Neidio i'r prif gynnwy

Mae Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) yn asesu sut y bydd cynllun yn effeithio ar yr amgylchedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n broses ffurfiol i ystyried effaith cynllun neu raglen ar yr amgylchedd.

Nod

Nod yr SEA yw:

  • gwarchod yr amgylchedd
  • hyrwyddo datblygu cynaliadwy
  • gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn cael ei ystyried wrth baratoi a mabwysiadu cynllun neu raglen

Arweiniad

Pwy sy'n gyfrifol am benderfynu a oes angen cynnal SEA:

  • y corff sy'n paratoi'r cynllun, neu
  • y corff y mae'r cynllun yn cael ei baratoi ar ei ran

 Rhaid ystyried pob achos ar ei ben ei hun. Weithiau, bydd angen ichi benderfynu beth yw arwyddocâd yr effeithiau ar yr amgylchedd. Fe gewch arweiniad ac enghreifftiau yn Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol: canllawiau ar gov.uk.

    Camau proses yr SEA

    Mae'n bwysig eich bod yn ystyried yr SEA o'r dechrau'n deg wrth baratoi'r cynllun fel ei fod yn rhan annatod o'r broses. Dyma gamau cynnal yr SEA:

    • gosod y cyd-destun a'r amcanion a phenderfynu ar linell sylfaen a chwmpas
    • datblygu a chaboli ffyrdd eraill posib ac asesu'r effeithiau
    • paratoi adroddiad amgylcheddol
    • ymgynghori ar y cynllun neu'r rhaglen ddrafft a'r adroddiad amgylcheddol
    • monitro effeithiau arwyddocaol y cynllun neu'r rhaglen ar yr amgylchedd

    Manylion cysylltu

    Rhowch wybod inni am eich SEA trwy:

    e-bostio: SEA@llyw.cymru

    ffonio: 029 2082 3178

    Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg 

    drwy'r post at 

    Asesiad Amgylcheddol Strategol
    Is-adran y Tir, Natur a Choedwigaeth
    Adran yr Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol
    Llywodraeth Cymru
    Parc Cathays 2
    Caerdydd
    CF10 3NQ