac yn cael ei drafod gyda’r panel adolygu.

Sut y bydd y broses ADUS yn gwella’r ffordd y mae adolygiadau’n cael eu trin yng Nghymru

Bydd gan ganlyniadau’r broses ADUS effeithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar arferion ledled Cymru, gan gynnwys: 

  • Llai o drawma ar gyfer testun yr adolygiad, ei deulu ac unigolion allweddol eraill. [dolen i esboniad o beth yw’r rhain]. Bydd y broses yn dod â diwedd i’r angen i deuluoedd gymryd rhan mewn sawl adolygiad. 
  • Galluogi rhannu gwybodaeth, argymhellion a dysgu thematig i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol. 
  • Llai o gost i’r sector cyhoeddus.
  • Bydd gwneuthurwyr polisi, academyddion, llywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol yn defnyddio YDdG. Bydd yr adroddiadau ADUS yn helpu i wella’r sylfaen dystiolaeth i ddwyn newidiadau i arferion. 
  • Gwell goruchwyliaeth genedlaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar argymhellion a nodwyd yn ystod adolygiadau. Bydd y rhain yn berthnasol ar gyfer gwasanaethau datganoledig ac anatganoledig yng Nghymru. Bydd yn nodi gwasanaeth ymyrraeth cenedlaethol gwell a gefnogir gan dystiolaeth.

Y Bwrdd Gweinidogol ADUS

Mae’r bwrdd gweinidogol yn darparu goruchwyliaeth strategol a gwleidyddol o Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl. Mae’n dwyn agweddau diogelu datganoledig ac anatganoledig o dan un model llywodraethu. Mae’n ystyried materion cenedlaethol ac yn darparu ymateb Cymru gyfan pan fod angen.

Mae’r Bwrdd yn rhoi cymorth ar gyfer newidiadau deddfwriaethol. Mae’n sicrhau adnoddau angenrheidiol ac yn gweithredu a rhannu arfer gorau. Mae’r Bwrdd hefyd yn gweithredu fel llwyfan ar gyfer dwysau materion rhanbarthol sydd angen ymateb cenedlaethol neu DU.

Y Ganolfan Gydlynu ADUS 

Mae’r Ganolfan Gydlynu ADUS yn cefnogi creu adolygiadau er mwyn cyflawni dysgu. Y mae hefyd yn sicrhau gweithredu dysgu er mwyn diogelu cymunedau ymhellach.

Mae’r Ganolfan Gydlynu’n rhoi cyngor ac arweiniad i Fyrddau Diogelu Rhanbarthol. Mae’r adroddiadau ADUS yn cefnogi arfer da a chysondeb ledled Cymru. Mae’r Ganolfan yn ymgysylltu â’r canlynol: 

  • Unedau Busnes Byrddau Diogelu Rhanbarthol 
  • Partneriaethau Diogelwch Cymunedol 
  • Llywodraeth Cymru 
  • Cynrychiolwyr y Swyddfa Gartref 

Byddant yn sicrhau yr ymgymerir ag argymhellion a Chynlluniau Gweithredu.

Mae’r Ganolfan Gydlynu’n diweddaru a chyhoeddi’r Rhestr Adolygwyr a Chadeiryddion Cymeradwy. Mae hyn yn cynorthwyo Byrddau Diogelu Rhanbarthol wrth ddewis Cadeirydd ac Adolygwr addas.  

Cofrestrir ar gyfer YDdC drwy’r Ganolfan Gydlynu. Mae hyn yn rhoi mynediad i ymarferwyr i YDdC ar gyfer dibenion ymchwil. Mae’r Ganolfan yn cyhoeddi adroddiadau thematig a gynhyrchir gan YDdC er mwyn hwyluso dysgu a gwella arferion. Mae’n cyhoeddi gwybodaeth i sicrhau bod ymarferwyr yn gyfarwydd â’r prosesau ADUU diweddaraf. 

Mae’r Ganolfan Gydlynu’n cydlynu Digwyddiadau Dysgu. Mae hyn yn sicrhau cysondeb, felly mae ymarferwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl bob tro. Mae’r Ganolfan Gydlynu’n gweinyddu hyfforddiant proffesiynol er mwyn cynnal cysondeb.

Y mae’n gyfrifol hefyd am y rhaglen dysgu a datblygu ADUS. Ei nod yw creu gweithlu sy’n darparu proses adolygu unigol a rhannu dysgu a hyfforddiant sy’n seiliedig ar adolygu.

