Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth er mwyn helpu ysgolion i ddatblygu eu darpariaeth ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd sy'n ategu'r canllawiau ‘Ysgolion Bro’. Mae diffiniadau o'r derminoleg allweddol a ddefnyddir yn y canllawiau hyn ar gael yn y canllawiau ‘Ysgolion Bro’.

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn nodi rhai o'r ffyrdd y gall ysgolion ddatblygu eu darpariaeth ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd. Maent yn cynnig trosolwg i annog trafodaeth a dolenni i ganllawiau perthnasol eraill lle y bo'n briodol. Caiff adnoddau ategol pellach eu datblygu i ategu'r canllawiau hyn drwy waith ymgysylltu parhaus â'r sector.

Mae ymgysylltu â theuluoedd yn 1 o 3 elfen y canllawiau Ysgolion Bro ac mae'n darparu man cychwyn ar gyfer datblygu dull mewn perthynas ag Ysgolion Bro. Mewn Ysgol Fro, bydd teuluoedd yn teimlo bod croeso iddynt, bod yr ysgol yn gwrando arnynt a'u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Caiff eu hanghenion, ac anghenion eu plant, eu deall a'u diwallu. Maent yn cael eu hannog i chwarae rhan weithredol yn nysgu eu plant a'u cefnogi i ddefnyddio a gwella'r amgylchedd dysgu yn y cartref yn y ffordd orau, gan gynnwys nodweddion ffisegol y cartref, ond hefyd ansawdd y cymorth dysgu y maent yn ei ddarparu eu hunain. 

Dylai ysgolion annog pob teulu i gymryd rhan yn y gwaith maent yn ei wneud ond dylent ganolbwyntio'n arbennig ar gefnogi teuluoedd o gartrefi incwm is. Dangoswyd bod estyn allan i deuluoedd a gweithio gyda nhw yn cael effaith gadarnhaol ar ymdrechion i oresgyn effaith anfantais economaidd-gymdeithasol ar gyrhaeddiad addysgol (Jeynes, 2015; See a Gorard, (2015)) a dylai fod yn rhan flaenllaw o waith ysgolion.

“Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad wrth wraidd ein cenhadaeth genedlaethol ym maes addysg. Dyma'r unig ffordd y gallwn lwyddo yn ein nod o gyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb.” (Jeremy Miles, (2022))

Cefnogi ymgysylltiad cadarnhaol â theuluoedd

Mae 3 dull a all helpu i gefnogi ymgysylltiad cadarnhaol â theuluoedd:

  • dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, lle y gwrandewir ar deuluoedd ac maent yn cael eu gwerthfawrogi
  • dull sy’n seiliedig ar gryfderau, lle caiff cryfderau a sgiliau teuluoedd eu cydnabod a'u datblygu
  • dull sy’n ystyriol o drawma, lle rydym yn cydnabod effaith eang trawma ac yn deall ac yn hyrwyddo'r llwybrau gwella posibl

Pan fydd ysgolion yn buddsoddi'r amser, yr ymrwymiad a'r adnoddau i ymgysylltu â theuluoedd, caiff effaith gadarnhaol ar y canlynol:

  • cydberthnasau ehangach rhwng ysgolion a theuluoedd
  • hyrwyddo amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant
  • cefnogi dealltwriaeth o gwricwlwm ysgol a chyfranogiad yn y cwricwlwm hwnnw, gan helpu i gefnogi cynnydd o ran dysgu a dyheadau
  • ymddygiad
  • presenoldeb
  • cyflawniad
  • gweithgareddau y tu allan i'r ysgol
  • cydlyniant cymunedol
  • llesiant emosiynol a chorfforol
  • sicrhau bod cymorth a gwasanaethau yn addas at y diben

Dull ysgol gyfan o ymgysylltu â theuluoedd

Mae datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd yn gofyn am ddull ysgol gyfan sy’n:

  • strategol
  • cael ei rannu gan bob rhanddeiliad
  • cael ei gyd-greu â theuluoedd a chymunedau, gan adlewyrchu eu gwerthoedd diwylliannol a'u hanghenion

Mae'n bwysig ystyried y pwyntiau canlynol wrth ddatblygu dull ysgol gyfan.

Arweinyddiaeth

Mae cefnogaeth y pennaeth, uwch-arweinwyr a/neu lywodraethwyr yn hanfodol er mwyn i strategaethau lwyddo. Yn ogystal â hynny mae angen arweinyddiaeth gydweithredol ymhlith rhanddeiliaid er mwyn sicrhau llais, penderfyniadau a nodau ar y cyd.

Mae rhagor o wybodaeth am arweinyddiaeth ar gyfer Ysgol Bro ar gael yn ‘Thema 1: Arweinyddiaeth ar gyfer system sy’n gwella ei hun Adnoddau 1–7’ y pecyn cymorth ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd.

