Bil i fynd i'r afael â llygredd plastig a chyflawni ein hymrwymiad i ddiddymu cynhyrchion plastig untro a ddefnyddir yn gyffredin.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn gyfraith newydd a fydd yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys yn rhad ac am ddim) gynhyrchion plastig untro penodol i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Bydd y gyfraith hon yn golygu na fydd y cynhyrchion hyn yn gallu cael eu gwerthu na’u cyflenwi yng Nghymru mwyach, oni bai bod esemptiad. Bydd y gwaharddiadau yn cael eu cyflwyno mewn “cyfnodau”. Gwneir hyn er mwyn caniatáu amser i fusnesau ddefnyddio stoc sydd ganddynt ar hyn o bryd a phrynu neu wneud opsiynau amgen eraill.
Darperir yr Asesiadau Effaith a'r Memorandwm Esboniadol ar gyfer eich gwybodaeth.
Cyfnod 1 – o dymor yr Hydref 2023 ymlaen
- Platiau – mae’r rhain yn cynnwys platiau papur sydd ag araen blastig wedi’i lamineiddio
- Cytleri –er enghraifft ffyrc, llwyau a chyllyll
- Troellwyr diodydd – y rheini sydd wedi’u dylunio ar gyfer troi diodydd neu fwydydd hylifol
- Cwpanau sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog
- Cynwysyddion bwyd tecawê sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog
- Ffyn balwnau
- Ffyn cotwm plastig
- Gwellt yfed – gydag esemptiadau er mwyn sicrhau bod yr unigolion hynny sy’n dibynnu arnynt i fwyta ac yfed yn gallu parhau i’w cael
Cyfnod 2 – bydd y cyfnod hwn yn dechrau dod i rym o 2024 ymlaen
- Bagiau siopa plastig untro
- Caeadau cwpanau a chynwysyddion bwyd tecawê wedi’u gwneud o bolystyren
- Cynhyrchion plastig ocso-ddiraddiadwy
Mae’r cynhyrchion hyn yn cael eu gwahardd gan eu bod yn aml wedi’u taflu’n sbwriel yn ein parciau, ar ein strydoedd, yn ein moroedd ac ar ein traethau. Mae ganddynt i gyd opsiynau amgen y gellir eu hailddefnyddio neu opsiynau amgen di-blastig.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau hefyd i ychwanegu cynhyrchion eraill os oes angen camau gweithredu pellach i fynd i’r afael â llygredd plastig.
Ar bwy y bydd y newidiadau yn effeithio
Bydd yn erbyn y gyfraith gwerthu’r cynhyrchion a restrir uchod, neu eu rhoi am ddim
i ddefnyddwyr yng Nghymru.
Gall y canlynol gyflawni’r drosedd:
- busnes,
- sefydliad er enghraifft cwmni neu gorff llywodraethu,
- partneriaeth,
- unigolyn sy’n gweithredu yn unig fasnachwr,
- darparwr gwasanaeth cyhoeddus,
- elusen, clwb, syndicet neu sefydliad gwirfoddol
Beth fydd angen i fusnesau ei wneud
Cyn i’r gwaharddiadau ddod i rym
Dylai busnesau fwrw ati nawr i ddechrau cynllunio ar gyfer y gyfraith newydd drwy ddilyn y cyngor isod:
- Lleihau lefelau stoc y cynhyrchion plastig untro sy’n cael eu gwahardd
- Ystyried newid i opsiynau amgen y gellir eu hailddefnyddio
- Pan nad yw hyn yn bosibl, chwilio am opsiynau amgen untro di-blastig.
Pan fo’r gwaharddiadau yn dod i rym
- Rhowch y gorau i ddarparu cynhyrchion gwaharddedig i gwsmeriaid o dymor yr hydref 2023 ymlaen, neu cyn hynny os oes modd.
- Dywedwch wrth eich staff a chwsmeriaid am y newidiadau hyn.
- Ceisiwch osgoi cael gormod o stoc. Os oes gennych gynhyrchion dros ben pan ddaw’r gwaharddiadau i rym, siaradwch â chyflenwyr, eich cyngor lleol a Llywodraeth Cymru ynghylch sut i ailgylchu stoc ddi-angen.