Ystorfa Ddiogelu Cymru

Mae Ystorfa Ddiogelu Cymru (YDdC) yn cadw adolygiadau ac yn dethol dysgu ohonynt. Mae YDdC yn system unigryw sy’n defnyddio methodolegau cyfrifiadureg a  gwyddor gymdeithasol. Mae’n ceisio gwella arferion diogelu gweithwyr proffesiynol yn y dyfodol.

Geirfa

Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS)

Un adolygiad er mwyn cwmpasu’r holl adolygiadau diogelu yng Nghymru. Y nod yw sicrhau bod y teulu yr effeithiwyd arno wrth galon proses adolygu hwylus a thrylwyr. 

Ystorfa Ddiogelu Cymru (YDdC)

Mae storfeydd YDdC yn adolygu ac yn dethol dysgu ohonynt. 

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol (BDRh)

Mae 6 bwrdd diogelu rhanbarthol yng Nghymru. O dan Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015, mae gan Fyrddau Diogelu Plant/Oedolion Rhanbarthol gyfrifoldeb statudol i ymgymryd ag Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion amlasiantaeth. Mae’r broses ADUU yn bodloni’r cyfrifoldeb hwn.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC)

Mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r ‘awdurdodau cyfrifol’, sef: 

  • yr heddlu 
  • awdurdodau lleol 
  • awdurdodau tân ac achub 
  • y gwasanaeth prawf
  • y gwasanaeth iechyd 

Mae’r awdurdodau cyfrifol yn cydweithio er mwyn amddiffyn eu cymunedau lleol a helpu pobl i deimlo’n fwy diogel. 

Grŵp Adolygu Achosion (GAA)

Mae’r GAA yn trafod cyfeiriadau ADUU ac yn cyflwyno argymhellion i’r BDRh o ran pa un ai a oes angen cynnal adroddiad. Os yw ADUU yn briodol, maent yn argymell Cadeirydd panel ac adolygwyr o’r Rhestr Gymeradwy. Mae’r GAA yn cymeradwyo’r adroddiad drafft a’r Cynllun Gweithredu cyn iddynt gael eu hychwanegu i YDdC. 

Adolygiad Ymarfer Plant (AYP)

Cynhelir Adolygiadau Ymarfer Plant mewn digwyddiadau difrifol hysbys neu dybiedig o gam-drin neu esgeuluso plentyn. Dylai Adolygiadau Ymarfer Plant nodi gwelliannau i arferion er mwyn symud ymlaen. Wedyn caiff y dysgu o adolygiadau ei gynnwys mewn arferion presennol. 

Adolygiad Ymarfer Oedolion (AYO)

Cynhelir Adolygiadau Ymarfer Oedolion mewn achosion tybiedig o ‘oedolyn mewn perygl’ yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, sy’n arwain at ddigwyddiad difrifol. Y prif ddiben yw nodi gwelliannau i asiantaethau sy’n gyfrifol am warchod oedolion.

Cynhelir Adolygiadau Ymarfer Oedolion pan amheuir ‘oedolyn mewn perygl’ yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso wedi arwain at ddigwyddiad difrifol. Prif ddiben hyn yw nodi unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud i asiantaethau sy’n gweithio tuag at warchod oedolion. 

Adolygiad Dynladdiad Domestig (ADD)

Cynhelir Adolygiadau Dynladdiad Domestig gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol pan fydd rhywun yn marw o ganlyniad i gam-drin domestig gwirioneddol neu dybiedig. Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol: 

  • unrhyw unigolyn 16 oed neu hŷn sydd wedi, neu sy’n ymddangos fel pe bai wedi, marw drwy drais 
  • cam-drin 
  • esgeulustod gan berthynas, aelod o’r un cartref, neu bartner presennol/cyn-bartner

Pan fydd dynladdiad domestig wedi digwydd yng Nghymru, bydd yn sbarduno ADUU. 

Mae Adolygiadau Dynladdiad Domestig yn cael eu cynnal gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol pan mae rhywun yn marw o ganlyniad i gam-drin domestig gwirioneddol neu dybiedig. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer unrhyw unigolyn 16 oed neu hŷn sydd wedi, neu sy’n ymddangos fel pe bai wedi, marw drwy drais, cam-drin neu esgeulustod gan berthynas, aelod o’r un tŷ, neu bartner presennol/cyn-bartner. Pan fydd dynladdiad domestig wedi digwydd yng Nghymru, cynhelir ADUS.