Aelod dynodedig o staff

Lle bydd ysgolion yn nodi aelod o staff, neu dimau o staff, i arwain y trefniadau ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd, bydd eu hymarfer yn fwy effeithiol (Goodall, J. a Vorhaus, J. 2011. Review of Best Practice in Parental Engagement. Llundain: Yr Adran Addysg).

Rydym wedi mabwysiadu'r teitl swyddog ymgysylltu â theuluoedd i ddisgrifio unrhyw un sy'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a'r gymuned y mae'r ysgol yn eu gwasanaethu. Mae rhagor o wybodaeth am swyddogion ymgysylltu â theuluoedd, gan gynnwys at bwy mae’r teitl hwn yn cyfeirio, ar gael yn yr adran ‘Y swyddog ymgysylltu â theuluoedd’.

Cydweithredu

Mae'r gallu i fabwysiadu arweinyddiaeth gydweithredol yn hanfodol er mwyn creu partneriaethau llwyddiannus ag asiantaethau a gwasanaethau eraill. Mae'r cydweithredu hwn yn gofyn am weledigaeth gyfunol i'r ysgol, teuluoedd a chymunedau.

Cynllunio a gwerthuso

Dylai ymgysylltu â theuluoedd:

  • fod yn rhan o drefniadau ehangach yr ysgol ar gyfer cynllunio gwelliannau
  • cefnogi'r dysgu a'r addysgu yn yr ysgol
  • gael ei gynnwys fel rhan o ymarfer hunanwerthuso ehangach yr ysgol, a dylid monitro effaith y strategaethau a fabwysiadwyd a mesur yr effaith honno o ran effeithiolrwydd

Rhagor o wybodaeth am sefydlu dull ysgol gyfan

Mae rhagor o wybodaeth am sefydlu dull ysgol gyfan ar gael yn ‘Thema 2: Sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer YGaTH Adnoddau 1–2’ y pecyn cymorth ymgysylltu â’r gymuned a theuluoedd.

Cyfathrebu

Mae ysgolion a theuluoedd yn cytuno mai cyfathrebu dwy ffordd effeithiol yw'r sail ar gyfer meithrin cydberthnasau cadarnhaol. Mae ysgolion sy'n meithrin cydberthnasau ystyrlon â theuluoedd yn cyfathrebu â nhw'n rheolaidd mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan sicrhau bod llif gwybodaeth da i'r ddau gyfeiriad. Maent yn sicrhau bod cyfleoedd dilys i gyfathrebu sy'n helpu i gyfnewid gwerthoedd a gwybodaeth â'i gilydd (Arnot, M. a Schneider, C. 2018, ‘Transactional school-home-school communication: Addressing the mismatches between migrant parents' and teachers' views of parental knowledge, engagement and the barriers to engagement’ ).

Mae ymgynghori â theuluoedd am y ffyrdd mwyaf effeithiol o gyfathrebu yn bwysig. Yn ôl adroddiad gan Estyn, er bod y rhan fwyaf o ysgolion eisoes yn defnyddio amrywiaeth o ffyrdd o gyfathrebu â rhieni, dim ond nifer bach ohonynt sy'n ymgynghori â rhieni am eu dewisiadau o ran cyfathrebu (Estyn, Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. 2018. Cynnwys rhieni: Cyfathrebu rhwng ysgolion a rhieni plant oedran ysgol).

Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygu cyfathrebu dwy ffordd effeithiol ar gael trwy’r dolenni canlynol:

Cwricwlwm i Gymru

Ers mis Medi 2022, fel rhan o Cwricwlwm i Gymru, mae dyletswydd ar benaethiaid ysgolion a gynhelir i wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth i rieni am gynnydd dysgwyr. Mae'r gofynion newydd o ran rhannu gwybodaeth yn cydnabod y rôl bwysig y gall rhieni ei chwarae wrth gau'r bwlch rhwng yr ysgol a'r cartref ac wrth helpu dysgwyr i wneud cynnydd. Bydd gan benaethiaid yr hyblygrwydd i benderfynu ar y fformat mwyaf priodol ar gyfer cyfathrebu â rhieni a chânt eu hannog i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu er mwyn ymgysylltu â rhieni yn y ffordd orau a sicrhau eu bod yn deall ac yn cymryd rhan cymaint â phosibl.

