Bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn newid y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn gweithredu yng Nghymru.
Cynnwys
Cefndir
Nid yw ein system fysiau bresennol wedi'i chydlynu ac mae'n peri rhwystredigaeth i deithwyr.
Mae angen newid. Er bod llawer o wasanaethau bysiau lleol yn gweithio'n dda, a bod rhai ardaloedd yn cael eu gwasanaethu'n dda, nid dyna’r sefyllfa ym mhobman ac i bawb
Rydym am weld rhwydwaith bysiau lleol cydgysylltiedig sy'n rhoi pobl a chymunedau yn gyntaf, gyda gwasanaethau dibynadwy, fforddiadwy a hawdd eu defnyddio.
Diben y Bil
Mae'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru gydweithio'n agos gydag Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig, gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol i ddylunio a chynllunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion eu cymunedau. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon bydd cynllun rhwydwaith yn cael ei greu sy'n nodi'r llwybrau y mae'n rhaid eu darparu mewn ardal benodol. Gall gweithredwyr bysiau wedyn gynnig i gynnal y llwybrau hynny.
Bydd y system newydd hon yn cael ei chyflwyno'n rhanbarthol ledled Cymru, gan arwain at greu rhwydwaith bysiau lleol cenedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth am y cyflwyniad i'w gweld yn ein map ffordd i ddiwygio bysiau.
Bydd y Bil yn rhoi mwy o lais i'r sector cyhoeddus ar sut mae gwasanaethau bysiau lleol yn gweithredu yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau bysiau lleol yn diwallu anghenion y cymunedau gwledig a threfol y maent yn eu gwasanaethu.
Bydd y Bil yn arwain at sefydlu gwasanaethau bysiau lleol sy'n ddiogel, integredig, cynaliadwy ac effeithlon.
Cafodd y Bil ei osod gerbron y Senedd ar 31 Mawrth ac fe’i pasiwyd ar 9 Rhagfyr 2025. Mae’r Bil belach yn symud i’r cyfnod ar ôl Cyfnod 4 (senedd.cymru), gan aros am Gydsyniad Brenhinol. Unwaith y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol bydd y Bil yn dod yn Ddeddf.
