Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Diffiniad: Cael nwyddau neu wasanaeth gan gyflenwr allanol. Mewn rhai achosion, ond nid bob tro, gall olygu yn benodol gael nwyddau neu wasanaethau a oedd yn flaenorol yn cael eu darparu yn fewnol, neu sydd hefyd yn cael eu darparu yn fewnol.
Nodiadau: Gellid aralleirio mewn cyd-destunau annhechnegol, er enghraifft drwy ddefnyddio "rhoi ar gontract" neu "rhoi gwaith allan". Sylwer nad yw 'outsourcing' o reidrwydd yn golygu llunio contract i wneud hynny.
Cyd-destun: Yn y Rhan hon, ystyr “contract allanoli gwasanaethau” yw contract (a) y mae gofyniad i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu darparu gan, neu a ddarparwyd yn flaenorol gan, awdurdod contractio yn cael ei drosglwyddo i berson arall oddi tano, neu (b) y mae person arall yn cytuno i gyflawni unrhyw swyddogaeth arall sy’n cael ei gyflawni gan, neu a gyflawnwyd yn flaenorol gan, awdurdod contractio oddi tano; ac mae “allanoli” i’w ddehongli yn unol â hynny.
Nodiadau: Yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth ar bartneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus.