Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dileu'r stigma o siarad am y misglwyf yn helpu i annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon, meddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y gobaith yw y bydd sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael mewn cyfleusterau chwaraeon, yn ogystal ag annog y rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i ddysgu am effaith eu cylchoedd mislif ar eu hyfforddiant, yn annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Cyfarfu'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip Jane Hutt â chwaraewyr o dîm Merched Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i ddysgu sut maen nhw'n cefnogi chwaraewyr i chwarae a hyfforddi o amgylch eu cylchoedd mislif.

Cyfarfu'r Gweinidog â'r chwaraewyr yn eu cyfleusterau hyfforddi yng Amdani Hi @ Ocean Way, a grëwyd gyda'r bwriad o fod yn ganolfan chwaraeon i ddatblygu pêl-droed merched a ieuenctid yng nghanol Caerdydd, ddydd Iau (25 Mai).

Ar hyn o bryd mae'r clwb yn cymryd rhan mewn astudiaeth i ymchwilio i effaith y mislif ar berfformiad, fel y gallant fonitro pryd fydd amser brig chwaraewr ar gyfer hyfforddi a chwarae'n gystadleuol.

Mae'r clwb hefyd yn ceisio chwalu'r rhwystrau o siarad am y mislif, yn ogystal â chyflogi mwy o hyfforddwyr benywaidd a rhoi rhyddid i chwaraewyr leisio eu barn.

Dau nod craidd cynllun Balch o’r Mislif Llywodraeth Cymru yw mynd i'r afael â thlodi misglwyf, drwy ei gwneud yn haws i gael cynnyrch mislif, a sicrhau urddas mislif, drwy gael gwared ar unrhyw ymdeimlad o stigma neu gywilydd sy'n gysylltiedig â’r mislif.

Ers 2018 mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £12m i sicrhau bod plant a phobl ifanc a'r rhai ar incwm isel yn cael mynediad at gynnyrch mislif am ddim.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo £24m o gyllid cyfalaf dros y tair blynedd nesaf (2022 i 2025) i Chwaraeon Cymru i ddatblygu cyfleusterau ledled Cymru sy'n cynnwys pawb, yn ogystal â £1.25m yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf (2022i 2023).

Mae Chwaraeon Cymru yn blaenoriaethu ceisiadau sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb gan gynnwys materion sy'n ymwneud â rhyw, megis urddas mislif.

Mae buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon, elitaidd a llawr gwlad, yn ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu, gan amlygu'r cysylltiad pwysig rhwng cynyddu cyfranogiad a iechyd a lles ein cenedl.

Yn ddiweddar, cynhaliwyd trafodaethau gydag awdurdodau lleol i gynllunio sut y gellir cyfeirio cyllid at glybiau chwaraeon, er mwyn sicrhau bod gan bobl ifanc a'r rhai sy'n cael trafferth cael gafael ar gynnyrch mislif fodd i wneud hynny.

Nod y cynllun hefyd yw gwella cyfranogiad menywod, merched a'r rhai sy'n profi’r mislif mewn chwaraeon. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i asesu effaith y mislif ar y rhai sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff, fel y gellir ystyried gwella a chynnal lefelau cyfranogi.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae'n bwysig nad yw cael mislif yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon a rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wella lefelau cyfranogiad menywod a merched.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael, boed hynny yn y gymuned mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a banciau bwyd, neu mewn cyfleusterau mwy sy'n canolbwyntio ar chwaraeon fel canolfannau hamdden a chlybiau chwaraeon.

Rydyn ni eisiau sicrhau nad yw cael mislif yn golygu na all menywod a merched gymryd rhan mewn chwaraeon, wrth inni anelu at gael gwared ar y stigma o siarad am y mislif a’i gwneud yn haws i gael gafael ar ddewis o gynnyrch mislif.

Dywedodd Iain Darbyshire, pennaeth pêl-droed menywod a merched yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd:

Rydym wedi dechrau cymryd rhan mewn astudiaeth i ymchwilio i effaith cylch y mislif ar berfformiad gan ein bod am gefnogi chwaraewyr ym mhob ffordd y gallwn.

Rydyn ni eisiau sicrhau nad oes ofn ar ein chwaraewyr siarad am eu mislif, gan gynnwys sut maen nhw'n teimlo ar wahanol gamau o'u cylchoedd misol, fel y gallwn ddysgu am yr hyn sy'n gweithio iddyn nhw a’r hyn sydd ddim.

Mae'r clwb wedi buddsoddi mewn cyfleusterau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer menywod a merched, a fydd, gobeithio, yn helpu i hybu lefelau cyfranogiad yn y dyfodol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:

Mae gan chwaraeon y potensial i rymuso menywod a merched, chwalu stereoteipiau rhywedd a gwella hunan-barch menywod, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i hybu lefelau cyfranogiad.

Mae wedi bod yn galonogol gweld twf pêl-droed menywod a merched yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n rhaid i ni barhau i sicrhau eu bod yn cael yr un cyfleoedd â bechgyn, fel eu bod yn parhau i gymryd rhan gydol eu hoes.

Mae'r clwb hefyd wedi recriwtio hyfforddwyr cryfder a gwella cyrff benywaidd yn ddiweddar ac mae'n bwriadu cryfhau eu hyfforddiant ymhellach gyda mwy o fenywod.

Dywedodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru:

Er mwyn i bêl-droed allu tyfu yng Nghymru, mae’n bwysig creu lleoedd cynhwysol a phositif lle gall merched a menywod deimlo’n gyfforddus a bod ar eu gorau. Byddai cael gwared ar y cywilydd a’r stigma sy’n gysylltiedig â’r mislif a sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael mewn cyfleusterau chwaraeon yn gam mawr at sicrhau hynny.

Rydyn ni’n disgwyl ymlaen at weld sut y gall Cynllun Balch o’r Mislif Llywodraeth Cymru ynghyd ag ymchwil yn y maes, helpu pêl-droed merched a menywod i dyfu a gwireddu ei botensial yn llawn.