Canllawiau ar gyfer prosiectau ar ôl i'r DU ymadael yr UE.
Cynnwys
Crynodeb
Ni fydd unrhyw newid i’r trefniadau presennol ar gyfer prosiectau cyfredol a ariennir gan yr UE. Ni fydd y ffordd y caiff y prosiectau eu rheoli yn newid. Mae hyn yn cynnwys:
- cyflwyno a thalu hawliadau
- gwiriadau dilysu
- cadw cofnodion
Dylai prosiectau barhau i ddefnyddio WEFO Ar-lein i gyflwyno a diweddaru gwybodaeth.
Bydd prosiectau yn parhau i gael cyllid gan yr UE hyd nes y bydd y rhaglenni hynny’n cau yn 2023.
Mae hyn yn cynnwys:
- Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Gymdeithasol Ewrop)
- Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd
- Rhaglen Iwerddon Cymru
Mae’r dyddiad cau presennol ar gyfer cyflawni’r rhaglenni, sef 31 Rhagfyr 2023, yn parhau heb ei newid.
Prosiectau sydd wrthi'n cael eu datblygu
Os ydych yn gweithio ar brosiectau posibl, dylech barhau i ddatblygu eich cynlluniau gyda ni.
Prosiectau a gymeradwywyd ac sy'n cael cyllid
Bydd holl reolau a rheoliadau presennol yr UE yn parhau mewn grym.
Horizon 2020
Mae’n bosibl i chi ymgeisio am gyllid Horizon 2020 o hyd.
Ni wneir unrhyw newidiadau i’r cyllid gan yr UE ar gyfer prosiectau Horizon 2020 sydd eisoes wedi’u cymeradwyo. Bydd holl reolau a rheoliadau presennol yr UE yn parhau i fod yn gymwys.
Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd a Rhaglen Gydweithredu Iwerddon-Cymru
Bydd cyllid yr UE ar gyfer sefydliadau yn y DU sy’n rhan o’r rhaglenni hyn yn parhau hyd nes y bydd rhaglenni’n cau. Gallwch hefyd ymgeisio am gyllid pellach.
Rheolau ynglŷn â rhannu data personol rhwng yr UE a'r DU
Yn ystod y cyfnod gweithredu (diwedd Rhagfyr 2020), ni fydd y rheolau ynghylch rhannu data personol rhwng yr UE a’r DU yn newid. Darllenwch y canllawiau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Saesneg yn unig).