Y swyddog ymgysylltu â theuluoedd

Ar hyn o bryd, cyfeirir at staff dynodedig sy'n gweithio gyda rhieni gan ddefnyddio gwahanol deitlau, gan ddibynnu ar eu cyd-destun. Gall y rhain gynnwys:

  • swyddog cyswllt rhieni
  • gweithiwr bugeiliol cymunedol
  • gweithiwr cymorth teuluol
  • swyddog llesiant

Rydym wedi penderfynu defnyddio'r teitl Swyddog ymgysylltu â theuluoedd i ddisgrifio unrhyw un sy'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a'r gymuned y mae'r ysgol yn eu gwasanaethu.

Mewn llawer o achosion, caiff rôl y swyddog ymgysylltu â theuluoedd ei chyflawni gan aelod o staff yr ysgol nad yw'n addysgu neu weithiwr prosiect o'r trydydd sector. Ond mewn achosion eraill tîm o staff sy’n cyflawni’r rôl hon.

Mae’r rheini sy’n cyflawni rôl y swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn aml yn adnabod y teuluoedd a'r gymuned leol yn dda a gallant adeiladu ar y cysylltiadau naturiol sydd eisoes ar waith. Y peth pwysicaf, drwy ddefnyddio ffordd o weithio sy'n ystyriol o drawma, yw y bydd ganddynt y sgiliau a'r arbenigedd ym maes hwyluso gwaith teuluol i feithrin y cydberthnasau llawn ymddiriedaeth sydd eu hangen arnynt i weithio gyda theuluoedd.

Un o'r negeseuon cliriaf a phwysicaf sy'n deillio o fwy na 25 mlynedd o waith ymchwil yw bod yn rhaid i waith ymgysylltu â rhieni ymwneud â chyd-destun penodol er mwyn bod yn llwyddiannus (Goodall, 2022). Mae'n bwysig bod swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar gryfderau o weithio â theuluoedd, ac yn dangos esiampl i aelodau eraill o staff o sut i feithrin cydberthnasau da, llawn parch â rhieni (National College for School Leadership 2010).

Mae gwrando ar rieni a theuluoedd a chynnig cyfleoedd iddynt gymryd rhan yn y broses o ddatblygu unrhyw gymorth ac ymyriadau yn bwysig. Gall dadansoddiad o anghenion rhieni helpu'r ysgol i ddeall beth mae'r rhieni eisoes yn ei wneud gyda'u plant ac i nodi'r ffyrdd gorau o'u cynnwys ymhellach yn nysgu eu plant (Goodall, J. a Vorhaus, J. 2011. Review of Best Practice in Parental Engagement. Llundain: Yr Adran Addysg). Bydd hyn yn arwain at ddull wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer pob ysgol. Fel y cyfryw, bydd gan bob ysgol gyfres benodol o flaenoriaethau sy'n gweithredu fel sail ar gyfer ei chynllun neu ei gynllun ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a'r gymuned. Bydd y swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn cydweithio â'r uwch dîm rheolir a staff ehangach yr ysgol i roi'r dyletswyddau allweddol sy'n rhan o'r cynllun hwn ar waith.

Rolau a chyfrifoldebau'r swyddog ymgysylltu â theuluoedd

Mae rhai o rolau a chyfrifoldebau allweddol y swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn cynnwys y canlynol:

  • creu a meithrin cydberthnasau da â theuluoedd y plant a'r bobl ifanc sy'n mynychu'r ysgol
  • sicrhau bod yr ysgol yn groesawgar i deuluoedd a'i bod yn cymryd camau i ddod i'w hadnabod
  • annog a chefnogi cyfranogiad rhieni yn yr ysgol a'u hymgysylltiad yn nysgu eu plant
  • annog deialog effeithiol rhwng rhieni ac athrawon am gynnydd y plant a sut gellir cefnogi'r cynnydd hwnnw gartref
  • hyrwyddo hunan-barch rhieni i'w helpu i feithrin eu sgiliau personol a'u sgiliau rhyngbersonol eu hunain i'r eithaf, a fydd yn eu galluogi i ymateb i anghenion eu teulu drwy gyfathrebu'n agored a rhoi dulliau rhianta da ar waith
  • darparu llwybrau hygyrch y gall rhieni eu defnyddio i fynegi eu barn ac y gellir eu defnyddio i ymgynghori â nhw ar faterion penodol
  • rhannu gwybodaeth am sgiliau gofal plant a rhianta ymarferol, gan nodi'r angen am gymorth, gan gynnwys sut i ddiwallu anghenion emosiynol plant, er enghraifft gosod ffiniau a disgyblaeth gyson
  • hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd ar gyfer dysgu i oedolion a dysgu cymunedol
  • sicrhau bod amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu ar gael sy'n briodol ar gyfer anghenion a dewisiadau'r teulu
  • dilyn protocolau diogelu data a chadw cofnodion a'r holl ddogfennaeth sy'n ymwneud â chyfarfodydd neu gyswllt â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd mewn man cyfrinachol
  • gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, gan sicrhau yr ymgysylltir â grwpiau o deuluoedd sydd o bosibl wedi'u tangynrychioli ym mywyd yr ysgol
  • cynnig cyfleoedd ar gyfer grwpiau cymorth gan gymheiriaid i rieni

