Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer adroddiad Ton Chwefror, 2024.

Roedd 2023 yn flwyddyn eithaf heriol i'r diwydiant

  • Cafodd un o bob pedwar (25%) o fusnesau fwy o ymwelwyr yn 2023 o'i gymharu â 2022, a chafodd 42% yr un lefel. Serch hynny, cafodd traean ohonynt (33%) lai. 
  • Perfformiodd atyniadau yn dda yn 2023, gyda 42% yn cynyddu eu niferoedd ymwelwyr a gyda thua traean pellach (34%) yn cyflawni'r un lefel. Ar ochr arall y raddfa, y sector hunanddarpar a brofodd y trafferthion mwyaf, gyda 19% yn cynyddu lefelau ymwelwyr ond 42% yn adrodd ar lefelau is.

Rhai gwahaniaethau yn ôl rhanbarth

  • Derbyniodd Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru tua'r un lefel o ymwelwyr yn 2023 o'i chymharu â 2022. 
  • Yn Ne-orllewin Cymru, roedd 23% o fusnesau wedi cael mwy o ymwelwyr, ond 36% wedi cael llai. Yng Nghanolbarth Cymru, cafodd 20% o fusnesau mwy o ymwelwyr, a 37% wedi cael llai. Y gyfran uwch o fusnesau hunanddarpar yn sampl Canolbarth a De-orllewin Cymru er mwyn adlewyrchu'r boblogaeth fusnes yw'r prif reswm dros wahaniaethau rhanbarthol.

Lefelau defnydd y gaeaf

  • Roedd y lefelau defnydd cyfartalog mewn perthynas â chapasiti ar gael ymhlith y busnesau â gwasanaeth yn 48% ym mis Tachwedd, 49% ym mis Rhagfyr a 37% ym mis Ionawr. Roedd y lefelau defnydd cyfartalog ymhlith busnesau hunanddarpar yn 38% ym mis Tachwedd, 39% ym mis Rhagfyr a 28% ym mis Ionawr.

Ychydig o resymau i fod yn gadarnhaol

  • Y tri ateb digymell uchaf i'r cwestiwn, ‘A oes unrhyw resymau penodol i fod yn gadarnhaol am fusnes eleni?’ yw ‘lefel uchel o gwsmeriaid drachefn' (18%), ‘marchnata ein hunain’ (15%) a ‘gwella cynnyrch / darpariaeth’ (12%). Serch hynny, yr ateb amlaf yw ‘nid oes unrhyw beth i fod yn gadarnhaol yn ei gylch’ (32%).

Costau uchel a pholisïau Llywodraeth Cymru yn dominyddu pryderon

  • Mae 'Costau gweithredu uchel' (32% yn ddigymell), a'r mater macro-economaidd cysylltiedig 'pobl â diffyg incwm gwario' (22%) yn bryderon allweddol ymhlith busnesau eleni. 'Polisïau Llywodraeth Cymru' (30%) yw'r pryder allweddol arall. 
  • Gofynnwyd i'r ymatebwyr a nododd fwy nac un pryder pa un fyddai'n effeithio ar eu busnes fwyaf. O'i symleiddio i un, 'polisïau Llywodraeth Cymru' yw'r un pryder mwyaf ymhlith gweithredwyr hunanddarpar, a chostau gweithredu uwch yw'r pryder mwyaf ym mhob sector arall.

Defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith

  • Mae gan ddau ym mhob pum busnes (40%) o leiaf un person yn defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd yn y gwaith. Mae'r gyfran hon yn llawer uwch yng Ngogledd Cymru (60%) a Chanolbarth Cymru (40%) nac yn Ne-orllewin Cymru (26%) a De-ddwyrain Cymru (21%).

Hyder i redeg yn broffidiol

  • Roedd 14% o weithredwyr yn 'hyderus iawn' am redeg y busnes yn broffidiol eleni a 50% yn 'weddol hyderus'.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: Adroddiad Ton Chwefror, 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.