Karen Athanatos Aelod Staff Etholedig

Ymunodd Karen ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn 2018 fel aelod o dîm y ddesg gymorth ac mae bellach yn Ddirprwy Reolwr Achos.
Mae Karen yn bwynt cyswllt pwysig o fewn ACC, gan helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru drwy’r hyn rydym ni’n ei alw’n ‘Ein Dull’, ffordd Gymreig o drethu. Rydym yn gweithio gyda threthdalwyr, asiantau a chydweithwyr, er mwyn sicrhau bod trethi Cymru’n cael eu casglu'n effeithlon ac yn effeithiol.
Cyn hyn, bu Karen yn astudio Cymraeg ac Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Abertawe cyn gweithio fel athrawes ysgol gynradd ar draws De Cymru. Yna ymunodd ag ACC.
Dysgodd Karen Gymraeg yn yr ysgol uwchradd ac mae'n dymuno parhau i wella’i sgiliau Cymraeg.
Ym mis Hydref 2021, enwebwyd Karen gan ei chydweithwyr i fod yr Aelod Staff Etholedig ar Fwrdd ACC. Dyma hefyd rôl gyntaf Karen fel aelod o fwrdd. Mae hi'n gyffrous am y cyfle hwn ac yn edrych ymlaen at gyfrannu at ddyfodol ACC trwy ddod â phersbectif unigryw i drafodaethau a phenderfyniadau’r bwrdd.