Mae'n bwysig bod unrhyw weithgareddau cymorth teuluol yn yr ysgol yn anelu at wella dysgu'r plant fel nod clir a chyson o fewn cyd-destun cwricwlwm ysgol. Felly, dylai fod gan y swyddog ymgysylltu â theuluoedd ffocws clir ar weithio gyda staff yr ysgol i helpu teuluoedd i gefnogi dysgu eu plant gartref. Byddai hyn yn cynnwys:

  • deall sut mae'r teulu yn cefnogi dysgu yn y cartref ar hyn o bryd
  • meithrin dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen ar deuluoedd gan yr ysgol a'r ffordd orau y gall yr ysgol eu cefnogi
  • cyfleu'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi dysgu eu plant gartref i deuluoedd
  • darparu adnoddau i gefnogi'r broses o wella dysgu yn y cartref neu gyfeirio teuluoedd at adnoddau o'r fath sydd ar gael

Cyfranogiad rhieni ac ymgysylltiad rhieni

Gellir categoreiddio'r ffordd y mae ysgolion yn datblygu eu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â rhieni a theuluoedd yn ôl cyfranogiad rhieni â'r ysgol, ag addysg ac â'r dysgu (Goodall, J a Montgomery, C.2014. Parental Involvement to Parental Engagement: A Continuum). Bydd dysgu plant yn y cartref fwyaf effeithiol pan fydd rhieni yn ymgysylltu â'r dysgu hwnnw. Ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i ystyried sut i helpu rhieni i ymgysylltu â dysgu eu plant.

Mae'r gwahaniaeth rhwng cyfranogiad rhieni ac ymgysylltiad rhieni yn bwysig, a chaiff ei gamddehongli'n aml gan ysgolion.

Yng nghyd-destun cyfranogiad rhieni:

  • ystyrir bod rhieni yn helpu'r ysgol
  • mae'r cyfrifoldeb ar yr ysgol
  • mae'r pwyslais ar rieni yn dod i mewn i'r ysgol

Yng nghyd-destun ymgysylltiad rhieni:

  • ystyrir bod rhieni yn cefnogi'r dysgu
  • mae'r cyfrifoldeb ar bob partner
  • mae'r pwyslais ar yr amgylchedd dysgu yn y cartref

Er bod cyfranogiad rhieni yn ddefnyddiol ac y gall fod yn rhan bwysig o ddatblygiad ysgol, ymgysylltiad rhieni yn nysgu eu plant sy'n cael yr effaith fwyaf ar gyflawniad a chanlyniadau. Mae'r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Rhieni (Goodall, 2023) yn adnodd ymarferol a all helpu ysgolion i ystyried eu hymarfer yn erbyn y diffiniadau hyn ac i ddatblygu eu darpariaeth ar gyfer ymgysylltu â rhieni.

Wrth i blant ddatblygu, bydd y ffyrdd y gall rhieni a gofalwyr ymgysylltu â'r ysgol ac â dysgu eu plant yn dod yn wahanol. Mae pethau eraill i'w hystyried wrth feithrin cydberthnasau â rhieni a gofalwyr mewn lleoliad uwchradd er enghraifft, neu mewn lleoliad gwledig daearyddol amrywiol. Fodd bynnag, ni waeth beth yw'r ysgol, y lleoliad neu'r ddarpariaeth, mae ymgysylltu â theuluoedd yn bwysig ac mae'n gwneud gwahaniaeth mawr.

Mae rhagor o wybodaeth am helpu teuluoedd i gefnogi dysgu eu plant mewn ffordd weithredol ar gael yn ‘Thema 4: Helpu rhieni i gefnogi dysg eu plentyn Adnoddau 1–5’ y pecyn cymorth ymgysylltu â'r gymuned a theuluoedd.

Pwysigrwydd rôl y swyddog ymgysylltu â theuluoedd i deuluoedd

Nodwyd bod rôl y swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn effeithiol wrth gau'r bwlch rhwng plant a'u rhieni a'u teuluoedd yng nghyd-destun eu bywyd gartref a staff ysgolion yng nghyd-destun yr ysgol. Mae'n bosibl y bydd llawer o rieni ac aelodau o’r teulu wedi cael profiad addysgol gwael eu hunain ac y byddant o bosibl yn bryderus wrth ymgysylltu â'r ysgol. Gall y swyddog ymgysylltu â theuluoedd helpu i ddeall y ffactorau ehangach hyn a helpu pob rhiant a gofalwr i deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei groesawu a'i gefnogi a bod yr ysgol yn gwrando arno.