Mae nifer o opsiynau amgen i blastigion untro eisoes ar y farchnad. Rydym yn llunio canllawiau manwl a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion am opsiynau amgen. Bwriadwn gyhoeddi’r canllawiau fis Mai.
Pam ein bod yn gwneud y newidiadau hyn
Mae nifer o bobl Cymru eisoes yn bwrw ati i leihau ein dibyniaeth ar blastigion untro a hynny drwy newid arferion a gwneud cynhyrchion a gwasanaethau yn fwy cynaliadwy. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi’u hymdrechion.
Mae graddfa’r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol yn golygu bod rhaid blaenoriaethu iechyd ein hamgylchedd. Bydd y Bil hwn yn rhoi hyd yn oed mwy o adnoddau inni leihau ein dibyniaeth ar blastigion untro di-angen cyn gynted â phosibl. Dyma un o’r ystod o gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn annog proses o wyro oddi wrth gynhyrchion untro ac i annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu gwaredu. Er enghraifft, byddwn yn cyflwyno Cynllun Dychwelyd Cynhwysyddion erbyn 2025 ac yn sefydlu cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer pecynnu. Mae cyflwyno’r gyfraith newydd hon wedi cyfrannu at ein huchelgeisiau ehangach a nodir yn ein Strategaeth Economi Gylchol - Mwy nag Ailgylchu ac yn ein Cynllun drafft ar Atal Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon.
Mae hwn yn gyfle i bobl Cymru feddwl yn wahanol ynghylch sut y maen nhw’n byw o ddydd i ddydd gan ddewis cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio a defnyddio eitemau untro ond pan fo hynny’n gwbl angenrheidiol. Gall hyn fod o gymorth i arbed arian yn ogystal â bod o fudd i’r amgylchedd.
Esemptiadau
Rydym yn deall y bydd gan rai gwaharddiadau gyfyngiadau penodol. Rydym wedi cynnwys esemptiadau yn y gyfraith er mwyn diwallu’r anghenion hynny. Mae esemptiad yn golygu sefyllfa pan nad oes rhaid dilyn y rheolau.
Gwellt
- cânt eu darparu mewn perthynas â darparu gofal neu driniaeth feddygol.
- cânt eu gwerthu neu eu rhoi yn rhad ac am ddim i berson sy’n dweud bod y gwelltyn ar gyfer rhesymau iechyd neu hygyrchedd a’i fod ar ei gyfer ef neu rywun arall
- wrth ofyn am welltyn neu becyn o wellt plastig untro ar eich cyfer chi neu ar ran rhywun arall oherwydd rhesymau iechyd neu hygyrchedd
- Ni fydd rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o angen wrth ofyn am welltyn plastig untro
Bagiau Siopa Plastig Untro
Mae bag siopa plastig yn fag untro os yw’n fag a wnaed o blastig ac sy’n llai na 49 o ficronau o drwch. Gall defnyddiwr fod â’r mathau canlynol o fag siopa plastig untro:
- bag siopa bach heb gwysed neu handlenni (125 x 125mm neu lai).
- bag siopa ar gyfer cynhyrchion penodol sef pysgod, cig neu ddofednod amrwd: cynhyrchion glendid personol sy’n rhad ac am ddim; anifeiliaid dyfrol byw sydd mewn dŵr; bwyd heb ei becynnu, cynhyrchion papur, hadau, bylbiau, cormau, rhisomau; llafnau, eitemau â llafnau a nwyddau sydd wedi’u halogi â phridd.
- bag siopa a roddir ar gyfer cario alcohol neu dybaco mewn ardal o dan gyfyngiadau diogelwch megis maes awyr.
Cymorth i fusnesau
Rydym yn parhau i weithio’n agos â busnesau, gweithgynhyrchwyr, grwpiau o’r sector cyhoeddus, cymunedau a grwpiau sy’n cynrychioli pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod pawb yn deall yr hyn y mae’r gwaharddiadau yn ei olygu iddyn nhw.
Cysylltwch â ni
Cymorth a Chyngor
Os ydych chi angen rhagor o gymorth neu gyngor ynghylch y gwaharddiadau hyn, cysylltwch â ni:
E-bost:
bilcynhyrchionplastiguntro@llyw.cymru
Post:
Is-adran Ansawdd yr Amgylchedd Lleol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