Adolygiad Dynladdiad Iechyd Meddwl (ADIM)

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal Adolygiadau Dynladdiad Iechyd Meddwl. Mae hyn yn digwydd pan fydd unigolyn sy’n hysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl yn cyflawni dynladdiad. Mae AGIC yn ystyried y gofal a roddwyd i’r unigolyn cyn y digwyddiad er mwyn cyflwyno argymhellion. Mae hyn yn rhan o’r broses ADUS yng Nghymru. 

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnal Adolygiadau Dynladdiad Iechyd Meddwl yng Nghymru. Fe’u cynhelir pan mae dynladdiad wedi’i gyflawni gan rywun sy’n hysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae AGIC yn ystyried y gofal a roddwyd i’r unigolyn cyn y digwyddiad er mwyn cyflwyno argymhellion. Gwneir hyn yn y gobaith y gellir atal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Mae hyn yn rhan o’r broses ADUU yng Nghymru.

Adolygiad Dynladdiad Arfau Bygythiol (ADAB)

Mae ADAB yn digwydd pan mae arf bygythiol yn gysylltiedig â marwolaeth unigolyn 18 oed neu hŷn. Mae hyn yn cynnwys “unrhyw eitem sydd wedi’i wneud neu ei addasu ar gyfer achosi niwed i’r unigolyn, neu sydd wedi’i fwriadu gan yr unigolyn sydd ag ef i gael ei ddefnyddio felly ganddo, neu gan rywun arall.” Mewn achosion o’r fath, bydd hyn yn rhoi cychwyn ar ADUS. 

Cynhelir ADAB pan mae marwolaeth unigolyn 18 oed neu hŷn yn digwydd gan ddefnyddio arf bygythiol. Mae hyn yn cynnwys 'unrhyw eitem sydd wedi’i wneud neu ei addasu ar gyfer achosi niwed i’r unigolyn, neu sydd wedi’i fwriadu gan yr unigolyn sydd ag ef i gael ei ddefnyddio felly ganddo, neu gan rywun arall.' Pan mae Dynladdiad Arf Bygythiol wedi digwydd yng Nghymru, cynhelir ADUS.

Rhestr o dalfyriadau

ADUU - Adolygiad Diogelu Unedig Unigol 

YDdC - Ystorfa Ddiogelu Cymru 

PDC - Partneriaeth Diogelwch Cymunedol 

BGC - Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 

BPRh - Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol

BDRh - Bwrdd Diogelu Rhanbarthol 

UFDRh - Uned Fusnes Diogelu Rhanbarthol 

GAA - Grŵp Adolygu Achosion 

AYP - Adolygiad Ymarfer Plant 

AYO - Adolygiad Ymarfer Oedolion 

ADD - Adolygiad Dynladdiad Domestig 

ADAB - Adolygiad Dynladdiad Arfau Bygythiol 

TEMCDThRh - Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 

BDAC - Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol 

LlC - Llywodraeth Cymru 

CLlLC - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

SG - Swyddfa Gartref 

PC - Prifysgol Caerdydd 

CG - Cylch Gorchwyl

Cyhoeddiadau 

Gweler rhestr o ymchwil diogelu y gall Adolygwyr ei ddefnyddio i hysbysu Adolygiadau Diogelu Unedig Unigol yn y dyfodol:

Adolygiad Diogelu Unedig Unigol: pecyn cymorth

Cysylltiadau

Adolygiad Diogelu Unedig Sengl

SUSRWales@llyw.cymru

Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Gwefan: Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

Gwefan: Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

CYSUR yw Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

E-bost: cysur@pembrokeshire.gov.uk

CWMPAS yw Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru

E-bost: cwmpas@pembrokeshire.gov.uk

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Gwefan: Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

E-bost: regionalsafeguarding@denbighshire.gov.uk

Ffôn: 01824 712903

Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

Gwefan:  Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg

E-bost: wgsb@npt.gov.uk

Ffôn: 01639 763021

Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg

Gwefan: Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg

E-bost: ctmsafeguarding@rctcbc.gov.uk

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg

Gwefan: Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a Bro Morgannwg

E-bost: cardiffandvalersb@cardiff.gov.uk

Ffôn: 02922 330880 / 02922 330883

Diogelu Gwent

Gwefan:  Diogelu Gwent

E-bost: gwentsafeguarding@caerphilly.gov.uk

Ffôn: 01443 864373 / 864546 / 864670

Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Gwefan: Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Ffurflen gyswllt: https://cymunedaumwydiogel.cymru/cysylltu/