Cysylltu â rolau, asiantaethau a lleoliadau eraill

Un agwedd bwysig ar rôl y swyddog ymgysylltu â theuluoedd yw darparu pwynt cyswllt allweddol a chyson i staff yr ysgol a staff o asiantaethau allanol. Fel rhan o'i rôl, gall fod yn ofynnol iddo wneud y canlynol:

  • cydgysylltu ag aelodau o staff yr ysgol mewn perthynas â theuluoedd neu blant fel y bo angen
  • cydgysylltu â'r swyddog presenoldeb a'r swyddog lles addysg i roi cymorth i deuluoedd a phlant y mae eu presenoldeb yn peri pryder
  • cydgysylltu â chydgysylltydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) yr ysgol a CADY y blynyddoedd cynnar, yn ogystal â swyddogion amddiffyn plant
  • cydgysylltu â nyrs yr ysgol a Chynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru i gefnogi materion iechyd a llesiant ehangach
  • cydgysylltu ag arweinwyr perthnasol yr awdurdod lleol yn enwedig mewn perthynas â helpu plant sy'n derbyn gofal a dysgwyr agored i niwed
  • meithrin partneriaethau â gwasanaethau arbenigol ac atgyfeirio teuluoedd sy'n mynd drwy gyfnod anodd at y gwasanaethau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn atal problemau rhag gwaethygu, er enghraifft Teuluoedd yn Gyntaf, gwasanaethau cyngor rhianta neu'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
  • gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer asiantaethau eraill gan gynnwys gofal cymdeithasol, iechyd, y trydydd sector ac eraill
  • meithrin partneriaethau cymunedol ehangach sy'n gwerthfawrogi ac yn adlewyrchu yr amrywiaeth o blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru
  • cefnogi gweithgareddau cyfoethogi'r ysgol fel clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol a Bwyd a Hwyl yn ystod y gwyliau, gan gysylltu â grwpiau cymunedol a grwpiau'r trydydd sector fel y bo'n briodol
  • meithrin cydberthnasau cadarnhaol â lleoliadau sy'n bwydo'r ysgol a lleoliadau y mae'r ysgol yn bwydo iddynt, gan sicrhau bod cyfnodau pontio wedi'u cynllunio ac y caiff gwybodaeth briodol ei rhannu, gan gefnogi'r teuluoedd a'r plant drwy'r cyfnodau pontio hynny
  • creu cysylltiadau â darparwyr gofal plant yn yr ardal, er enghraifft lleoliadau meithrin nas cynhelir, meithrinfeydd gofal dydd a Chylchoedd Meithrin
  • ymgysylltu â'r darparwr chwarae lleol a lleoliadau gwaith chwarae, gan gynnwys darparwyr cyfleoedd chwarae mynediad agored. I lawer o gymunedau, tir ysgolion yw'r man chwarae gorau, a byddai cynnig mwy o gyfle i ddefnyddio'r tir hwnnw y tu allan i oriau ysgol yn helpu'r plant a'r teuluoedd hynny
  • creu cysylltiadau â gwasanaethau gwaith ieuenctid lleol ac annog trefniadau i feithrin cydberthnasau a threfniadau priodol ar gyfer rhannu gwybodaeth rhwng staff yr ysgol a gweithwyr ieuenctid
  • cydgysylltu â chydlynwyr ymgysylltu a chynnydd a chydlynwyr digartrefedd ymhlith pobl ifanc yr awdurdod lleol i sicrhau cyfnodau pontio cadarnhaol i bobl ifanc i mewn i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant pan fyddant yn gadael yr ysgol, gan leihau'r risg y byddant yn dod yn ddigartref
  • cefnogi trefniadau ymgysylltu a chydberthnasau â'r gymuned ehangach a darparwyr trydydd parti o ran cyfleoedd sy'n gysylltiedig â darparu gweithgareddau cyfoethogi ychwanegol

Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygu partneriaethau cymunedol a gweithio amlasiantaethol ar gael yn ‘Thema 5: Datblygu partneriaethau cymunedol a gweithio amlasiantaethol Adnoddau 1–2’ y pecyn cymorth ymgysylltu â'r gymuned a theuluoedd.

Er y bydd llawer o'r gweithgareddau a'r gwaith a wneir gan y Swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn digwydd yn yr ysgol, mae'n bwysig hefyd bod hyblygrwydd gan y swyddog ymgysylltu â theuluoedd i ymgymryd â'i rôl y tu allan i'r ysgol, mewn mannau cymunedol neu hyd yn oed yng nghartrefi'r rhieni. Gall y cyfle i ddatblygu gwaith allgymorth yn y gymuned wella'r cysylltiadau a'r cydberthnasau rhwng y cartref a'r ysgol. Mae'n hanfodol bod pob swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn dilyn canllawiau diogelu ac yn defnyddio asesiadau risg priodol wrth gynnal unrhyw waith oddi ar y safle.

