Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Diffiniad: Bara Iddewig heb lefain ynddo, a ddefnyddir yn benodol yn ystod y Pasg Iddewig ac fel rhan o brydau Iddewig yn gyffredinol.
Nodiadau: Er mai 'bara croyw' sy'n arferedig yn Gymraeg am 'matzos' (ee Gŵyl y Bara Croyw, un o'r enwau Cymraeg ar y Pasg Iddewig), sylwer mai ystyr yr ymadrodd Cymraeg 'bara croyw' yn gyffredinol yw "bara heb lefain ynddo" ac felly mewn rhai cyd-destunau lle golygir y bara Iddewig yn benodol yn hytrach nag unrhyw fara croyw arall gall fod angen defnyddio'r Cymreigiad 'matsos'.