Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid caffael masnachol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Cyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg rhanddeiliaid i asesu ei pherfformiad yn unol â gofynion gwasanaeth ei chwsmeriaid. Bydd Llywodraeth Cymru’n cadw ymatebion cyfranogwyr i’r arolwg hwn, ac yn rhannu’r data â’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus, a fydd yn eu dadansoddi er mwyn mesur perfformiad Cyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru ar gyfer ei sylfaen rhanddeiliaid. Bydd y data'n cael eu gwerthuso mewn adroddiad dilynol a gaiff ei gyhoeddi'n gyhoeddus.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer y wybodaeth a gaiff ei chasglu yn ystod yr arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid. Y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus, ym Mhrifysgol Caerdydd, yw'r prosesydd data ar gyfer gwybodaeth a gesglir yn ystod yr arolwg ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Y sail gyfreithlon dros gasglu’r wybodaeth hon o dan Erthygl 6(1) o Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yw erthygl 6(1)(e) (e) Tasg gyhoeddus: mae angen prosesu er mwyn i chi gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu er mwyn cyflawni eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.

Beth ydyn ni'n ei wneud â'ch gwybodaeth?

Yn ein cylch gwaith fel y rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a dderbynnir at y dibenion isod.

  • Asesu a mesur ein perfformiad yn erbyn gofynion ein rhanddeiliaid a'n cwsmeriaid

Yn ei gylch gwaith fel y prosesydd data, mae'r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus, ym Mhrifysgol Caerdydd, yn defnyddio'r wybodaeth a dderbynnir at y dibenion isod.

  • Asesu a mesur perfformiad Llywodraeth Cymru yn erbyn gofynion ei rhanddeiliaid a'i chwsmeriaid

Gyda phwy rydyn ni’n rhannu eich gwybodaeth?

  • Dim ond ar draws Cyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru a’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus y caiff gwybodaeth ei rhannu.
  • Dim ond aelodau staff y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol ac aelodau staff y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n cael mynediad i wybodaeth a gedwir gan y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol.
  • Mae unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei storio mewn rhannau o systemau'r Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol a'r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus a ddiogelir.

Am ba mor hir fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth?

Bydd Caffael Masnachol yn cadw gwybodaeth am sefydliadau cyfranogol, timau ac atebion i’r arolwg ar ein systemau am 120 mis.

Bydd y Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus yn cadw gwybodaeth am sefydliadau cyfranogol, timau ac atebion i’r arolwg ar eu systemau am 12 mis o ddyddiad cau’r arolwg.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

Mae gennych yr hawl i:

  • Gael mynediad i'r data personol rydyn ni’n ei brosesu amdanoch chi
  • Mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw
  • Yr hawl (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu
  • Yr hawl i'ch data gael ei 'ddileu' (lle mai caniatâd yw'r sail gyfreithlon)
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR), gweler y manylion cyswllt isod:

Y Tîm Cyfathrebu: CaffaelMasnachol.Cyfathrebu@llyw.cymru

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113