Y swyddog ymgysylltu â theuluoedd ac ymgysylltu â'r gymuned

Yn ogystal â gweithio gyda theuluoedd, gall rôl y swyddog ymgysylltu â theuluoedd ganolbwyntio hefyd ar feithrin partneriaethau ehangach â'r gymuned, a ddylai werthfawrogi a hyrwyddo natur amrywiol ein cymunedau yng Nghymru. Gall partneriaethau â'r gymuned ehangach wneud y canlynol:

  • atgyfnerthu gwaith yr ysgol i ymgysylltu â theuluoedd drwy helpu ysgolion i oresgyn y ffactorau sy'n atal teuluoedd rhag ymgysylltu
  • atgyfnerthu'r ysgol, gan gyflwyno adnoddau a chyfoethogi'r cwricwlwm, yn ogystal â llywio ei datblygiad parhaus
  • galluogi ysgolion i wneud cyfraniad cadarnhaol at fywyd y gymuned, gan feithrin cydlyniant cymunedol, cyfalaf cymdeithasol a chyfrannu at gyfleoedd dysgu i oedolion
  • creu cysylltiadau â grwpiau cymunedol ac arweinwyr cymunedol er mwyn cydweithio ar sail gymunedol ehangach
  • cefnogi ymarfer rhyng-genhedlaeth, gan feithrin gwell dealltwriaeth a mwy o barch rhwng cenedlaethau
  • helpu ysgolion i annog dysgwyr i ailymgysylltu drwy gysylltiadau â'r gymuned ehangach a darparwyr trydydd parti i gefnogi cyfleoedd cyfoethogi ychwanegol.

Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygu partneriaethau cymunedol a gweithio amlasiantaethol ar gael yn ‘Thema 5: Datblygu partneriaethau cymunedol a gweithio amlasiantaethol Adnoddau 1–2’ y pecyn cymorth ymgysylltu â'r gymuned a theuluoedd.

Mynd i'r afael â thlodi plant

Mae dyletswydd ar bob un ohonom i fynd i'r afael â thlodi plant a lliniaru ei effeithiau, gan gynnwys yr anghydraddoldebau addysgol y mae plant yn eu profi o ganlyniad i fyw mewn tlodi.

Gall plant yr effeithir arnynt gan dlodi wynebu rhwystrau sylweddol wrth wneud cynnydd ond, trwy ddilyn dull sy'n canolbwyntio ar y gymuned, rydym yn gobeithio gwneud y canlynol:

  • ymdrin â'r rhwystrau hyn
  • annog cyfle cyfartal
  • goresgyn effaith anfantais economaidd-gymdeithasol
  • gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc

Mae'r canllawiau canlynol yn darparu cymorth pellach i ysgolion fynd i'r afael â thlodi plant:

Ar ôl pandemig COVID-19 

Mae llawer o bryderon ynghylch yr effaith y mae pandemig COVID-19, y cyfyngiadau iechyd y cyhoedd a osodwyd a'r newid a fu o ganlyniad i hynny i ddysgu o bell wedi'i chael ar ddysgu a lles ein plant. Yn ogystal, ceir goblygiadau ehangach o ran presenoldeb, gorbryder cymdeithasol ac ynysigrwydd i deuluoedd wrth i ni adfer ar ôl y pandemig.

Fodd bynnag, mae'r tarfu a fu ar ddysgu gydol y pandemig hefyd wedi arwain at gysylltiadau agosach a chyfathrebu mwy effeithiol rhwng teuluoedd ac ysgolion ac yn ogystal ag at well dealltwriaeth o'r ffordd y gallant gefnogi dysgu eu plant.

Gall rôl y swyddog ymgysylltu â theuluoedd helpu teuluoedd a phlant i wneud y canlynol:

  • ailymgysylltu â'r ysgol
  • cynnig y cyfleoedd dysgu gorau posibl
  • ailsefydlu cydberthnasau
  • adeiladu ar rai o'r arferion a ddatblygwyd gydol y pandemig, er enghraifft mwy o ddefnydd o dechnoleg i helpu teuluoedd i ymgysylltu â dysgu

Presenoldeb

Mae pob ysgol yn anelu at gyflawni cyfraddau presenoldeb uchel ymhlith ei plant a’i phobl ifanc. Fodd bynnag, am lawer o resymau amrywiol sy'n aml yn gymhleth, mae'n bosibl na fydd rhai plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd. Gall effaith peidio â mynychu'r ysgol ar blant ac ar aelodau o'u teulu fod yn sylweddol.

