Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn.
Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid
Mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.
Mae'n berthnasol i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn.
Pa wastraff sydd angen ei wahanu
Mae angen gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu ar wahân:
- Bwyd
- Papur a cherdyn
- Gwydr
- Metelau, plastig a chartonau
- Tecstilau sydd heb eu gwerthu
- Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)
Mae hefyd gwaharddiad ar:
- Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
- Gwastraff a gesglir ar wahân sy'n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
- Pob gwastraff pren sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
I bwy mae'r gyfraith yn berthnasol
Mae angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Safleoedd amaethyddol
- Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
- Meysydd sioe
- Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
- Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
- Trafnidiaeth - gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
- Cartrefi gofal a nyrsio
- Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
- Safleoedd adeiladu
- Ffatrïoedd a warysau
- Garejis ceir
- Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
- Canolfannau garddio
- Adeiladau treftadaeth
- Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
- Swyddfeydd a gweithdai
- Mannau addoli
- Carchardai
- Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored
- Manwerthu
Ysbytai GIG ac ysbytai preifat yw'r unig weithleoedd fydd yn cydymffurfio o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Mae'r Cod Ymarfer yn rhoi gwybodaeth fanylach i chi am y gyfraith ailgylchu newydd yn y gweithle a sut y dylid cydymffurfio. Mae'n bwysig eich bod yn darllen hyn ochr yn ochr â'r canllawiau.
Mae gan wefan Busnes o Ailgylchu WRAP ganllawiau ac adnoddau cyfathrebu y gellir eu lawrlwytho am ddim ar gyfer eich gweithle.
Pam mae'r gyfraith wedi newid
Rydym am wella ansawdd y gwaith ailgylchu a chynyddu faint sy’n cael ei ailgylchu o weithleoedd. Mae hwn yn gam pwysig arall tuag at fod yn ddiwastraff, lleihau ein hallyriadau carbon a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Rydym am barhau i ddefnyddio deunyddiau cyhyd ag y bo modd. Gyda chostau deunyddiau yn codi, bydd parhau i ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel yn helpu ein heconomi ac yn cefnogi ein cadwyni cyflenwi. Er enghraifft, drwy osgoi treth tirlenwi a chreu cyfleoedd gwaith.
Ni yw'r gorau eisoes yn y DU ar gyfer ailgylchu domestig a'r trydydd gorau yn y byd.
Mae'r rheoliadau yn cefnogi'r camau gweithredu o strategaeth economi gylchol Llywodraeth Cymru Mwy nag ailgylchu.