Neidio i'r prif gynnwy

Gwrando am 20mya

Ar 17 Medi 2023 newidiodd y rhan fwyaf o'r ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng Nghymru i 20mya.

Cael y cyflymder cywir ar y ffordd iawn

Credwn fod 20mya yn iawn: bydd yn achub bywydau ac yn lleihau gwrthdrawiadau ac anafiadau. Rydym am sicrhau ei fod wedi'i dargedu ar y ffyrdd cywir ac mae angen eich help arnom.

Rydym am i chi ddweud wrth yr awdurdod priffyrdd perthnasol os ydych chi'n credu y dylai ffordd benodol:

  • newid o 20mya i 30mya
  • newid o 30mya I 20mya
  • aros yn 20mya

Wrth roi adborth rhaid i chi:

  • fod yn glir ac yn fanwl ynghylch pa ran o'r ffordd rydych chi'n sôn amdani
  • roi rhesymau am eich barn

Rydym hefyd yn adolygu'r canllawiau ar eithriadau. Bydd hyn yn ei gwneud yn gliriach ble y gall ffyrdd fod yn 30mya. Dylai hyn fod yn barod erbyn mis Gorffennaf 2024.

Bydd yr awdurdodau priffyrdd yn gwrando ar eich adborth ac yn ystyried y canllawiau eithriadau diwygiedig cyn iddynt benderfynu ar y terfyn ar gyfer pob ffordd.

Ble i yrru ar 20mya

Yn gallu gweld goleuadau stryd? Mae yn 20 mya

Pan welwch oleuadau stryd, cymerwch yn ganiataol mai'r terfyn cyflymder yw 20mya, oni bai eich bod yn gweld arwyddion sy'n dweud fel arall.

Mae'r strydoedd hyn fel arfer mewn ardaloedd preswyl neu adeiledig.

Bydd gan ffyrdd sydd wedi aros yn 30mya arwyddion i ddweud hyn wrthych.

Os nad ydych yn gweld arwydd, mae yn 20mya.

Mwy o wybodaeth

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y newid i 20mya, gan gynnwys atebion i rai cwestiynau cyffredin.