Dylid rhoi'r pwyslais mwyaf wrth annog presenoldeb ar fesurau ataliol ac ar sicrhau y caiff cydberthnasau cadarnhaol eu meithrin rhwng teuluoedd ac ysgolion. Mae rhieni yn fwy tebygol o annog presenoldeb llawn pan fyddant yn teimlo'n rhan o gymuned yr ysgol.

Cefnogi presenoldeb

Gall swyddogion ymgysylltu â theuluoedd gefnogi'r cydberthnasau rhwng teuluoedd ac ysgolion a gallant annog a meithrin cysylltiadau sy'n cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb. Mae rhai camau gweithredu allweddol a all gefnogi presenoldeb cadarnhaol yn cynnwys y canlynol:

Meithrin cydberthnasau cadarnhaol pan fydd y plant yn dechrau'r ysgol am y tro cyntaf

Mae meithrin cydberthnasau cadarnhaol yn bwysig. Mae ymweliadau cartref yn cynnig y cyfle i gwrdd â'r rhieni mewn lleoliad mwy hamddenol a rhannu gwybodaeth am bwysigrwydd presenoldeb da. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i'r swyddog ymgysylltu â theuluoedd feithrin dealltwriaeth o gyd-destun unigol plant a theuluoedd yn yr ysgol.

Rhoi canllawiau a gwybodaeth glir am bresenoldeb

Gall swyddogion ymgysylltu â theuluoedd helpu i gydlynu'r cyfathrebu rhwng yr ysgol a theuluoedd am bresenoldeb a disgwyliadau'r ysgol yn hyn o beth.

Hwyluso adborth a chyd-ddatblygu

Rhoi cyfle i'r rhieni gyflwyno barn ar bresenoldeb ac iddynt gael eu cynnwys wrth gyd-ddatblygu'r polisi a’r dulliau y bydd yr ysgol yn eu mabwysiadu.

Ymdrin â phryderon mwy penodol am bresenoldeb

Wrth ymdrin â phryderon mwy penodol am bresenoldeb, bydd angen ystyried cyd-destun penodol teuluoedd ac amgylchiadau eu plant er mwyn sicrhau y caiff y rheswm sylfaenol dros yr absenoldeb ei gydnabod ac y caiff unrhyw gymorth ei deilwra i ddiwallu unrhyw angen unigol.

Gall swyddogion ymgysylltu â theuluoedd ddefnyddio eu gwybodaeth am deuluoedd a'u hamgylchiadau i ystyried y ffactorau a allai fod yn effeithio ar bresenoldeb ac i'w hatgyfeirio at y cymorth sydd ei angen. Mae'n bosibl y byddant yn gallu gwneud y canlynol:

  • cwrdd â'r rhieni er mwyn deall yr anghenion a'r cyd-destun unigol, ystyried y rhwystrau penodol i bresenoldeb a chydweithio i lunio cynllun cymorth wedi'i deilwra'n arbennig
  • defnyddio eu gwybodaeth am amrywiaeth eang o wasanaethau ychwanegol i atgyfeirio at wasanaethau cymorth ehangach er enghraifft trafnidiaeth neu dai

Dysgu proffesiynol

Mae'n bwysig cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol priodol i'r rheini sy'n mabwysiadu rôl y swyddog ymgysylltu â theuluoedd. Bydd y gofynion dysgu proffesiynol penodol yn dibynnu ar:

  • gyd-destun y lleoliad
  • anghenion unigol deiliad y swydd
  • blaenoriaethau ehangach yr ysgol gyfan

Ymhlith rhai o'r anghenion datblygiad proffesiynol a nodwyd eisoes gan ysgolion ar gyfer eu swyddogion ymgysylltu â theuluoedd mae:

Gall defnyddio safonau a gydnabyddir yn genedlaethol fod yn ddefnyddiol er mwyn nodi gofynion dysgu proffesiynol. Mae'r Safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu a'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth yn bwyntiau cyfeirio defnyddiol.

Plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal neu sy'n cael addysg heblaw yn yr ysgol

Mae'r canllawiau hyn yn cydnabod nad yw pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei addysgu mewn ysgolion ac nad yw pob plentyn a pherson ifanc yn cael cefnogaeth gan eu teuluoedd gartref. Mae'r plant a'r bobl ifanc hyn ymhlith rhai o'r dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed. Mae’r egwyddorion ymarfer effeithiol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, sy’n cael eu disgrifio yn y canllawiau hyn, yr un fath ni waeth ble y caiff plentyn neu berson ifanc ei ofal neu ei addysg.

