Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

3 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Gymraeg A-Y
Cymraeg: adneuo
Saesneg: deposit
Statws A
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Gosod rhywbeth mewn storfa neu ei gyflwyno i'w gadw gan sefydliad, fel arfer i'w gadw'n ddiogel neu ar ffurf cofnod parhaol, ee rhoi arian ac eitemau gwerthfawr mewn banc neu gronfa, neu gyflwyno dogfennau i'w cadw mewn llyfrgell neu gan sefydliad arall.
Cyd-destun: Mae adran 15A(1) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i berchennog tir o’r fath adneuo datganiad gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin, ac effaith hyn yw dwyn i ben unrhyw gyfnod lle mae personau wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
Nodiadau: Daw'r frawddeg gyd-destunol o Reoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018, sy'n ymwneud â thiroedd comin.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: legal deposit
Statws B
Pwnc: Diwylliant a'r celfyddydau
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Cyflwyno copïau o gyhoeddiadau i storfeydd penodol, sef llyfrgelloedd adnau cyfreithiol, ee y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: pre-deposit stage
Statws B
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: camau cyn adneuo
Diffiniad: Rhan o'r broses o baratoi cynlluniau datblygu lleol.
Cyd-destun: Dylai'r adroddiad nodi'r cyrff a gaiff eu cynnwys neu eu hysbysu neu yr ymgynghorir â nhw yn ystod y cam cyn adneuo, gan gynnwys safleoedd, y prif faterion a godwyd a sut maent wedi dylanwadu ar y CDLl adneuo; dylai gynnwys crynodeb cyffredinol o sylwadau, ymateb yr ACLl a chamau a gymerwyd i roi cyhoeddusrwydd i baratoi'r cynllun.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025