Mae'n bosibl y bydd plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn cael gofal yn eu cartref eu hunain, mewn cartref maeth, uned breswyl neu ysgol breswyl. Mae'r plant a'r bobl ifanc hyn yn wynebu rhwystrau o ran llwyddo ym myd addysg ac mae'n hanfodol bod ysgolion yn gwybod pa ddysgwyr sy'n derbyn gofal a'u bod yn cadw mewn cysylltiad â'r gofalwr priodol, a all fod yn berthynas sy'n gofalu amdanynt, yn ofalwr maeth neu'n ofalwr sy'n gysylltiedig â'r awdurdod lleol. Dylai'r broses o gynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal egluro pwy sy'n gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â'r ysgol a helpu'r plentyn â'i addysg. Mae gwaith cynllunio gofalus a threfniadau effeithiol ar gyfer cydweithio rhwng gofalwyr neu weithwyr cymdeithasol ac athrawon yr un mor bwysig â'i gilydd.

Mae rhagor o wybodaeth am gefnogi teuluoedd plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal neu sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol ar gael yn ‘Thema 3: Croesawu teuluoedd i ymgysylltu â’r ysgol Adnoddau 1–9’ y ‘pecyn cymorth ymgysylltu â'r gymuned a theuluoedd.

Pontio

Gall dechrau'r ysgol a newid ysgol fod yn ddigwyddiad sy'n heriol yn emosiynol i blant ac i'w teuluoedd. Mae’n bwysig bod yn rhagweithiol a chynllunio ar gyfer cyfnodau pontio effeithiol sy'n cefnogi'r plant a'u rhieni. Bydd rhieni am wybod am yr ysgol, y staff, yr hyn y bydd eu plant yn ei ddysgu a sut maent yn datblygu (Achub y Plant, 2022).

Po gynharaf y bydd ysgolion yn dechrau meithrin cydberthnasau a all gefnogi cyfnodau pontio effeithiol, po orau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Thema 3: Croesawu teuluoedd i ymgysylltu â’r ysgol Adnoddau 1–9’ y pecyn cymorth ymgysylltu â'r gymuned a theuluoedd.

Pan fydd ysgolion a lleoliadau yn cynllunio ac yn adolygu eu cwricwlwm, dylent ystyried pa drefniadau y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau pontio effeithiol.

Mae hyn yn cynnwys datblygu ac ymgorffori proses bontio gadarn ac effeithiol ar gyfer dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16 oed. Dylai'r broses hon fod yn barhaus a dylai gydnabod anghenion amrywiol pob dysgwr a chefnogi pob unigolyn ar ei daith ddysgu. Dylid ystyried hefyd unrhyw waith sy'n mynd rhagddo i gynllunio'r cwricwlwm ac asesu ar draws y clwstwr.

Er mwyn cefnogi'r broses hon:

  • dylai ysgolion cynradd ymgysylltu ag arweinwyr lleoliadau sy’n bwydo iddynt
  • dylai ysgolion cynradd ac uwchradd ymgysylltu â'i gilydd
  • dylai ysgolion cynradd ac uwchradd ymgysylltu ag arweinwyr unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau eraill sy'n cynnig addysg heblaw yn yr ysgol

Estyn: Pwysigrwydd gweithio gyda theuluoedd a'r gymuned

Atgyfnerthwyd pwysigrwydd gweithio gyda theuluoedd a'r gymuned mewn sawl adroddiad gan Estyn, gan gynnwys ei hadroddiad thematig ar ysgolion cymunedol yn 2020 ‘Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol’.

Yn yr adroddiad, mae'n nodi bod yr ysgolion a'r lleoliadau hynny sy'n ymgysylltu'n effeithiol â theuluoedd yn gwneud y canlynol:

  • gweithio gyda rhieni a theuluoedd fel partneriaid cyfartal
  • deall anghenion teuluoedd a'r gymuned ac addasu iddynt
  • cynnig cyfleoedd i ymgynghori a chyfathrebu â rhieni er mwyn sicrhau y caiff eu llais ei glywed
  • rhoi help ac anogaeth i deuluoedd er mwyn iddynt allu cefnogi dysgu eu plentyn yn effeithiol gartref
  • llunio cynlluniau strategol yn nodi sut y byddant yn gweithio gyda theuluoedd a'r gymuned
  • penodi staff penodol i ymgymryd â'r gwaith hwn
  • disgwyl i bob aelod o staff feithrin eu sgiliau proffesiynol er mwyn ymgymryd â'i rôl yn yr ysgol

Mae arweiniad atodol ar arolygu'r dulliau a ddefnyddir gan ysgolion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a lles ar gael ar wefan Estyn.

Adnoddau pellach